Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 54(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld
Cofnod
y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am 13.30
Adam Price
(Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adroddiadau bod Ford yn
bwriadu cael gwared â dros 1,000 o swyddi o'i waith adeiladu peiriannau ym
Mhen-y-bont ar Ogwr? |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Bydd
y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.57 Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn
3 gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn
2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Bydd
y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.52 Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 3 gan y
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar
ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.45 Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad ar Ramblers Cymru. Gwnaeth Nick Ramsay ddatganiad ar ymgyrch Skin Care Cymru
‘Peidiwch â bod yn gimwch’. Gwnaeth Sian Gwenllian ddatganiad ar Shiromini
Satkunarajah. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Ymchwiliadau ac Ymgysylltu Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.51 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6245 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cyfraniad amlwg
Cymru i'r chwyldro diwydiannol, i greu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'i rôl
arweiniol o ran datblygu'r ddarpariaeth addysg uwchradd. 2. Yn gresynu: a) at ystadegau diweddar
gwerth ychwanegol gros (GVA) a ryddhawyd ym mis Rhagfyr 2016 sy'n dangos mai 71
y cant o gyfartaledd GVA y pen y DU oedd GVA y pen Cymru yn 2015, sef yr isaf
ymysg y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr; b) y bydd cleifion yng
Nghymru yn aros yn sylweddol hirach i gael diagnosis a thriniaeth nag y byddent
am yr un cyflyrau yn Lloegr a'r Alban; ac c) at berfformiad
diweddaraf Cymru yn Rhaglen Asesiadau Myfyrwyr Rhynglwadol 2015 Y Sefydliad ar
gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), a gyhoeddwyd ym mis
Rhagfyr 2016, a oedd yn dangos bod sgorau mathemateg, darllen a gwyddoniaeth
2015 yn is nag yn 2006, ac yn is na'r cyfartaledd ar gyfer y DU. 3. Yn cydnabod: a) rôl hanfodol addysg a
sgiliau fel ysgogiad pwysig i wella lefelau cynhyrchiant economaidd Cymru; b) yr angen am wella
cyson o ran amseroedd aros Cymru ar gyfer diagnosis a thriniaeth; ac c) potensial yr economi
las a gwyrdd o ran sicrhau ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol. 'Gwerth ychwanegol crynswth rhanbarthol a gwerth
ychwanegol crynswth isranbarthol, Rhagfyr 2016' 'OECD Programme for International Student Assessment
2015' (Saesneg yn unig) Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn nodi: a) bod cyfradd ddiweithdra Cymru wedi gostwng i 4.4%,
sy'n is na chyfartaledd y DU; b) bod y dangosyddion ansawdd gofal iechyd a gyhoeddwyd
gan yr OECD yn ddiweddar yn dangos bod Cymru'n perfformio ar lefel gyfatebol
neu well na gwledydd eraill y DU o ran y rhan fwyaf o'r dangosyddion; c) bod canlyniadau arholiadau TGAU Cymru yn 2015/16 yn
dangos bod y prif fesur perfformiad wedi cynyddu bob blwyddyn ers i'r cofnodi
ddechrau yn 2006-07, a bod y bwlch rhwng cyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys i
gael prydau ysgol am ddim a chyrhaeddiad eu cyd-ddisgyblion yn cau. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.20 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6245 Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cyfraniad amlwg Cymru i'r chwyldro diwydiannol, i greu'r
Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'i rôl arweiniol o ran datblygu'r ddarpariaeth
addysg uwchradd. 2. Yn gresynu: a) at ystadegau diweddar gwerth ychwanegol gros (GVA) a ryddhawyd ym mis
Rhagfyr 2016 sy'n dangos mai 71 y cant o gyfartaledd GVA y pen y DU oedd GVA y
pen Cymru yn 2015, sef yr isaf ymysg y gwledydd datganoledig a rhanbarthau
Lloegr; b) y bydd cleifion yng Nghymru yn aros yn sylweddol hirach i gael diagnosis
a thriniaeth nag y byddent am yr un cyflyrau yn Lloegr a'r Alban; ac c) at berfformiad diweddaraf Cymru yn Rhaglen Asesiadau Myfyrwyr
Rhynglwadol 2015 Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd
(OECD), a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016, a oedd yn dangos bod sgorau
mathemateg, darllen a gwyddoniaeth 2015 yn is nag yn 2006, ac yn is na'r
cyfartaledd ar gyfer y DU. 3. Yn cydnabod: a) rôl hanfodol addysg a sgiliau fel ysgogiad pwysig i wella lefelau
cynhyrchiant economaidd Cymru; b) yr angen am wella cyson o ran amseroedd aros Cymru ar gyfer diagnosis a
thriniaeth; ac c) potensial yr economi las a gwyrdd o ran sicrhau ffyniant
economaidd Cymru yn y dyfodol.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y Gwelliant a galyn: Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn nodi: a) bod cyfradd ddiweithdra Cymru wedi gostwng i 4.4%, sy'n is na
chyfartaledd y DU; b) bod y dangosyddion ansawdd gofal iechyd a gyhoeddwyd gan yr OECD yn
ddiweddar yn dangos bod Cymru'n perfformio ar lefel gyfatebol neu well na
gwledydd eraill y DU o ran y rhan fwyaf o'r dangosyddion; c) bod canlyniadau arholiadau TGAU Cymru yn 2015/16 yn
dangos bod y prif fesur perfformiad wedi cynyddu bob blwyddyn ers i'r cofnodi
ddechrau yn 2006-07, a bod y bwlch rhwng cyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys i
gael prydau ysgol am ddim a chyrhaeddiad eu cyd-ddisgyblion yn cau. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6245 Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cyfraniad amlwg Cymru i'r chwyldro diwydiannol, i greu'r
Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'i rôl arweiniol o ran datblygu'r ddarpariaeth
addysg uwchradd. 2. Yn nodi: a) bod cyfradd ddiweithdra Cymru wedi gostwng i 4.4%, sy'n is na
chyfartaledd y DU; b) bod y dangosyddion ansawdd gofal iechyd a gyhoeddwyd gan yr OECD yn
ddiweddar yn dangos bod Cymru'n perfformio ar lefel gyfatebol neu well na
gwledydd eraill y DU o ran y rhan fwyaf o'r dangosyddion; c) bod canlyniadau arholiadau TGAU Cymru yn 2015/16 yn
dangos bod y prif fesur perfformiad wedi cynyddu bob blwyddyn ers i'r cofnodi
ddechrau yn 2006-07, a bod y bwlch rhwng cyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys i
gael prydau ysgol am ddim a chyrhaeddiad eu cyd-ddisgyblion yn cau. 3. Yn cydnabod: a) rôl hanfodol addysg a sgiliau fel ysgogiad pwysig i wella lefelau
cynhyrchiant economaidd Cymru; b) yr angen am wella cyson o ran amseroedd aros Cymru ar gyfer diagnosis a
thriniaeth; ac c) potensial yr economi las a gwyrdd o ran sicrhau
ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol.
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig NDM6244 David
J Rowlands (Dwyrain De Cymru): Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu, er y gall
contractau dim oriau fod o fantais i gyflogwyr a gweithwyr o ran y rhyddid a'r
hyblygrwydd y gallant ei gynnig, gallant hefyd greu problemau o ran incwm
sefydlog, sicrwydd o ran cyflogaeth, statws cyflogaeth a'r cydbwysedd o ran y
pŵer rhwng cyflogwr a chyflogai. 2. Yn nodi mai rhithiol
yn hytrach na real yw'r rhyddid hwn i'r rhan fwyaf o'r rhai a gaiff eu cyflogi
ar gontractau dim oriau, a bod bywyd ar gontractau dim oriau, i'r rhai sydd
angen isafswm oriau gwaith wythnosol i sicrhau diogelwch ariannol i'w teulu, yn
un o ansicrwydd parhaol; 3. Yn nodi bod yr
ansicrwydd hwn, i'r rhai y mae eu horiau wedi'u cwtogi neu eu newid oherwydd
amharodrwydd canfyddedig i weithio'r oriau sydd eu hangen ar y cyflogwr neu'n
dilyn cŵyn yn y gweithle, yn gallu cyd-fynd â'r pryder sy'n deillio o
gamfanteisio. 4. Yn credu bod gan
weithio contractau dim oriau y gallu i: a) creu bywyd o straen; b) cael effaith negyddol
ar reoli cyllidebau teuluol; c) effeithio ar
ymrwymiadau teuluol; d) tanseilio hawliau a
chysylltiadau cyflogaeth; ac e) cymhlethu'r gallu i
gael gafael ar gredydau treth a budd-daliadau eraill, gyda phryder cynyddol am
y nifer gynyddol o bobl sy'n dibynnu arnynt. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn credu y gall y potensial i waith ac enillion amrywio o
ganlyniad i gontractau dim oriau fod yn ffynhonnell straen ac ansefydlogrwydd
ariannol ac y gall telerau ac amodau cyflogaeth annheg gael effaith negyddol ar
forâl a chynhyrchiant staff mewn modd sy'n arwain at wasanaeth o ansawdd
gwaeth. Gwelliant 2. Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Dileu pwyntiau 2, 3 a 4 a rhoi yn eu lle: Yn nodi bod arferion cyflogaeth yn newid yn gyflym, gan
gynnwys cynnydd mewn contractau dim oriau, hunangyflogaeth a gwaith 'gig' tymor
byr. Yn cydnabod y gwaith a wnaed gan Lywodraeth y DU i gael
gwared ar achosion o gamddefnyddio contractau dim oriau, gan gynnwys gwahardd
cymalau cyfyngu. Yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi comisiynu
Adolygiad Taylor ar Arferion Cyflogaeth Modern a fydd yn ystyried goblygiadau
mathau newydd o waith i hawliau a chyfrifoldebau gweithwyr. Datganiad
i'r Wasg - 'Taylor review on modern employment practices launches' [Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 4 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant 3. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â
hynny: Yn gresynu bod ymdrechion gan Blaid Cymru i wahardd
contractau dim oriau mewn gwahanol sectorau ar bum achlysur gwahanol yn ystod y
Pedwerydd Cynulliad wedi cael eu trechu gan Lywodraeth Lafur Cymru a'r
Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 4. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu is-bwynt newydd at bwynt 4: 'arwain at wasanaeth o ansawdd gwaeth.' Gwelliant 5. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd y defnydd o
gontractau dim oriau ym mhob gwasanaeth cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Gwelliant 6. Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd
i ymdrin â'r defnydd o gontractau dim oriau mewn gofal cymdeithasol. Yn croesawu gwaith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn y
maes hwn, a arweiniodd at gyhoeddi egwyddorion a chanllawiau Comisiwn Staff y
Gwasanaethau Cyhoeddus ar ddefnyddio trefniadau oriau gwaith heb eu gwarantu yn
briodol yng ngwasanaethau cyhoeddus datganoledig Cymru. Gwelliant 7. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn sicrhau bod y defnydd o gontractau dim oriau, gan
gynnwys pennu hyn drwy unrhyw wasanaethau sy'n cael eu caffael, yn cael ei
wahardd yn y Cynulliad. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.15 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6244 David J
Rowlands (Dwyrain De Cymru): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu, er y gall contractau dim oriau fod o fantais i gyflogwyr a
gweithwyr o ran y rhyddid a'r hyblygrwydd y gallant ei gynnig, gallant hefyd
greu problemau o ran incwm sefydlog, sicrwydd o ran cyflogaeth, statws
cyflogaeth a'r cydbwysedd o ran y pŵer rhwng cyflogwr a chyflogai. 2. Yn nodi mai rhithiol yn hytrach na real yw'r rhyddid hwn i'r rhan fwyaf
o'r rhai a gaiff eu cyflogi ar gontractau dim oriau, a bod bywyd ar gontractau
dim oriau, i'r rhai sydd angen isafswm oriau gwaith wythnosol i sicrhau
diogelwch ariannol i'w teulu, yn un o ansicrwydd parhaol; 3. Yn nodi bod yr ansicrwydd hwn, i'r rhai y mae eu horiau wedi'u cwtogi
neu eu newid oherwydd amharodrwydd canfyddedig i weithio'r oriau sydd eu hangen
ar y cyflogwr neu'n dilyn cŵyn yn y gweithle, yn gallu cyd-fynd â'r pryder
sy'n deillio o gamfanteisio. 4. Yn credu bod gan weithio contractau dim oriau y gallu i: a) creu bywyd o straen; b) cael effaith negyddol ar reoli cyllidebau teuluol; c) effeithio ar ymrwymiadau teuluol; d) tanseilio hawliau a chysylltiadau cyflogaeth; ac e) cymhlethu'r gallu i gael gafael ar gredydau treth a
budd-daliadau eraill, gyda phryder cynyddol am y nifer gynyddol o bobl sy'n
dibynnu arnynt.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.
