Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 60(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld Cofnod y Trafodion |
||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Yn unol â Rheol Sefydlog
12.58, bydd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn ateb cwestiynau ar ran
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Weinidog y Gymraeg a
Dysgu Gydol Oes ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Yn unol â Rheol Sefydlog 12.58, atebodd Gweinidog y
Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Gofynnwyd cwestiynau 1 – 8 a 10 - 11. Tynnwyd cwestiwn 9 yn
ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Weinidog y
Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar ôl cwestiwn 2. |
|
(30 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.19 Gofynnwyd y 5 cwestiwn. |
|
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am 14.42 I Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: David Rees (Aberafan): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cynnal â Llywodraeth y
DU ynghylch y penderfyniad i adeiladu carchar ym Mhort Talbot? EAQ(5)0124(CC) |
||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.07 Ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau. |
|
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM6259 1. Yn nodi bod Cymru yn elwa ar arfordir hir a'r ail
gyrhaeddiad llanw uchaf yn y byd. 2. Yn nodi ymhellach fod gweithgarwch economaidd yn
gysylltiedig â'r môr eisoes yn werth tua £2.1 biliwn yng Nghymru, ac yn cynnal
degau o filoedd o swyddi. 3. Yn credu y bydd ymrwymiad strategol i'r economi las yn
galluogi Cymru i droi ein moroedd yn un o'n hasedion economaidd mwyaf. 4. Yn credu ymhellach y gall Cymru fod yn arweinydd ym
maes ynni adnewyddadwy morol, twristiaeth a chwaraeon, pysgota, bwyd a
dyframaethu, a gweithgynhyrchu a pheirianneg morol. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Cynllun Morol
uchelgeisiol i gefnogi datblygiad cynaliadwy yr economi las, a'i gwneud yn
elfen ganolog o'i strategaeth economaidd newydd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.07 NDM6259 1. Yn
nodi bod Cymru yn elwa ar arfordir hir a'r ail gyrhaeddiad llanw uchaf yn y
byd. 2. Yn
nodi ymhellach fod gweithgarwch economaidd yn gysylltiedig â'r môr eisoes yn
werth tua £2.1 biliwn yng Nghymru, ac yn cynnal degau o filoedd o swyddi. 3. Yn
credu y bydd ymrwymiad strategol i'r economi las yn galluogi Cymru i droi ein
moroedd yn un o'n hasedion economaidd mwyaf. 4. Yn
credu ymhellach y gall Cymru fod yn arweinydd ym maes ynni adnewyddadwy morol,
twristiaeth a chwaraeon, pysgota, bwyd a dyframaethu, a gweithgynhyrchu a
pheirianneg morol. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Cynllun Morol
uchelgeisiol i gefnogi datblygiad cynaliadwy yr economi las, a'i gwneud yn
elfen ganolog o'i strategaeth economaidd newydd. Datganiad y Llywydd Am 15.57, gwnaeth y Llywydd ddatganiad yn sgil y
digwyddiadau a oedd yn mynd rhagddynt yn San Steffan. Cymerwyd y camau
diogelwch priodol yn y Cynulliad, ac roedd y mater yn cael ei adolygu’n rheolaidd.
Dywedodd y Llywydd bod ein meddyliau gyda’n cydweithwyr a phawb yn San Steffan
yn y cyfnod anodd hwn. |
|
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y goblygiadau i Gymru wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd NDM6267 David Rees (Aberafan) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a
Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei Ymchwiliad i'r goblygiadau i Gymru yn sgil gadael
yr Undeb Ewropeaidd, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2017. Nodyn: Gosodwyd
yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 15 Mawrth 2017. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd y gwelliant a gyflwynwyd
i’r cynnig hwn. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.04 Datganiad y Llywydd Am 16.17, bu i’r Llywydd ohirio trafodion y diwrnod yn
unol â Rheol Sefydlog 12.18, yn sgil yr hyn oedd yn cael ei drin i fod yn
ddigwyddiad difrifol o frawychiaeth yn San Steffan. Caiff busnes y Cynulliad ei
aildrefnu maes o law. Daeth y cyfarfod i ben am 16.18 Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 28 Mawrth 2017. |
|
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6268 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) 1. Yn nodi pa mor bwysig yw cynllunio sgiliau ymlaen llaw
er mwyn diwallu anghenion y diwydiant adeiladu yn y dyfodol i ddarparu
prosiectau seilwaith yng Nghymru a thu hwnt. 2. Yn credu bod angen diwygio proses gaffael y sector
cyhoeddus yng Nghymru er mwyn elwa'n llawn ar botensial cymdeithasol,
economaidd ac amgylcheddol pŵer prynu sector cyhoeddus Cymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) gyflwyno Bil Caffael i'w gwneud yn ofynnol i gyrff y
sector cyhoeddus ddilyn polisi Llywodraeth Cymru ar gaffael, er mwyn sicrhau
bod adeiladu yn cael yr effaith gymdeithasol ac economaidd fwyaf bosibl; b) sefydlu fframwaith cenedlaethol ar gyfer proses
gaffael y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn sicrhau y caiff y dyheadau yn
Natganiad Polisi Caffael Cymru eu gwireddu; c) codi lefelau gwariant seilwaith cyfalaf er mwyn hybu'r
economi yng Nghymru, gan roi hwb angenrheidiol i'r sector adeiladu; d) ystyried yr achos dros sefydlu Coleg Adeiladu
Cenedlaethol i Gymru er mwyn meithrin sgiliau o ansawdd uchel yn y diwydiant
adeiladu. 'Datganiad
Polisi Caffael Cymru' Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro
Morgannwg): Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: 2. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru yn datblygu Datganiad
Polisi Caffael Cymru sydd wedi lleihau rhwystrau rhag caffael ar gyfer busnesau
bach a chanolig ar hyd a lled Cymru. 3. Yn cydnabod yr angen i gynyddu gallu o fewn sector
cyhoeddus Cymru i fanteisio i'r eithaf ar effaith gwariant caffael o fewn
economi Cymru. 4. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen
newydd ar gyfer caffael er mwyn helpu i alluogi sector cyhoeddus Cymru i wneud
defnydd deallus o bolisi a deddfwriaeth ar draws Cymru. 5. Yn cydnabod cynlluniau buddsoddi cyfalaf Llywodraeth
Cymru a'r cyfleoedd caffael sylweddol sy'n cael eu cyflwyno gan gynlluniau
Metro De Cymru a Metro Gogledd-ddwyrain Cymru; rhaglen Ysgolion yr 21ain
Ganrif; ffordd liniaru'r M4; adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy; gwelliannau i
rwydwaith trafnidiaeth Cymru a phrosiectau seilwaith sylweddol eraill. Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau a fydd yn
rhoi contractau'r sector cyhoeddus o fewn cyrraedd cwmnïau Cymru, yn arbennig
busnesau bach a chanolig. |
|
Cyfnod pleidleisio |
||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6266
Dawn Bowden
(Merthyr Tydfil a Rhymni) |