Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 35(v3) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/11/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cofnod y Trafodion

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

Cwestiwn Brys 1

Dechreuodd yr eitem am 14.18

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y penderfyniad i atal gweithgareddau bwrdd Chwaraeon Cymru dros dro?

Cwestiwn Brys 2

Dechreuodd yr eitem am 14.23

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd y cynlluniau i sefydlu canolfan Yr Egin yng Nghaerfyrddin?

Cwestiwn Brys 3

Dechreuodd yr eitem am 14.39

Jeremy Miles (Castell-nedd): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu ei asesiad o oblygiadau cyfreithiol posibl y cyfreitha a fwriedir yn erbyn Llywodraeth y DU mewn cysylltiad ag Erthygl 127 o’r Cytundeb Ardal Economaidd Ewropeaidd?

Pwynt o Drefn

Dechreuodd yr eitem am 14.48

Cododd Neil McEvoy bwynt o drefn ynghylch sylwadau’r Prif Weinidog nad oedd yr Aelod yn hoffi mewnfudwyr ar y sail fod sylwadau o’r fath yn anghwrtais, yn peri tramgwydd ac wedi amharu ar urddas y Cynulliad.

Atebodd y Llywydd nad oedd wedi clywed dim allan o drefn yn sylwadau’r Prif Weinidog ond y byddai’n astudio’r Cofnod.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.49

(60 munud)

3.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.20

(15 munud)

4.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol

NDM6173 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol sy'n ymwneud ag asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Hydref 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:

'Bill documents — Children and Social Work Bill [HL] 2016-17 — UK Parliament' (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Plant a Gofal Cymdeithasol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.19

NDM6173 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol sy'n ymwneud ag asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

5.

Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2015-16

NDM6174 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2015-16 gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Dogfen Ategol
'Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar gyfer 2015-16'

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi gwaith y Comisiynydd Pobl Hŷn i fynd i'r afael ag effaith unigrwydd ac unigedd ar bobl hŷn sy'n byw yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i fynd i'r afael â'r mater hwn.
 
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Yn nodi y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno Bil Hawliau Pobl Hŷn i ymestyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn Cymru er mwyn sicrhau bod gan bobl hŷn lais cryf yn unol ag argymhellion y Comisiynydd Pobl Hŷn.
 
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Yn nodi pwysigrwydd gwasanaethau cyhoeddus a gaiff eu darparu gan lywodraeth leol i iechyd a llesiant pobl hŷn, ac yn gresynu fod heriau ariannol parhaus, o ganlyniad i galedi ariannol, yn rhwystro'r gwasanaethau hyn rhag cael eu darparu.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.22

NDM6174 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2015-16 gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi gwaith y Comisiynydd Pobl Hŷn i fynd i'r afael ag effaith unigrwydd ac unigedd ar bobl hŷn sy'n byw yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i fynd i'r afael â'r mater hwn.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno Bil Hawliau Pobl Hŷn i ymestyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn Cymru er mwyn sicrhau bod gan bobl hŷn lais cryf yn unol ag argymhellion y Comisiynydd Pobl Hŷn.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gwelliant 3 o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pwysigrwydd gwasanaethau cyhoeddus a gaiff eu darparu gan lywodraeth leol i iechyd a llesiant pobl hŷn, ac yn gresynu fod heriau ariannol parhaus, o ganlyniad i galedi ariannol, yn rhwystro'r gwasanaethau hyn rhag cael eu darparu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

4

11

51

Derbyniwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM6174 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2015-16 gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Yn nodi gwaith y Comisiynydd Pobl Hŷn i fynd i'r afael ag effaith unigrwydd ac unigedd ar bobl hŷn sy'n byw yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i fynd i'r afael â'r mater hwn.

Yn nodi y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno Bil Hawliau Pobl Hŷn i ymestyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn Cymru er mwyn sicrhau bod gan bobl hŷn lais cryf yn unol ag argymhellion y Comisiynydd Pobl Hŷn.

Yn nodi pwysigrwydd gwasanaethau cyhoeddus a gaiff eu darparu gan lywodraeth leol i iechyd a llesiant pobl hŷn, ac yn gresynu fod heriau ariannol parhaus, o ganlyniad i galedi ariannol, yn rhwystro'r gwasanaethau hyn rhag cael eu darparu.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

11

0

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

(60 munud)

6.

Dadl: Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol ar gyfer 2015-16

NDM6175 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2015-16 gan Brif Swyddog Meddygol Cymru "Adfer cydbwysedd i ofal iechyd - Gweithio mewn partneriaeth i leihau annhegwch cymdeithasol".

Dogfen Ategol
'Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2015-16 gan Brif Swyddog Meddygol Cymru'

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod mynychder iechyd gwael mewn cymunedau tlotach, fel y nodir yn yr adroddiad, yn cael ei achosi gan amodau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach ac na ellir ei feio'n unig ar ddewisiadau gwael a wneir gan unigolion, ac y dylai polisïau iechyd cyhoeddus adlewyrchu cyfrifoldeb y llywodraeth i fynd i'r afael â hyn, yn hytrach na chanolbwyntio ar ddim ond pregethu wrth bobl.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.02

NDM6175 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2015-16 gan Brif Swyddog Meddygol Cymru "Adfer cydbwysedd i ofal iechyd - Gweithio mewn partneriaeth i leihau annhegwch cymdeithasol".

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod mynychder iechyd gwael mewn cymunedau tlotach, fel y nodir yn yr adroddiad, yn cael ei achosi gan amodau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach ac na ellir ei feio'n unig ar ddewisiadau gwael a wneir gan unigolion, ac y dylai polisïau iechyd cyhoeddus adlewyrchu cyfrifoldeb y llywodraeth i fynd i'r afael â hyn, yn hytrach na chanolbwyntio ar ddim ond pregethu wrth bobl.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM6175 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2015-16 gan Brif Swyddog Meddygol Cymru "Adfer cydbwysedd i ofal iechyd - Gweithio mewn partneriaeth i leihau annhegwch cymdeithasol".

Yn credu bod mynychder iechyd gwael mewn cymunedau tlotach, fel y nodir yn yr adroddiad, yn cael ei achosi gan amodau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach ac na ellir ei feio'n unig ar ddewisiadau gwael a wneir gan unigolion, ac y dylai polisïau iechyd cyhoeddus adlewyrchu cyfrifoldeb y llywodraeth i fynd i'r afael â hyn, yn hytrach na chanolbwyntio ar ddim ond pregethu wrth bobl.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.48

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: