Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 38(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/12/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld
Cofnod
y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar
ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 10 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 9 gan y Gweinidog Sgiliau a
Gwyddoniaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar
ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.22 Gofynnwyd
y 10 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys 1 Dechreuodd
yr eitem am 15.09 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatganoli masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r Gororau, yn dilyn sylwadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ddoe sy’n awgrymu na fydd Llywodraeth y DU yn datganoli’r fasnachfraint yn ei chyfanrwydd? |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys 2 Dechreuodd
yr eitem am 15.15 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â chamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i warchod adar Cymru rhag ffliw adar? |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.22 Gwnaeth
David Melding ddatganiad i nodi canmlwyddiant David Lloyd George yn dod yn Brif
Weinidog. Gwnaeth
Leanne Wood ddatganiad ar Standing Rock. Gwnaeth
Ann Jones ddatganiad ar Dîm Tachyon, grŵp o bedwar myfyriwr o Ysgol
Uwchradd Dinbych sy’n bencampwyr y byd ar gyfer her F1 mewn ysgolion. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM6144 Jenny Rathbone
(Canol Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi: a) bod lefelau gordewdra yng Nghymru yn parhau i godi ac mae
gordewdra yn fwy cyffredin ymysg cymunedau tlawd; b) bod newid arferion
bwyta pobl yn gymhleth ac yn golygu cyfuniad o sicrhau bod bwyd da ar gael ac
yn fforddiadwy a sgiliau coginio; c) nad yw Deddf Teithio
Llesol (Cymru) 2013 wedi cael effaith sylweddol hyd yma ar faint o ymarfer
corff y mae pobl yn ei wneud; d) mai dim ond drwy
ddegawdau o addysg a chamau gweithredu caled y llywodraeth y mae cyfraddau
ysmygu wedi disgyn, a bod hyn wedi digwydd yn erbyn ymdrechion y diwydiant
tybaco i wadu'r wyddoniaeth a rhwystro camau gweithredu'r llywodraeth; ac e) bod angen cyfuniad o
addysg, deddfwriaeth a chaffael cyhoeddus i fynd i'r afael â phroblem gynyddol
yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.27 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6144 Jenny Rathbone (Canol
Caerdydd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi: a)
bod lefelau gordewdra yng Nghymru yn parhau i godi ac mae
gordewdra yn fwy cyffredin ymysg cymunedau tlawd; b)
bod newid arferion bwyta pobl yn gymhleth ac yn golygu cyfuniad o sicrhau bod
bwyd da ar gael ac yn fforddiadwy a sgiliau coginio; c)
nad yw Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 wedi cael effaith sylweddol hyd yma ar
faint o ymarfer corff y mae pobl yn ei wneud; d)
mai dim ond drwy ddegawdau o addysg a chamau gweithredu caled y llywodraeth y
mae cyfraddau ysmygu wedi disgyn, a bod hyn wedi digwydd yn erbyn ymdrechion y
diwydiant tybaco i wadu'r wyddoniaeth a rhwystro camau gweithredu'r
llywodraeth; ac e)
bod angen cyfuniad o addysg, deddfwriaeth a chaffael cyhoeddus i fynd i'r afael
â phroblem gynyddol yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6182 Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi Datganiad yr
Hydref Llywodraeth y DU; 2. Yn cydnabod y
cyhoeddiad y bydd Llywodraeth Cymru yn elwa ar £436 miliwn yn ychwanegol erbyn
2020-21 i'w chyllidebau cyfalaf o Ddatganiad yr Hydref; 3. Yn nodi y bydd
Llywodraeth y DU yn codi'r Cyflog Byw Cenedlaethol i £7.50 i gefnogi swyddi ac
enillion ledled y DU; 4. Yn nodi ymhellach y
bydd y trothwy Lwfans Personol a Chyfradd Uwch yn codi i £12,000 a £50,000 yn y
drefn honno erbyn 2020-21, gan leihau'r bil treth incwm i 1.4 miliwn o
unigolion yng Nghymru erbyn 2017-18. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le, gan ailrifo yn unol â
hynny: 2. Yn nodi bod Datganiad yr Hydref yn cynnwys dyraniadau
cyfalaf ychwanegol ar gyfer cyllideb Cymru o £442m rhwng 2016-17 a 2020-21. 3. Yn gresynu na ddefnyddiodd Llywodraeth y DU Ddatganiad
yr Hydref i ddod â'i pholisi niweidiol o gyni cyllidol i ben. 4. Yn gresynu na gydnabu Llywodraeth y DU yr angen am
fuddsoddiad yn y gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus
hanfodol eraill yn Natganiad yr Hydref. Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi methu ag ymrwymo i
amserlen ar gyfer cyflwyno trydaneiddio rheilffordd y Great Western rhwng
Caerdydd ac Abertawe, a thrydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru. Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi methu ag ymrwymo i
ddarparu morlyn llanw Bae Abertawe. Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi methu â dynodi HS2 fel
prosiect seilwaith Lloegr yn unig. Gwelliant 5. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i ddatganoli'r
doll teithwyr awyr. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.24 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6182 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro): Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU; 2.
Yn cydnabod y cyhoeddiad y bydd Llywodraeth Cymru yn elwa ar £436 miliwn yn
ychwanegol erbyn 2020-21 i'w chyllidebau cyfalaf o Ddatganiad yr Hydref; 3.
Yn nodi y bydd Llywodraeth y DU yn codi'r Cyflog Byw Cenedlaethol i £7.50 i
gefnogi swyddi ac enillion ledled y DU; 4.
Yn nodi ymhellach y bydd y trothwy Lwfans Personol a Chyfradd Uwch yn codi i
£12,000 a £50,000 yn y drefn honno erbyn 2020-21, gan leihau'r bil treth incwm
i 1.4 miliwn o unigolion yng Nghymru erbyn 2017-18.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le, gan ail-rifo yn unol
â hynny: 2. Yn nodi bod Datganiad yr Hydref yn cynnwys
dyraniadau cyfalaf ychwanegol ar gyfer cyllideb Cymru o £442m rhwng 2016-17 a
2020-21. 3. Yn gresynu na ddefnyddiodd Llywodraeth y DU
Ddatganiad yr Hydref i ddod â'i pholisi niweidiol o gyni cyllidol i ben. 4. Yn gresynu na gydnabu Llywodraeth y DU yr angen
am fuddsoddiad yn y gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau
cyhoeddus hanfodol eraill yn Natganiad yr Hydref. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi methu ag
ymrwymo i amserlen ar gyfer cyflwyno trydaneiddio rheilffordd y Great Western
rhwng Caerdydd ac Abertawe, a thrydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi methu ag
ymrwymo i ddarparu morlyn llanw Bae Abertawe. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gresynu bod Llywodraeth y DU wedi methu â dynodi HS2 fel prosiect seilwaith
Lloegr yn unig. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i ddatganoli'r doll teithwyr awyr. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6182 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro): Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU; 2. Yn nodi bod Datganiad yr Hydref yn cynnwys
dyraniadau cyfalaf ychwanegol ar gyfer cyllideb Cymru o £442m rhwng 2016-17 a
2020-21. 3. Yn gresynu na ddefnyddiodd Llywodraeth y DU
Ddatganiad yr Hydref i ddod â'i pholisi niweidiol o gyni cyllidol i ben. 4. Yn gresynu na gydnabu Llywodraeth y DU yr angen
am fuddsoddiad yn y gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau
cyhoeddus hanfodol eraill yn Natganiad yr Hydref. 5.
Yn nodi y bydd Llywodraeth y DU yn codi'r Cyflog Byw Cenedlaethol i £7.50 i
gefnogi swyddi ac enillion ledled y DU; 6.
Yn nodi ymhellach y bydd y trothwy Lwfans Personol a Chyfradd Uwch yn codi i
£12,000 a £50,000 yn y drefn honno erbyn 2020-21, gan leihau'r bil treth incwm
i 1.4 miliwn o unigolion yng Nghymru erbyn 2017-18. 7. Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi methu ag
ymrwymo i amserlen ar gyfer cyflwyno trydaneiddio rheilffordd y Great Western
rhwng Caerdydd ac Abertawe, a thrydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru. 8. Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi methu ag
ymrwymo i ddarparu morlyn llanw Bae Abertawe. 9.
Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i ddatganoli'r doll teithwyr awyr.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig NDM6181 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynigion gan
Lywodraeth y DU i ddileu ffioedd a godir gan asiantau gosod i denantiaid yn
Lloegr. 2. Yn gresynu bod
tenantiaid yn talu £233, ar gyfartaledd, mewn ffioedd gosod. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: (a) cymryd camau i
ystyried effaith dileu'r ffioedd hyn, sydd eisoes wedi digwydd yn yr Alban; (b) cyflwyno
deddfwriaeth yn y Cynulliad hwn i wahardd ffioedd rhentwyr, gan sicrhau na
ellir codi'r costau hyn, wedyn, ar: (i) tenantiaid, drwy
godi rhenti artiffisial uwch; a (ii) landlordiaid
preifat, gan nodi eu bod yn rhan werthfawr o'r broses o helpu rhentwyr ar yr
ysgol eiddo. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn): Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â manteisio
ar y cyfle yn y Cynulliad blaenorol i wahardd ffioedd gormodol gan asiantau
gosod. Gwelliant 2. Jane Hutt
(Bro Morgannwg) (a) ystyried sut y gallai deddfwriaeth ar y maes hwn
weithio yng ngoleuni (b) ymgynghori â'r pleidiau eraill yn y Cynulliad, a
rhanddeiliaid, ar y ffordd orau ymlaen i Gymru. Gwelliant 3. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn): Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3: ystyried ymhellach ffyrdd o fynd i'r afael â thaliadau gwasanaeth
gormodol ac annheg, neu gynnydd heb gyfiawnhad mewn taliadau gwasanaeth, a
gaiff eu gosod ar lesddeiliaid. Gwelliant 4. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn): Yn credu, os yw Llywodraeth Cymru wedi llunio cyngor
cyfreithiol yn awgrymu y byddai Bil ar wahardd ffioedd gormodol asiantau y tu
allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, y dylai'r cyngor hwn gael ei
gyhoeddi. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.28 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6181 Neil Hamilton (Canolbarth
a Gorllewin Cymru): Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi cynigion gan Lywodraeth y DU i ddileu ffioedd a godir gan asiantau
gosod i denantiaid yn Lloegr. 2.
Yn gresynu bod tenantiaid yn talu £233, ar gyfartaledd, mewn ffioedd gosod. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: (a)
cymryd camau i ystyried effaith dileu'r ffioedd hyn, sydd eisoes wedi digwydd
yn yr Alban; (b)
cyflwyno deddfwriaeth yn y Cynulliad hwn i wahardd ffioedd rhentwyr, gan
sicrhau na ellir codi'r costau hyn, wedyn, ar: (i)
tenantiaid, drwy godi rhenti artiffisial uwch; a (ii)
landlordiaid preifat, gan nodi eu bod yn rhan werthfawr o'r broses o helpu
rhentwyr ar yr ysgol eiddo.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn): Ychwanegu fel pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â
hynny: Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â
manteisio ar y cyfle yn y Cynulliad blaenorol i wahardd ffioedd gormodol gan
asiantau gosod. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt 3, dileu is-bwyntiau (a) a (b) a rhoi yn
eu lle: (a) ystyried sut y gallai deddfwriaeth ar y maes
hwn weithio yng ngoleuni (b) ymgynghori â'r pleidiau eraill yn y Cynulliad,
a rhanddeiliaid, ar y ffordd orau ymlaen i Gymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn): Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3: ystyried ymhellach ffyrdd o fynd i'r afael â
thaliadau gwasanaeth gormodol ac annheg, neu gynnydd heb gyfiawnhad mewn
taliadau gwasanaeth, a gaiff eu gosod ar lesddeiliaid. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): Ychwanegu
fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
credu, os yw Llywodraeth Cymru wedi llunio cyngor cyfreithiol yn awgrymu y
byddai Bil ar wahardd ffioedd gormodol asiantau y tu allan i gymhwysedd
deddfwriaethol y Cynulliad, y dylai'r cyngor hwn gael ei gyhoeddi. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6181 Neil Hamilton (Canolbarth
a Gorllewin Cymru): Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi cynigion gan Lywodraeth y DU i ddileu ffioedd a godir gan asiantau
gosod i denantiaid yn Lloegr. 2.
Yn gresynu bod tenantiaid yn talu £233, ar gyfartaledd, mewn ffioedd gosod. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: (a) ystyried sut y gallai deddfwriaeth ar y maes
hwn weithio yng ngoleuni (b) ymgynghori â'r pleidiau eraill yn y Cynulliad,
a rhanddeiliaid, ar y ffordd orau ymlaen i Gymru. (c) ystyried ymhellach ffyrdd o fynd i'r afael â
thaliadau gwasanaeth gormodol ac annheg, neu gynnydd heb gyfiawnhad mewn
taliadau gwasanaeth, a gaiff eu gosod ar lesddeiliaid.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys 3 Dechreuodd
yr eitem am 18.04 Adam
Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am
ganlyniad trafodaethau diweddar rhwng Tata Steel a’r Undebau ynghylch dyfodol ei
weithgareddau yng Nghymru a Phrydain? |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 18.25 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6183 Tynnu sylw at adfywiad,
twf a photensial dyfodol Casnewydd a'r cyffiniau. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.32 NDM6183 John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd): Casnewydd
– dinas ar i fyny Tynnu
sylw at adfywiad, twf a photensial dyfodol Casnewydd a'r cyffiniau. |