Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 95(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/10/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld Cofnod y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar
Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd y 10 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif
Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.19 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.39 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Y wybodaeth diweddaraf am sefyll arholiadau TGAU yn gynnar Dogfen
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.11 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad rhag Ardrethi Annomestig) NDM6529 Mark Drakeford
(Gorllewin Caerdydd): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Seilwaith
Telathrebu (Rhyddhad rhag Ardrethi Annomestig), sy'n ymwneud â rhyddhad
ardrethi annomestig, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Gorffennaf 2017
yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU: Bill
documents — Telecommunications Infrastructure (Relief from Non-Domestic Rates)
Bill 2017-19 — UK Parliament (Saesneg yn unig) Dogfen ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.49 NDM6529 Mark Drakeford
(Gorllewin Caerdydd): Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad rhag
Ardrethi Annomestig), sy'n ymwneud â rhyddhad ardrethi annomestig, i'r graddau
y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb NDM6530 Jane Hutt (Bro
Morgannwg): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â Fframwaith
Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb Llywodraeth Cymru o ganlyniad i waith yn
cynnwys amrywiaeth eang o bartneriaid ar draws Cymru. 'Fframwaith
Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb' Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi, er y bu cynnydd cyson yng nghyfanswm nifer y
troseddau casineb a gaiff eu cofnodi, fod yr elusen Cymorth i Ddioddefwyr wedi
dweud bod angen gwneud mwy i annog dioddefwyr i siarad am eu profiad. Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu cod ymarfer newydd Llywodraeth y DU ar
gyfryngau cymdeithasol a fydd yn sicrhau dull gweithredu cydgysylltiedig mewn
perthynas â dileu neu fynd i'r afael â chynnwys ar-lein sy'n bwlio, sy'n
fygythiol neu'n fychanol. Llywodraeth
y DU - 'Internet Safety Strategy Green Paper' (Saesneg yn unig) Gwelliant 3. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am gydnabod bod troseddau a gyflawnir yn erbyn
pobl hŷn oherwydd eu hoedran yn droseddau casineb. Gwelliant 4. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ychwanegu troseddau casineb
at y strategaeth awtistiaeth ddiwygiedig. 'Llywodraeth Cymru
- Cynllun Gweithredu Strategol ar Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig' Gwelliant 5. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â
radicaleiddio dynion gwyn i mewn i grwpiau asgell dde, gan nodi gweithgarwch
terfysgol diweddar a gyflawnwyd gan yr asgell dde. Gwelliant 6. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mwy o swyddogion
cymorth i ddioddefwyr. Gwelliant 7. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno hyfforddiant i
athrawon ar sut i ddelio â digwyddiadau sy'n gysylltiedig â chasineb mewn
ysgolion, a chymryd camau i atal ysgolion rhag cadw hyn yn gudd. Gwelliant 8. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella cydlyniant cymunedol
yn dilyn digwyddiadau terfysgol gan mai dyma pryd y mae troseddau casineb yn
erbyn Mwslimiaid yn tueddu i gynyddu. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.56 NDM6530 Jane Hutt (Bro
Morgannwg): Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi'r cynnydd a wnaed
mewn perthynas â Fframwaith Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb Llywodraeth
Cymru o ganlyniad i waith yn cynnwys amrywiaeth eang o bartneriaid ar draws
Cymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi, er y bu cynnydd
cyson yng nghyfanswm nifer y troseddau casineb a gaiff eu cofnodi, fod yr
elusen Cymorth i Ddioddefwyr wedi dweud bod angen gwneud mwy i annog dioddefwyr
i siarad am eu profiad. Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu cod ymarfer
newydd Llywodraeth y DU ar gyfryngau cymdeithasol a fydd yn sicrhau dull
gweithredu cydgysylltiedig mewn perthynas â dileu neu fynd i'r afael â chynnwys
ar-lein sy'n bwlio, sy'n fygythiol neu'n fychanol. Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am gydnabod bod
troseddau a gyflawnir yn erbyn pobl hŷn oherwydd eu hoedran yn droseddau
casineb. Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gwelliant 4. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ychwanegu troseddau casineb at y strategaeth awtistiaeth ddiwygiedig. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i fynd i'r afael â radicaleiddio dynion gwyn i mewn i grwpiau asgell dde,
gan nodi gweithgarwch terfysgol diweddar a gyflawnwyd gan yr asgell dde. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Gwelliant 6. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddarparu mwy o swyddogion cymorth i ddioddefwyr. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant 6. Gwelliant 7. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno hyfforddiant i athrawon ar sut i ddelio â digwyddiadau sy'n
gysylltiedig â chasineb mewn ysgolion, a chymryd camau i atal ysgolion rhag
cadw hyn yn gudd. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 7:
