Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 258(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 04/02/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(0 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. Cofnodion: Ni
chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.35 |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Rhyng-Weinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.03 |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2020 NDM7258 - Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo
bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio)
2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Ionawr 2020.
Dogfennau Atodol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.38 NDM7258 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi)
(Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Ionawr 2020.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(120 munud) |
Dadl: Cyllideb Ddrafft 2020-2021 NDM7259 - Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12: Yn nodi'r Gyllideb
Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd ar 16 Rhagfyr 2019. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.45 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7259 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12: Yn
nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd ar 16 Rhagfyr 2019. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru NDM7260 - Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod adroddiad
hanesyddol y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru a’r corff o dystiolaeth na
welwyd mo’i debyg o’r blaen a gynhyrchwyd ganddo, ac yn diolch i aelodau a
staff y Comisiwn am eu gwaith; 2. Yn cydnabod
ymroddiad yr unigolion a’r sefydliadau lawer sy’n gweithio yn y system
gyfiawnder, a’u hymrwymiad i wasanaethu’r cyhoedd, ond yn nodi hefyd y siom bod
y Comisiwn wedi dod i’r casgliad canolog nad yw eu system gyfiawnder yn diwallu
anghenion pobl Cymru yn ddigonol; 3. Yn cefnogi
bwriad Llywodraeth Cymru i weithredu ar yr argymhellion hynny sydd o fewn ei
chymhwysedd ar hyn o bryd a gweithio gyda chyrff eraill i weithredu ar
argymhellion sy’n gyfrifoldeb arnynt hwythau; 4. Yn nodi prif
ganfyddiad y Comisiwn fod rhaid penderfynu ynghylch polisi a’i oruchwylio, yng
Nghymru, os dymunir gweld gwahaniaeth parhaus yn y modd y cyflawnir cyfiawnder
yng Nghymru; a 5. Yn gefnogol o
ddatganoli cyfiawnder a phlismona, wedi’u cyllido’n llawn er mwyn sicrhau bod
gweithrediaeth y system gyfiawnder yn cyd-fynd â’r amcanion polisi ehangach i
Gymru y cytunwyd arnynt gan y Cynulliad hwn. Adroddiad
y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi
yn ei le: Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi
adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac yn cydnabod yr ymroddiad a'r
ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus a ddangosir gan y nifer fawr o bobl a
sefydliadau sy'n gweithio yn y system gyfiawnder. 2. Yn gresynu wrth
fethiannau yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru, lle mae Llywodraeth
Cymru yn gyfrifol am amrywiaeth o wasanaethau allweddol. 3. Yn croesawu
ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddarparu gwasanaethau rheoli troseddwyr yng
Nghymru sy'n adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru. 4. Yn nodi bod yn
rhaid i natur drawsffiniol gweithgarwch troseddol fod yn ganolog i weithredu
cyfiawnder a phlismona yng Nghymru. [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Dileu pwyntiau 3, 4
a 5 a rhoi yn eu lle: Yn gwrthwynebu
datganoli cyfiawnder a phlismona. Yn croesawu'r
cynnydd yn y cyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer plismona. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i gynyddu'r cyllid i wella'r system gyfiawnder. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.27 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7260 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod adroddiad hanesyddol y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru a’r corff
o dystiolaeth na welwyd mo’i debyg o’r blaen a gynhyrchwyd ganddo, ac yn diolch
i aelodau a staff y Comisiwn am eu gwaith; 2.
Yn cydnabod ymroddiad yr unigolion a’r sefydliadau lawer sy’n gweithio yn y
system gyfiawnder, a’u hymrwymiad i wasanaethu’r cyhoedd, ond yn nodi hefyd y
siom bod y Comisiwn wedi dod i’r casgliad canolog nad yw eu system gyfiawnder
yn diwallu anghenion pobl Cymru yn ddigonol; 3.
Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i weithredu ar yr argymhellion hynny sydd o
fewn ei chymhwysedd ar hyn o bryd a gweithio gyda chyrff eraill i weithredu ar
argymhellion sy’n gyfrifoldeb arnynt hwythau; 4.
Yn nodi prif ganfyddiad y Comisiwn fod rhaid penderfynu ynghylch polisi a’i
oruchwylio, yng Nghymru, os dymunir gweld gwahaniaeth parhaus yn y modd y
cyflawnir cyfiawnder yng Nghymru; a 5.
Yn gefnogol o ddatganoli cyfiawnder a phlismona, wedi’u cyllido’n llawn er mwyn
sicrhau bod gweithrediaeth y system gyfiawnder yn cyd-fynd â’r amcanion polisi
ehangach i Gymru y cytunwyd arnynt gan y Cynulliad hwn. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Dileu
popeth a rhoi yn ei le: Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac yn cydnabod yr
ymroddiad a'r ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus a ddangosir gan y nifer fawr o
bobl a sefydliadau sy'n gweithio yn y system gyfiawnder. 2.
Yn gresynu wrth fethiannau yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru, lle
mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am amrywiaeth o wasanaethau allweddol. 3.
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddarparu gwasanaethau rheoli
troseddwyr yng Nghymru sy'n adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth
Cymru. 4.
Yn nodi bod yn rhaid i natur drawsffiniol gweithgarwch troseddol fod yn ganolog
i weithredu cyfiawnder a phlismona yng Nghymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant
1. Dileu
pwyntiau 3, 4 a 5 a rhoi yn eu lle: Yn
gwrthwynebu datganoli cyfiawnder a phlismona. Yn
croesawu'r cynnydd yn y cyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer plismona. Yn
galw ar Lywodraeth y DU i gynyddu'r cyllid i wella'r system gyfiawnder. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant
2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig: NDM7260 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod adroddiad hanesyddol y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru a’r corff
o dystiolaeth na welwyd mo’i debyg o’r blaen a gynhyrchwyd ganddo, ac yn diolch
i aelodau a staff y Comisiwn am eu gwaith; 2.
Yn cydnabod ymroddiad yr unigolion a’r sefydliadau lawer sy’n gweithio yn y
system gyfiawnder, a’u hymrwymiad i wasanaethu’r cyhoedd, ond yn nodi hefyd y
siom bod y Comisiwn wedi dod i’r casgliad canolog nad yw eu system gyfiawnder
yn diwallu anghenion pobl Cymru yn ddigonol; 3.
Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i weithredu ar yr argymhellion hynny sydd o
fewn ei chymhwysedd ar hyn o bryd a gweithio gyda chyrff eraill i weithredu ar
argymhellion sy’n gyfrifoldeb arnynt hwythau; 4.
Yn nodi prif ganfyddiad y Comisiwn fod rhaid penderfynu ynghylch polisi a’i
oruchwylio, yng Nghymru, os dymunir gweld gwahaniaeth parhaus yn y modd y
cyflawnir cyfiawnder yng Nghymru; a 5.
Yn gefnogol o ddatganoli cyfiawnder a phlismona, wedi’u cyllido’n llawn er mwyn
sicrhau bod gweithrediaeth y system gyfiawnder yn cyd-fynd â’r amcanion polisi
ehangach i Gymru y cytunwyd arnynt gan y Cynulliad hwn.
Derbyniwyd y cynnig.
|
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.29 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd
y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif
Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 13.30 Gofynnwyd yr 8
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |