Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 207(v5) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(60 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd  cwestiynau 1-2 a 4-9 . Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

Atebodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip y 6 chwestiwn yn y 15 munud olaf o’r sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau.

 

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.51

 

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.16

 

(45 munud)

4.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Llwybr Arfordir Cymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.50

 

(45 munud)

5.

Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Teithio Llesol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.28

 

(60 munud)

6.

Dadl: Adroddiad Blynyddol 2018-19 Prif Swyddog Meddygol Cymru - Gwerthfawrogi ein Hiechyd

NDM7048 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru ar gyfer 2018-19 ‘Gwerthfawrogi ein Hiechyd’ a gyhoeddwyd ar 7 Mai 2019 ac yn croesawu yn arbennig:

a) sylwadau’r Prif Swyddog Meddygol ynghylch llwyddiannau, cyfleoedd a heriau sy’n ein hwynebu wrth geisio gwella iechyd pobl Cymru;

b) ei sylw ar bwysigrwydd sicrhau’r gwerth gorau posib am arian o’r adnoddau sydd ar gael mewn gofal iechyd;

c) pwysigrwydd ymchwil i wella iechyd ac economi Cymru; a 

d) ei asesiad o’r prif fygythiadau i iechyd sydd yn ein hwynebu.

Adroddiad Blynyddol 2018/19 Prif Swyddog Meddygol Cymru

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y methiant parhaus i gyflwyno deddfwriaeth i fynd i'r afael â llygredd aer fel ffordd o wella iechyd.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.10

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7048 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru ar gyfer 2018-19 ‘Gwerthfawrogi ein Hiechyd’ a gyhoeddwyd ar 7 Mai 2019 ac yn croesawu yn arbennig:

a) sylwadau’r Prif Swyddog Meddygol ynghylch llwyddiannau, cyfleoedd a heriau sy’n ein hwynebu wrth geisio gwella iechyd pobl Cymru;

b) ei sylw ar bwysigrwydd sicrhau’r gwerth gorau posib am arian o’r adnoddau sydd ar gael mewn gofal iechyd;

c) pwysigrwydd ymchwil i wella iechyd ac economi Cymru; a

d) ei asesiad o’r prif fygythiadau i iechyd sydd yn ein hwynebu.

Adroddiad blynyddol y Prif Swyddog Meddygol: 2018 i 2019

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y methiant parhaus i gyflwyno deddfwriaeth i fynd i'r afael â llygredd aer fel ffordd o wella iechyd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

27

42

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7048 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru ar gyfer 2018-19 ‘Gwerthfawrogi ein Hiechyd’ a gyhoeddwyd ar 7 Mai 2019 ac yn croesawu yn arbennig:

a) sylwadau’r Prif Swyddog Meddygol ynghylch llwyddiannau, cyfleoedd a heriau sy’n ein hwynebu wrth geisio gwella iechyd pobl Cymru;

b) ei sylw ar bwysigrwydd sicrhau’r gwerth gorau posib am arian o’r adnoddau sydd ar gael mewn gofal iechyd;

c) pwysigrwydd ymchwil i wella iechyd ac economi Cymru; a

d) ei asesiad o’r prif fygythiadau i iechyd sydd yn ein hwynebu.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

0

43

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

 

7.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.50

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: