NDM 6245 - Dadl Plaid Cymru

NDM 6245 - Dadl Plaid Cymru

NDM6245 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cyfraniad amlwg Cymru i'r chwyldro diwydiannol, i greu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'i rôl arweiniol o ran datblygu'r ddarpariaeth addysg uwchradd.

2. Yn gresynu:

a) at ystadegau diweddar gwerth ychwanegol gros (GVA) a ryddhawyd ym mis Rhagfyr 2016 sy'n dangos mai 71 y cant o gyfartaledd GVA y pen y DU oedd GVA y pen Cymru yn 2015, sef yr isaf ymysg y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr;

b) y bydd cleifion yng Nghymru yn aros yn sylweddol hirach i gael diagnosis a thriniaeth nag y byddent am yr un cyflyrau yn Lloegr a'r Alban; ac

c) at berfformiad diweddaraf Cymru yn Rhaglen Asesiadau Myfyrwyr Rhynglwadol 2015 Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016, a oedd yn dangos bod sgorau mathemateg, darllen a gwyddoniaeth 2015 yn is nag yn 2006, ac yn is na'r cyfartaledd ar gyfer y DU.

3. Yn cydnabod:

a) rôl hanfodol addysg a sgiliau fel ysgogiad pwysig i wella lefelau cynhyrchiant economaidd Cymru;

b) yr angen am wella cyson o ran amseroedd aros Cymru ar gyfer diagnosis a thriniaeth; ac

c) potensial yr economi las a gwyrdd o ran sicrhau ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol.

'Gwerth ychwanegol crynswth rhanbarthol a gwerth ychwanegol crynswth isranbarthol, Rhagfyr 2016' [Opens in a new browser window]

'OECD Programme for International Student Assessment 2015' [Opens in a new browser window] (Saesneg yn unig)

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/02/2017

Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS