Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 248(v3) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/12/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(60 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 3.

Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1 a 3 - 8. Tynnwyd cwestiwn 2 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 3.

Atebodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip gwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau.

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.45

(45 munud)

3.

Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cynllun Aer Glân

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.05

 

(45 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Adroddiad Cynnydd Tlodi Plant 2019

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.00

 

(15 munud)

5.

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019

NDM7216 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Tachwedd 2019. 

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.35

NDM7216 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Tachwedd 2019. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 

(60 munud)

6.

Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru

NDM7217 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2018-19 ac ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2018-19.

Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2018-19

Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2018-19

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.42

NDM7217 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2018-19 ac ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2018-19.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Ni chafwyd cyfnod pleidleisio.