NDM6144 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6144 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NNDM6144
Jenny Rathbone
(Canol Caerdydd)
Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn)
Vikki Howells (Cwm
Cynon)
Angela Burns
(Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Dai Lloyd (Gorllewin
De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi:
a) bod lefelau gordewdra
yng Nghymru yn parhau i godi ac yn fwy cyffredin ymysg cymunedau tlawd;
b) bod newid arferion
bwyta pobl yn gymhleth ac yn golygu cyfuniad o sicrhau bod bwyd da ar gael ac
yn fforddiadwy a sgiliau coginio;
c) nad yw Deddf Teithio
Llesol (Cymru) 2013 wedi cael effaith sylweddol hyd yma ar faint o ymarfer
corff y mae pobl yn ei wneud;
d) mai dim ond drwy
ddegawdau o addysg a chamau gweithredu caled y llywodraeth y mae cyfraddau
ysmygu wedi disgyn, a bod hyn wedi digwydd yn erbyn ymdrechion y diwydiant
tybaco i wadu'r wyddoniaeth a rhwystro camau gweithredu'r llywodraeth; ac
e) bod angen cyfuniad o
addysg, deddfwriaeth a chaffael cyhoeddus i fynd i'r afael â phroblem gynyddol
yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd.
'Deddf Teithio Llesol
(Cymru) 2013'
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/12/2016
Angen Penderfyniad: 7 Rhag 2016 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Jenny Rathbone AS