Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 212(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Gofynnwyd yr 8
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.19 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
Pwynt o Drefn Dechreuodd yr eitem am 15.09 Cododd
Mark Reckless bwynt o drefn ynghylch nifer y cwestiynau llefarwyr a ddyrennir i
grŵp newydd Plaid Brexit. Ailadroddodd y Llywydd bod y dyraniad o
gwestiynau arweinwyr a llefarwyr yn cael ei wneud yn ôl disgresiwn y Cadeirydd
a’i bod wedi penderfynu rhoi yr un dyraniad i’r grŵp newydd Plaid Brexit
ag yr oedd gan y grŵp UKIP yn fwyaf diweddar. Ychwanegodd y Llywydd bod
dyraniadau yn adlewyrchiad o gydbwysedd cyffredinol ac nid yn wyddoniaeth fanwl
na chyfrif pro-rata. |
||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am y comisiwn arbenigol a gaiff ei benodi o ran coridor yr M4 o
amgylch Casnewydd? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.10 Gofyn i Weinidog yr
Economi a Thrafnidiaeth Russell George (Sir Drefaldwyn):
A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am y comisiwn arbenigol a gaiff ei benodi o ran coridor yr M4 o
amgylch Casnewydd? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.42 Gwnaeth
Darren Millar ddatganiad am - Coffáu 75 mlynedd ers y
glaniadau D-Day yn Normandi. |
|||||||||||||||||||||||||
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (5 munud) Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio. NDM7063 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
17.13(ii), yn ethol Caroline Jones (Plaid Brexit) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Oherwydd y cafodd y Cynnig ei gefnogi gan ddau draean o’r
Aelodau a oedd yn pleidleisio, derbyniwyd y Cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr NDM7058
Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod pedair
blynedd ar 8 Mehefin 2019 ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr gael ei roi mewn mesurau arbennig. 2. Yn nodi ymhellach bod
y trefniadau mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi
bod yn gyson o dan oruchwyliaeth y Gweinidog Iechyd cyfredol. 3. Yn gresynu at y
ffaith bod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr welliannau sylweddol i'w
gwneud o hyd o ran ei wasanaethau iechyd meddwl ac o ran ei lywodraethu, ei
arweinyddiaeth a'i oruchwyliaeth, er gwaethaf treulio mwy o amser mewn mesurau
arbennig ar gyfer y materion hyn nag unrhyw sefydliad yn hanes y Gwasanaeth
Iechyd Gwladol. 4. Yn galw ar y
Gweinidog Iechyd i dderbyn ei gyfrifoldeb am fethu â chyflawni'r gwelliant
gofynnol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dros y pedair blynedd
diwethaf ac ymddiswyddo. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1 - Rebecca Evans (Gwyr) Dileu pwyntiau 2, 3 a
4 a rhoi yn eu lle: Yn cydnabod y cynnydd
sydd wedi’i wneud yn y meysydd cychwynnol y nodwyd eu bod yn peri pryder yn
2015, a’r ffocws a’r gwelliant sy’n ofynnol o hyd er mwyn i’r statws
uwchgyfeirio gael ei ostwng. Yn nodi y bydd unrhyw
benderfyniadau ynghylch newid statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr yn cael eu gwneud ar ôl cael cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru,
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Phrif Weithredwr GIG Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.44 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7058 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod pedair blynedd ar 8 Mehefin 2019 ers i Fwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi mewn mesurau arbennig. 2. Yn nodi ymhellach bod y trefniadau mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn gyson o dan oruchwyliaeth y Gweinidog
Iechyd cyfredol. 3. Yn gresynu at y ffaith bod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
welliannau sylweddol i'w gwneud o hyd o ran ei wasanaethau iechyd meddwl ac o
ran ei lywodraethu, ei arweinyddiaeth a'i oruchwyliaeth, er gwaethaf treulio
mwy o amser mewn mesurau arbennig ar gyfer y materion hyn nag unrhyw sefydliad
yn hanes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. 4. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd i dderbyn ei gyfrifoldeb am fethu â
chyflawni'r gwelliant gofynnol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dros y
pedair blynedd diwethaf ac ymddiswyddo.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr) Dileu pwyntiau 2, 3 a 4
a rhoi yn eu lle: Yn cydnabod y cynnydd
sydd wedi’i wneud yn y meysydd cychwynnol y nodwyd eu bod yn peri pryder yn
2015, a’r ffocws a’r gwelliant sy’n ofynnol o hyd er mwyn i’r statws
uwchgyfeirio gael ei ostwng. Yn nodi y bydd unrhyw
benderfyniadau ynghylch newid statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr yn cael eu gwneud ar ôl cael cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru,
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Phrif Weithredwr GIG Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7058 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod pedair blynedd ar 8 Mehefin 2019 ers i Fwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi mewn mesurau arbennig. 2. Yn cydnabod y cynnydd sydd wedi’i wneud yn y meysydd cychwynnol y
nodwyd eu bod yn peri pryder yn 2015, a’r ffocws a’r gwelliant sy’n ofynnol o
hyd er mwyn i’r statws uwchgyfeirio gael ei ostwng. 3. Yn nodi y bydd unrhyw benderfyniadau ynghylch newid statws
uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael eu gwneud ar ôl
cael cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Phrif
Weithredwr GIG Cymru.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Refferendwm cadarnhau gadael yr Undeb Ewropeaidd NDM7059
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn datgan ei gefnogaeth ddiamwys i refferendwm
cadarnhau ar ba delerau bynnag a gynigir gan unrhyw Brif Weinidog bod y
Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a bod
opsiwn ar y papur pleidleisio i barhau yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) Dileu'r cyfan a rhoi
yn ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; 1. Yn cydnabod ei bod
bron yn dair blynedd ers i bobl Cymru bleidleisio i adael yr UE ac nad ydym yn
nes at gyflawni eu dymuniadau. 2. Yn gresynu fod
Aelodau Seneddol o'r ddwy brif blaid wedi ceisio atal y DU rhag gadael yr UE,
er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi gwario £9miliwn ar daflen a oedd
yn addo cadw at ganlyniadau'r refferendwm a'r rhan fwyaf o Aelodau Seneddol a
etholwyd yn 2017 yn sefyll ar sail y maniffestos a oedd yn addo cyflawni
BREXIT. 3. Yn galw ar Brif
Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig i gyflawni dymuniadau'r bobl a gadael yr UE
ddim hwyrach na 31 Hydref 2019. [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 ei ddad-ddethol] Gwelliant
2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu'r cyfan a
rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod pobl
Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a
gynhaliwyd ym mis Mehefin 2016. 2. Yn credu y dylid
gweithredu ar ganlyniadau refferenda bob amser. [Os derbynnir
gwelliant 2, caiff gwelliant 3 eu dad-ddethol] Gwelliant
3 - Rebecca Evans (Gwyr) Ar ôl 'barhau yn aelod
o’r Undeb Ewropeaidd' rhoi 'ac yn dweud unwaith eto y byddai Brexit heb
gytundeb yn ganlyniad trychinebus a chwbl annerbyniol.' Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.46 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7059 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn datgan ei gefnogaeth ddiamwys
i refferendwm cadarnhau ar ba delerau bynnag a gynigir gan unrhyw Brif Weinidog
bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a bod opsiwn ar y papur
pleidleisio i barhau yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Trechu Tlodi NDM7029 John Griffiths
(Dwyrain Casnewydd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth trechu tlodi, gyda chyllideb a
chynllun gweithredu manwl ar gyfer gweithredu. 2.
Yn galw ar y Prif Weinidog i egluro'r meysydd cyfrifoldeb ar gyfer trechu tlodi
ym mhob portffolio gweinidogol. 3.
Yn cydnabod ac yn llywio atebolrwydd ar gynnydd a wneir ar yr agenda trechu
tlodi. Cyd-gyflwynwyr Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni) Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Cefnogwyr Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) David J Rowlands (Dwyrain De Cymru) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.58 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7029 John Griffiths (Dwyrain
Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i lunio strategaeth trechu tlodi, gyda chyllideb a chynllun gweithredu
manwl ar gyfer gweithredu. 2. Yn galw ar y Prif
Weinidog i egluro'r meysydd cyfrifoldeb ar gyfer trechu tlodi ym mhob
portffolio gweinidogol. 3. Yn cydnabod ac yn
llywio atebolrwydd ar gynnydd a wneir ar yr agenda trechu tlodi. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.07 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7060
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Dad-ddofi Tir Cymru:
yr achos dros anadlu bywyd i'n tirweddau a'n cymunedau gwledig ar Ddiwrnod
Amgylchedd y Byd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.11 NDM7060 Joyce Watson (Canolbarth a
Gorllewin Cymru) Dad-ddofi Tir Cymru: yr achos dros anadlu bywyd i'n
tirweddau a'n cymunedau gwledig ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd. |