Gwelliant 1. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn credu y gall y potensial i waith ac enillion amrywio o
ganlyniad i gontractau dim oriau fod yn ffynhonnell straen ac ansefydlogrwydd
ariannol ac y gall telerau ac amodau cyflogaeth annheg gael effaith negyddol ar
forâl a chynhyrchiant staff mewn modd sy'n arwain at wasanaeth o ansawdd
gwaeth. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwyntiau 2, 3 a 4 a rhoi yn eu lle: Yn nodi bod arferion cyflogaeth yn newid yn gyflym, gan gynnwys cynnydd
mewn contractau dim oriau, hunangyflogaeth a gwaith 'gig' tymor byr. Yn cydnabod y gwaith a wnaed gan Lywodraeth y DU i gael gwared ar achosion
o gamddefnyddio contractau dim oriau, gan gynnwys gwahardd cymalau cyfyngu. Yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi comisiynu
Adolygiad Taylor ar Arferion Cyflogaeth Modern a fydd yn ystyried goblygiadau
mathau newydd o waith i hawliau a chyfrifoldebau gweithwyr. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu bod ymdrechion gan Blaid Cymru i wahardd
contractau dim oriau mewn gwahanol sectorau ar bum achlysur gwahanol yn ystod y
Pedwerydd Cynulliad wedi cael eu trechu gan Lywodraeth Lafur Cymru a'r
Ceidwadwyr Cymreig. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn) Ychwanegu is-bwynt newydd at bwynt 4: 'arwain at wasanaeth o
ansawdd gwaeth.' Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd y defnydd o
gontractau dim oriau ym mhob gwasanaeth cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant 6. Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymdrin â'r
defnydd o gontractau dim oriau mewn gofal cymdeithasol. Yn croesawu gwaith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn y
maes hwn, a arweiniodd at gyhoeddi egwyddorion a chanllawiau Comisiwn Staff y
Gwasanaethau Cyhoeddus ar ddefnyddio trefniadau oriau gwaith heb eu gwarantu yn
briodol yng ngwasanaethau cyhoeddus datganoledig Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Gwelliant 7. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn sicrhau bod y defnydd o gontractau dim oriau, gan
gynnwys pennu hyn drwy unrhyw wasanaethau sy'n cael eu caffael, yn cael ei
wahardd yn y Cynulliad. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Gwrthodwyd gwelliant 7. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6244 David J
Rowlands (Dwyrain De Cymru): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu y gall y potensial i waith ac enillion amrywio o ganlyniad i
gontractau dim oriau fod yn ffynhonnell straen ac ansefydlogrwydd ariannol ac y
gall telerau ac amodau cyflogaeth annheg gael effaith negyddol ar forâl a
chynhyrchiant staff mewn modd sy'n arwain at wasanaeth o ansawdd gwaeth. 2. Yn nodi mai rhithiol yn hytrach na real yw'r rhyddid hwn i'r rhan fwyaf
o'r rhai a gaiff eu cyflogi ar gontractau dim oriau, a bod bywyd ar gontractau
dim oriau, i'r rhai sydd angen isafswm oriau gwaith wythnosol i sicrhau
diogelwch ariannol i'w teulu, yn un o ansicrwydd parhaol; 3. Yn nodi bod yr ansicrwydd hwn, i'r rhai y mae eu horiau wedi'u cwtogi
neu eu newid oherwydd amharodrwydd canfyddedig i weithio'r oriau sydd eu hangen
ar y cyflogwr neu'n dilyn cŵyn yn y gweithle, yn gallu cyd-fynd â'r pryder
sy'n deillio o gamfanteisio. 4. Yn credu bod gan weithio contractau dim oriau y gallu i: a) creu bywyd o straen; b) cael effaith negyddol ar reoli cyllidebau teuluol; c) effeithio ar ymrwymiadau teuluol; d) tanseilio hawliau a chysylltiadau cyflogaeth; e) cymhlethu'r gallu i gael gafael ar gredydau treth a
budd-daliadau eraill, gyda phryder cynyddol am y nifer gynyddol o bobl sy'n
dibynnu arnynt; ac f) arwain at wasanaeth o ansawdd gwaeth. 5. Yn cydnabod y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymdrin â'r
defnydd o gontractau dim oriau mewn gofal cymdeithasol. Yn croesawu gwaith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn y
maes hwn, a arweiniodd at gyhoeddi egwyddorion a chanllawiau Comisiwn Staff y
Gwasanaethau Cyhoeddus ar ddefnyddio trefniadau oriau gwaith heb eu gwarantu yn
briodol yng ngwasanaethau cyhoeddus datganoledig Cymru.
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.12 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6243 Jayne Bryant
(Gorllewin Casnewydd): Cyfoethogi
Bywydau Gofalwyr: Gofalu am y rhai sy'n Gofalu Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.18 NDM6243 Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd): Cyfoethogi Bywydau Gofalwyr: Gofalu am y rhai sy'n Gofalu |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |