Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog
17.24A: Mae wedi ymgyrchu ar y mater. Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at y canlynol:
|
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a
chytunodd i: ·
ystyried sylwadau, a dderbyniwyd gan y deisebydd ar ôl i'r papurau gael eu
cyhoeddi, mewn cyfarfod yn y dyfodol; ac ·
ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i fynegi eu barn y dylid
cyhoeddi canlyniadau arolwg cyflwr yr ysgol. |
|
P-05-733 Dim gweithredu pellach ar Barthau Perygl Nitradau (NVZ) yng Nghymru o gwbl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet
dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y
deisebydd ac, o gofio cefnogaeth y deisebydd ar gyfer dull Ysgrifennydd y
Cabinet, cytunodd i gau'r ddeiseb. Wrth
wneud hynny, roeddent yn dymuno diolch i'r deisebydd am ddod â'r ddeiseb ymlaen
a'i chyfraniad at eu hystyriaeth o'r mater. |
|
P-05-743 Rhowch Derfyn ar Fasnachu Anifeiliaid Anwes Egsotig yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet
dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan
y deisebydd cyn ystyried camau pellach ar y ddeiseb. |
|
P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni,
Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a
chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn: o
am ragor o wybodaeth am y graddfeydd amser disgwyliedig o ran y dull
datblygu ar gyfer y fethodoleg asesu stoc ac a fydd hynny'n cael ei roi allan i
dendr ar wahân; o
gofyn iddi ymateb i bryderon gan y gymuned leol am y diffyg arwyddion amlwg
a chlir sy'n ymwneud â chau'r pysgodfeydd, ac a ellir mynd i'r afael â hyn. |
|
P-05-740 Deiseb i Warchod Ein Stryd Fawr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb o ystyried y camau diweddar ar y mater
hwn a diffyg ymateb diweddar gan y deisebydd |
|
P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i
ysgrifennu at Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU i ofyn a ydynt wedi cynnal
adolygiad i ddarparu gwregysau diogelwch ar bob bws sy'n cludo plant a'r angen
i bob gyrrwr bws gael ei wirio gan DBS. |
|
P-05-768 Galwad i ddychwelyd darpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod 24 awr i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghyd
â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:
|
|
P-05-800 Apêl Brys am Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru i ofalu am iechyd a lles cyn-filwyr sydd wedi’u hanafu, sy’n sâl neu sy’n ddigartref Dogfennau ategol:
Cofnodion:
o
a fydd cyfle i'r deisebydd ac eraill gyfrannu at drafodaethau ar y pwnc
hwn. |
|
Sesiwn dystiolaeth - P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch ·
Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol ·
Liz Davies - Uwch Swyddog Meddygol ·
Ainsley Bladon - Arweinydd Strategaeth Iechyd Meddwl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol, Liz Davies ac Ainsley Bladon, Llywodraeth Cymru. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
Trafod Sesiynau Tystiolaeth Blaenorol Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r dystiolaeth a dderbyniwyd ar P-05-736 i
Wneud Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn fwy Hygyrch a chytunodd i geisio ymateb y
deisebydd yn dilyn y sesiwn dystiolaeth, cyn cytuno ar ba gamau pellach i'w
cymryd ar y ddeiseb. |