Gwrthodwyd gwelliant 7. Gwelliant 8. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i wella cydlyniant cymunedol yn dilyn digwyddiadau terfysgol gan mai dyma
pryd y mae troseddau casineb yn erbyn Mwslimiaid yn tueddu i gynyddu. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 8:
Derbyniwyd gwelliant 8. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6530 Jane Hutt (Bro
Morgannwg): Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r cynnydd a
wnaed mewn perthynas â Fframwaith Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb
Llywodraeth Cymru o ganlyniad i waith yn cynnwys amrywiaeth eang o bartneriaid
ar draws Cymru. 2. Yn nodi, er y bu
cynnydd cyson yng nghyfanswm nifer y troseddau casineb a gaiff eu cofnodi, fod
yr elusen Cymorth i Ddioddefwyr wedi dweud bod angen gwneud mwy i annog
dioddefwyr i siarad am eu profiad. 3. Yn croesawu cod
ymarfer newydd Llywodraeth y DU ar gyfryngau cymdeithasol a fydd yn sicrhau
dull gweithredu cydgysylltiedig mewn perthynas â dileu neu fynd i'r afael â
chynnwys ar-lein sy'n bwlio, sy'n fygythiol neu'n fychanol. 4. Yn galw am gydnabod
bod troseddau a gyflawnir yn erbyn pobl hŷn oherwydd eu hoedran yn
droseddau casineb. 5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i fynd i'r afael â radicaleiddio dynion gwyn i mewn i grwpiau asgell dde,
gan nodi gweithgarwch terfysgol diweddar a gyflawnwyd gan yr asgell dde. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella cydlyniant cymunedol
yn dilyn digwyddiadau terfysgol gan mai dyma pryd y mae troseddau casineb yn
erbyn Mwslimiaid yn tueddu i gynyddu.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Yr Economi Gylchol NDM6531
Jane
Hutt (Bro Morgannwg): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i gyflawni hyd yma yng
Nghymru o safbwynt arwain o fewn y DU a bod y drydedd wlad orau yn y byd o ran
ailgylchu trefol. 2. Yn cefnogi'r bwriad i ddatblygu economi fwy cylchol i
Gymru, gan gynnwys ystyried yr achos o blaid: a) Targed o ailgylchu 80% o wastraff trefol; ac b) Targed o leihau gwastraff bwyd 50%. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â
hynny: Yn llongyfarch Cyngor Ceredigion ar barhau i fod y cyngor
sy'n perfformio orau mewn perthynas ag ailgylchu. Gwelliant
2. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ym mhwynt 2,dileu popeth ar ôl 'yr achos o blaid' a rhoi
yn ei le: 'targed o sicrhau dyfodol diwastraff erbyn 2030.' Gwelliant
3. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi'r effaith sylweddol y gallai'r cynllun dychwelyd
blaendal ei chael o ran helpu i gyrraedd targedau ailgylchu Cymru. Gwelliant
4. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu cytundeb y gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a
Phlaid Cymru i gynyddu cyfraddau ailgylchu ymhellach drwy dreialu cynllun
dychwelyd blaendal. Gwelliant
5. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cefnogi'r cynnig i ostwng lefelau gwastraff
gweddilliol drwy gyflwyno treth ar blastigau na ellir eu hailddefnyddio a na
ellir eu hailgylchu. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.44 NDM6531 Jane Hutt (Bro
Morgannwg): Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r cynnydd sydd
wedi'i gyflawni hyd yma yng Nghymru o safbwynt arwain o fewn y DU a bod y
drydedd wlad orau yn y byd o ran ailgylchu trefol. 2. Yn cefnogi'r bwriad i
ddatblygu economi fwy cylchol i Gymru, gan gynnwys ystyried yr achos o blaid: a) Targed o ailgylchu 80%
o wastraff trefol; ac b) Targed o leihau
gwastraff bwyd 50%. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn llongyfarch Cyngor
Ceredigion ar barhau i fod y cyngor sy'n perfformio orau mewn perthynas ag
ailgylchu. Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ym mhwynt 2,dileu popeth
ar ôl 'yr achos o blaid' a rhoi yn ei le: 'targed o sicrhau
dyfodol diwastraff erbyn 2030.' Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi'r effaith sylweddol
y gallai'r cynllun dychwelyd blaendal ei chael o ran helpu i gyrraedd targedau
ailgylchu Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu cytundeb y
gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i gynyddu cyfraddau ailgylchu ymhellach
drwy dreialu cynllun dychwelyd blaendal. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cefnogi'r cynnig i
ostwng lefelau gwastraff gweddilliol drwy gyflwyno treth ar blastigau na ellir
eu hailddefnyddio a na ellir eu hailgylchu. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6531 Jane
Hutt (Bro Morgannwg): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i gyflawni hyd yma yng Nghymru o safbwynt
arwain o fewn y DU a bod y drydedd wlad orau yn y byd o ran ailgylchu trefol. 2. Yn llongyfarch Cyngor Ceredigion ar barhau i fod y cyngor
sy'n perfformio orau mewn perthynas ag ailgylchu. 3. Yn cefnogi'r bwriad i ddatblygu economi fwy cylchol i Gymru, gan
gynnwys ystyried yr achos o blaid: a) Targed o ailgylchu 80% o wastraff trefol; ac b) Targed o leihau gwastraff bwyd 50%. 4. Yn nodi'r effaith sylweddol y gallai'r cynllun dychwelyd
blaendal ei chael o ran helpu i gyrraedd targedau ailgylchu Cymru. 5. Yn croesawu cytundeb
y gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i gynyddu cyfraddau ailgylchu
ymhellach drwy dreialu cynllun dychwelyd blaendal. 6. Yn cefnogi'r cynnig i
ostwng lefelau gwastraff gweddilliol drwy gyflwyno treth ar blastigau na ellir
eu hailddefnyddio a na ellir eu hailgylchu.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.22 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau 17.10.17 Dogfennau ategol: |