Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Amseriad disgwyliedig: 123(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/03/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar
Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.16 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwerthfawrogi Gweithlu'r GIG Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.35 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.27 |
|||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Gorfodaeth Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2018 NDM6676
Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r
Rheoliadau Gorfodi Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2018 yn cael ei llunio yn unol
â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 25 Ionawr 2018. Dogfennau
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.20 NDM6676 Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r
Rheoliadau Gorfodi Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2018 yn cael ei llunio yn unol
â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2018. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2018 NDM6674
Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn
cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru)
(Diwygio) 2018 yn cael eillunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2018. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.26 NDM6674
Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o
Reoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol
â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror
2018. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(30 munud) |
Dadl: Yr Ail Gyllideb Atodol 2017-18 NDM6657
Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod y Cynulliad, yn
unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y
flwyddyn ariannol 2017-18 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 9
Chwefror 2018. Troednodyn: Yn unol â'r darpariaethau
perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb
Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol: i. y datganiad ysgrifenedig
sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; ii. yr adnoddau y cytunwyd
arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y
mae'r cynnig yn ymwneud â hi; iii. cysoniad rhwng yr
adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau
yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig; iv. cysoniad rhwng y symiau
amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol
a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; a v. cysoniad rhwng yr adnoddau
i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir
eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c). Mae'r wybodaeth ychwanegol
isod wedi'i darparu i'r Aelodau: - nodyn yn egluro'r prif
wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol. Dogfen
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.31 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6657 Julie James (Gorllewin
Abertawe) Cynnig bod y Cynulliad,
yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y
flwyddyn ariannol 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth,
6 Chwefror 2018. Troednodyn: Yn unol â'r
darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20,
mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol: i. y datganiad
ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; ii. yr adnoddau y
cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn
ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; iii. cysoniad rhwng yr
adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau
yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig; iv. cysoniad rhwng y
symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd
Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; a v. cysoniad rhwng yr
adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr
awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c). Mae'r wybodaeth
ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau: - nodyn yn egluro'r prif
wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2016-17 NDM6675
Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad blynyddol Prif
Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2016-17. Gosodwyd
copi o’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2018. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: NDM6675 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod y Prif Arolygydd yn datgan yn yr
adroddiad bod “gwella’r cwricwlwm a phrofiadau dysgu disgyblion yn mynd
law yn llaw â gwella ansawdd addysgu. Mae gwella addysgu yn mynnu gwell
cymorth, dysgu proffesiynol a datblygiad staff ar gyfer athrawon presennol, yn
ogystal â recriwtio gwell ac addysg a hyfforddiant cychwynnol gwell”. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.06 NDM6675
Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant
yng Nghymru ar gyfer 2016-17. Gosodwyd copi o’r adroddiad yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2018. Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: NDM6675
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
nodi bod y Prif Arolygydd yn datgan yn yr adroddiad bod “gwella’r
cwricwlwm a phrofiadau dysgu disgyblion yn mynd law yn llaw â gwella ansawdd
addysgu. Mae gwella addysgu yn mynnu gwell cymorth, dysgu proffesiynol a
datblygiad staff ar gyfer athrawon presennol, yn ogystal â recriwtio gwell ac
addysg a hyfforddiant cychwynnol gwell”. Derbyniwyd
y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. NDM6675
Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a
Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2016-17. 2.
Yn nodi bod y Prif Arolygydd yn datgan yn yr adroddiad bod “gwella’r
cwricwlwm a phrofiadau dysgu disgyblion yn mynd law yn llaw â gwella ansawdd
addysgu. Mae gwella addysgu yn mynnu gwell cymorth, dysgu proffesiynol a
datblygiad staff ar gyfer athrawon presennol, yn ogystal â recriwtio gwell ac
addysg a hyfforddiant cychwynnol gwell. Derbyniwyd
y cynnig fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
Cynnig i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud) |
||||||||||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 fod Bil a elwir yn Fil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yn cael ei drin fel Bil Brys y Llywodraeth NDM6672
Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.95 yn: Cytuno bod Bil llywodraeth a gaiff ei alw'n Fil Cyfraith
sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a gyflwynir yn y Cynulliad, yn cael
ei drin fel Bil Brys llywodraeth. Yn
unol â Rheol Sefydlog 26.95A, gosodwyd
datganiad ynglŷn â'r Bil a gaiff ei alw'n Fil Cyfraith sy'n Deillio o'r
Undeb Ewropeaidd (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 27 Chwefror 2018. Cofnodion: Dechreuodd yr eitemau am 17.57 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6672 Julie James (Gorllewin
Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.95 yn: Cytuno bod Bil llywodraeth a gaiff ei alw'n Fil
Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a gyflwynir yn y Cynulliad,
yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth. Yn unol â Rheol Sefydlog
26.95A, gosodwyd datganiad
ynglŷn â'r Bil a gaiff ei alw'n Fil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb
Ewropeaidd (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 27 Chwefror 2018. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.98(ii) i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil a elwir yn Fil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) NDM6673
Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.98(ii) yn: Cytuno y bydd yr amserlen
ar gyfer Bil Brys llywodraeth a gaiff ei alw'n Fil Cyfraith sy'n Deillio o'r
Undeb Ewropeaidd (Cymru) fel ag y mae yn yr Amserlen ar gyfer ystyried Bil
Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a osodwyd
gerbron y Cynulliad ar 27 Chwefror 2018. Cofnodion: Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6673 Julie James (Gorllewin
Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.98(ii) yn: Cytuno y bydd yr amserlen ar
gyfer Bil Brys llywodraeth a gaiff ei alw'n Fil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb
Ewropeaidd (Cymru) fel ag y mae yn yr Amserlen ar gyfer ystyried Bil Cyfraith
sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 27 Chwefror 2018. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.44 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |