Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Amseriad disgwyliedig: 306(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/11/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd
y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill
yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd cwestiwn 1 a
chwestiynau 3-9. Ni ofynnwyd cwestiwn 2. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.17 Gofynnwyd
y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.04 Gofynnwyd
y 6 chwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.25 Gwnaeth
Vikki Howells ddatganiad am: Cyflawniadau arloesol Elaine Morgan, awdur enwog,
newyddiadurwr ac anthropolegydd chwyldroadol. Gwnaeth
Rhun ap Iorwerth ddatganiad am: Oriel arwyr COVID lleol y Senedd. Gwnaeth
Huw Irranca-Davies ddatganiad am: Ymgyrch diogelwch tân ESF. Gwnaeth
Delyth Jewell ddatganiad am: Jan Morris – Bywyd celfydd llawn cyfoeth. Yn
unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.33 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y
Dirprwy Lywydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil Cynllun Dychwelyd Ernes a Lleihau Gwastraff NDM7481 Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer
Bil a fyddai'n gwneud darpariaethau i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes a
lleihau gwastraff yng Nghymru. 2. Yn nodi mai diben y
Bil hwn fyddai: a) sefydlu cynllun
dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd yng Nghymru, a fyddai'n golygu
bod defnyddwyr yn talu ernes, yn ad-daladwy ar ôl dychwelyd y cynhwysydd; b) lleihau nifer y
poteli plastig a gwydr untro, yn ogystal â caniau dur ac alwminiwm; c) ymateb i wastraff
ailgylchadwy cynyddol, fel cyfarpar diogelu personol sy'n cael ei ddefnyddio yn
y frwydr yn erbyn COVID-19, lle mae nifer cynyddol o eitemau'n cael eu taflu ac
yn effeithio ar ein bywyd gwyllt a morol; a d) cynyddu atebolrwydd
drwy sefydlu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i osod adroddiad blynyddol gerbron
Senedd Cymru yn manylu ar bolisïau penodol yr ymgymerwyd â hwy i leihau'r
gwastraff ailgylchadwy a gaiff ei daflu i ffwrdd a'r effaith y mae'r rhain
wedi'i chael o ran gwella amgylchedd naturiol Cymru. Cefnogwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.42 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7481 Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaethau i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes a
lleihau gwastraff yng Nghymru. 2. Yn nodi mai diben y
Bil hwn fyddai: a) sefydlu cynllun
dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd yng Nghymru, a fyddai'n golygu
bod defnyddwyr yn talu ernes, yn ad-daladwy ar ôl dychwelyd y cynhwysydd; b) lleihau nifer y
poteli plastig a gwydr untro, yn ogystal â caniau dur ac alwminiwm; c) ymateb i wastraff
ailgylchadwy cynyddol, fel cyfarpar diogelu personol sy'n cael ei ddefnyddio yn
y frwydr yn erbyn COVID-19, lle mae nifer cynyddol o eitemau'n cael eu taflu ac
yn effeithio ar ein bywyd gwyllt a morol; a d) cynyddu atebolrwydd
drwy sefydlu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i osod adroddiad blynyddol gerbron
Senedd Cymru yn manylu ar bolisïau penodol yr ymgymerwyd â hwy i leihau'r
gwastraff ailgylchadwy a gaiff ei daflu i ffwrdd a'r effaith y mae'r rhain
wedi'i chael o ran gwella amgylchedd naturiol Cymru. Cefnogwyr Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol NDM7487 Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
drafft, a osodwyd ar 21 Medi
2020. 2. Yn nodi, yn unol ag Adran 3 o Ddeddf
Cynllunio (Cymru) 2015, fod cyfnod ystyried 60 diwrnod y Senedd wedi dechrau ar
y diwrnod y gosodwyd drafft y Fframwaith yn y Senedd. 3. Yn nodi, yn unol ag Adran 3 o Ddeddf
Cynllunio (Cymru) 2015, fod yn rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw
benderfyniad a basiwyd gan y Senedd ac unrhyw argymhelliad a wnaed gan un o
bwyllgorau'r Senedd mewn perthynas â'r drafft yn ystod y cyfnod hwnnw o 60
diwrnod. Dogfennau ategol Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu o ran y model pedair rhanbarth
diwygiedig yn Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040: a) ei fod wedi cael ei ysbrydoli gan agenda
Geidwadol, unoliaethol sy'n seiliedig ar gytundebau dinas a thwf Llywodraeth y
DU; b) y byddai'n gyrru hollt drwy Gymru, gan
rannu gogledd ein gwlad o'r de ac ni fyddai'n gwneud fawr ddim yn rhagweithiol
i wella cysylltedd rhwng y gogledd a'r de; ac c) y byddai'n esgeuluso rhai o'r rhannau
hynny o Gymru y mae angen eu hadfywio a'u datblygu fwyaf, sef yr arfordir
gorllewinol a chymoedd y de. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddisodli'r model
pedwar rhanbarth a gynigir yn Cymru'r Dyfodol: cynllun cenedlaethol 2040 gan,
yn lle hynny, gael map rhanbarthol amgen o Gymru sy'n canolbwyntio ar wneud
Cymru'n genedl gysylltiedig, cynaliadwy, ffyniannus a hunangynhaliol ym mhob
ystyr. Cymru'r
Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040 Gwelliant 2 Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod Dr Neil Harris o Brifysgol Caerdydd,
mewn tystiolaeth i Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y
Senedd, wedi crynhoi'r dull sy'n sail i Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol
2040 fel un sy'n seiliedig ar dwf sy'n canolbwyntio ar ardaloedd trefol a
sefydlogrwydd mewn mannau eraill. Yn credu o ran y dull sy'n sail i Cymru'r
Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040: a) ei fod mewn perygl o sefydlu'r methiant
i ddosbarthu cyfoeth, twf a datblygiad mewn modd cyfartal ledled Cymru fel
nodwedd barhaol o lywodraethu Cymru yn y cynllun hirdymor hwn; a b) y bydd yn arwain at orddatblygu yn yr
ardaloedd sydd eisoes wedi'u blaenoriaethu fel lleoliadau a ffefrir ar gyfer
datblygiadau preswyl sylweddol a datblygiadau sylweddol eraill, heb wneud fawr
ddim i fynd i'r afael â'r angen am ddatblygu cynaliadwy mewn meysydd eraill gan
gynnwys yr angen am dai cymdeithasol a fforddiadwy i gwrdd â'r argyfwng tai. Yn credu bod yn rhaid i'r system gynllunio yng
Nghymru adlewyrchu'r angen am ddatblygiad addas yn y mannau cywir yn ôl angen
lleol; rhoi mwy o lais i gymunedau mewn datblygiadau yn eu hardaloedd a bod yn
rhaid i'r system gynllunio ganiatáu cynllunio cyfannol ar y lefel briodol,
ond yn credu ei bod yn debygol y bydd trosglwyddo pŵer ac atebolrwydd
dros gynllunio o awdurdodau lleol i gyd-bwyllgorau corfforaethol drwy
gynlluniau datblygu strategol yn cyfyngu ymhellach ar y llais lleol mewn
prosesau cynllunio. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddisodli'r dull
sy'n sail i Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040 ar hyn o bryd gan
sefydlu dull amgen sy'n canolbwyntio ar ddosbarthu cyfoeth, pŵer a
buddsoddiad yn gyfartal ledled Cymru drwy dargedu ymyrraeth a thwf yn yr
ardaloedd mwyaf anghenus. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.14 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7487 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi'r
Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft, a osodwyd
ar 21 Medi 2020. 2. Yn nodi, yn unol ag
Adran 3 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, fod cyfnod ystyried 60 diwrnod y
Senedd wedi dechrau ar y diwrnod y gosodwyd drafft y Fframwaith yn y
Senedd. 3. Yn nodi, yn unol ag
Adran 3 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, fod yn rhaid i Weinidogion Cymru roi
sylw i unrhyw benderfyniad a basiwyd gan y Senedd ac unrhyw argymhelliad a
wnaed gan un o bwyllgorau'r Senedd mewn perthynas â'r drafft yn ystod y cyfnod
hwnnw o 60 diwrnod. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu o ran y model
pedair rhanbarth diwygiedig yn Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040: a) ei fod wedi cael ei
ysbrydoli gan agenda Geidwadol, unoliaethol sy'n seiliedig ar gytundebau dinas
a thwf Llywodraeth y DU; b) y byddai'n gyrru
hollt drwy Gymru, gan rannu gogledd ein gwlad o'r de ac ni fyddai'n gwneud
fawr ddim yn rhagweithiol i wella cysylltedd rhwng y gogledd a'r de; ac c) y byddai'n
esgeuluso rhai o'r rhannau hynny o Gymru y mae angen eu hadfywio a'u datblygu
fwyaf, sef yr arfordir gorllewinol a chymoedd y de. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddisodli'r model pedwar rhanbarth a gynigir yn Cymru'r Dyfodol: cynllun
cenedlaethol 2040 gan, yn lle hynny, gael map rhanbarthol amgen o Gymru sy'n
canolbwyntio ar wneud Cymru'n genedl gysylltiedig, cynaliadwy, ffyniannus a
hunangynhaliol ym mhob ystyr. Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040 Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod Dr Neil Harris o Brifysgol Caerdydd, mewn
tystiolaeth i Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Senedd,
wedi crynhoi'r dull sy'n sail i Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040
fel un sy'n seiliedig ar dwf sy'n canolbwyntio ar ardaloedd trefol a
sefydlogrwydd mewn mannau eraill. Yn credu o ran y dull sy'n sail i Cymru'r Dyfodol: y
cynllun cenedlaethol 2040: a) ei fod mewn perygl o sefydlu'r methiant i
ddosbarthu cyfoeth, twf a datblygiad mewn modd cyfartal ledled Cymru fel
nodwedd barhaol o lywodraethu Cymru yn y cynllun hirdymor hwn; a b) y bydd yn arwain at orddatblygu yn yr ardaloedd sydd
eisoes wedi'u blaenoriaethu fel lleoliadau a ffefrir ar gyfer datblygiadau
preswyl sylweddol a datblygiadau sylweddol eraill, heb wneud fawr ddim i fynd
i'r afael â'r angen am ddatblygu cynaliadwy mewn meysydd eraill gan gynnwys yr
angen am dai cymdeithasol a fforddiadwy i gwrdd â'r argyfwng tai. Yn credu bod yn rhaid i'r system gynllunio yng Nghymru
adlewyrchu'r angen am ddatblygiad addas yn y mannau cywir yn ôl angen lleol;
rhoi mwy o lais i gymunedau mewn datblygiadau yn eu hardaloedd a bod yn rhaid
i'r system gynllunio ganiatáu cynllunio cyfannol ar y lefel briodol,
ond yn credu ei bod yn debygol y bydd trosglwyddo pŵer ac atebolrwydd
dros gynllunio o awdurdodau lleol i gyd-bwyllgorau corfforaethol drwy
gynlluniau datblygu strategol yn cyfyngu ymhellach ar y llais lleol mewn
prosesau cynllunio. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddisodli'r dull sy'n sail i
Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040 ar hyn o bryd gan sefydlu
dull amgen sy'n canolbwyntio ar ddosbarthu cyfoeth, pŵer a buddsoddiad yn
gyfartal ledled Cymru drwy dargedu ymyrraeth a thwf yn yr ardaloedd mwyaf
anghenus. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7487
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft, a osodwyd
ar 21 Medi 2020. 2.
Yn nodi, yn unol ag Adran 3 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, fod cyfnod
ystyried 60 diwrnod y Senedd wedi dechrau ar y diwrnod y gosodwyd drafft y
Fframwaith yn y Senedd. 3.
Yn nodi, yn unol ag Adran 3 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, fod yn rhaid i
Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw benderfyniad a basiwyd gan y Senedd ac
unrhyw argymhelliad a wnaed gan un o bwyllgorau'r Senedd mewn perthynas â'r
drafft yn ystod y cyfnod hwnnw o 60 diwrnod.
Derbyniwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Yn
unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.16 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y
Llywydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig- Effaith COVID-19 ar Wasanaethau Iechyd NDM7489 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi adroddiad
BBC Wales Investigates a ddangosodd bod 10 gwaith yn fwy o gleifion yn
aros am bob triniaeth yn GIG Cymru o gymharu â mis Medi 2019. 2. Yn nodi ymhellach y
rhybudd gan arbenigwyr ac elusennau canser blaenllaw y gallai 2,000 o bobl farw
oherwydd oedi sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn GIG Cymru. 3. Yn cydnabod gwaith
caled, ymroddiad ac ymrwymiad staff yn y sector gofal iechyd sy'n cefnogi
cleifion nid yn unig â'r coronafeirws ond ag amrywiaeth o gyflyrau. 4. Yn gresynu at y
ffaith bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi amcangyfrif y
byddai'n cymryd tymor seneddol llawn i ailddechrau gwasanaethau arferol ac y
byddai'n ffôl cael cynllun ar waith i fynd i'r afael â'r ôl-groniad mewn
rhestrau aros. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) rhoi hwb i'r defnydd
o ysbytai sy’n rhydd o COVID-19 ar unwaith, fel yr argymhellwyd gan Goleg
Brenhinol y Llawfeddygon a'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys; b) cynnal adolygiad
brys o sut mae cleifion ysbyty yng Nghymru yn cael eu rhyddhau yn ystod y
pandemig a gweithredu'r canfyddiadau hynny i fynd i'r afael â thagfeydd mewn
ysbytai, fel yr argymhellwyd gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr; c) gwella ei threfn
brofi'n sylweddol er mwyn cynyddu capasiti a sicrhau bod COVID-19 yn cael ei
ynysu a'i gadw allan o ysbytai Cymru; d) cyflwyno cynllun
adfer canser, fel y gwelir mewn rhannau eraill o'r DU, a chynyddu'r buddsoddiad
yn y gwaith o gyflwyno canolfannau diagnostig cyflym ledled Cymru; e) gweithredu ymgyrch
genedlaethol i sicrhau bod pobl sy'n amau bod ganddynt ganser, neu y mae
angen iddynt fynd i'r ysbyty mewn argyfwng, yn parhau i wneud hynny. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 1 a rhoi
yn ei le: Yn nodi bod yr ystadegau
ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd ar 19 Tachwedd yn dangos cynnydd o 11 y cant
yng nghyfanswm y niferoedd sy’n aros am driniaeth rhwng mis Medi 2019 a mis
Medi 2020, ac mai nifer yr arosiadau dros y targed cenedlaethol o 36 wythnos
sydd naw gwaith yn fwy, tuedd sydd i’w gweld ym mhob rhan o’r DU. Gwelliant 2 Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 4 a rhoi
yn ei le: Yn gresynu y bydd Cymru,
y DU, a’r byd yn byw gydag effeithiau COVID-19 am flynyddoedd lawer. Yn nodi bod
cynlluniau’r GIG, tra mae COVID yn dal i fod yn ein cymuned, yn
canolbwyntio ar gydbwyso darparu gwasanaethau COVID a gwasanaethau eraill
yn ddiogel. Gwelliant 3 Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu is-bwynt 5(a) a
rhoi yn ei le: gweithio gyda
chlinigwyr lleol i ddarparu modelau cyflawni sy’n gwneud y mwyaf o’r holl
adnoddau i ddarparu gofal diogel o safon ar gyfer llwybrau COVID a llwybrau
eraill ar gyfer cymunedau lleol. Gwelliant 4 Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu is-bwynt 5(d) a
rhoi yn ei le: parhau i weithio
gyda’r rhwydwaith canser a’r GIG i sicrhau y gall gwasanaethau canser ateb
galwadau newydd a’r galw presennol, a chytuno sut i fuddsoddi yn y dyfodol i
wireddu’r ymrwymiad y cytunwyd arno ar gyfer profion diagnostig cyflym. Gwelliant 5 Rebecca
Evans (Gwyr)
Yn is-bwynt 5(e) dileu
“gweithredu ymgyrch” a rhoi yn ei le “parhau â’n hymgyrch”. Gwelliant 6 Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu is-bwyntiau
newydd ar ddiwedd pwynt 5: 'cynnal adolygiad o
berfformiad yn erbyn targedau amseroedd aros dros y degawd diwethaf i sicrhau
bod gwersi'n cael eu dysgu am reoli rhestrau aros; ystyried defnyddio'r
ysbytai Nightingale lle y bo'n bosibl i ddarparu capasiti ychwanegol i gleifion
sy'n gwella yn dilyn llawdriniaeth er mwyn helpu i gynyddu llif
drwy'r system.' Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.23 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7489 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi adroddiad
BBC Wales Investigates a ddangosodd bod 10 gwaith yn fwy o gleifion yn
aros am bob triniaeth yn GIG Cymru o gymharu â mis Medi 2019. 2. Yn nodi ymhellach y rhybudd
gan arbenigwyr ac elusennau canser blaenllaw y gallai 2,000 o bobl farw
oherwydd oedi sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn GIG Cymru. 3. Yn cydnabod gwaith caled,
ymroddiad ac ymrwymiad staff yn y sector gofal iechyd sy'n cefnogi cleifion nid
yn unig â'r coronafeirws ond ag amrywiaeth o gyflyrau. 4. Yn gresynu at y ffaith bod y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi amcangyfrif y byddai'n cymryd
tymor seneddol llawn i ailddechrau gwasanaethau arferol ac y byddai'n ffôl cael
cynllun ar waith i fynd i'r afael â'r ôl-groniad mewn rhestrau aros. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) rhoi hwb i'r defnydd o
ysbytai sy’n rhydd o COVID-19 ar unwaith, fel yr argymhellwyd gan Goleg
Brenhinol y Llawfeddygon a'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys; b) cynnal adolygiad brys o sut
mae cleifion ysbyty yng Nghymru yn cael eu rhyddhau yn ystod y pandemig a
gweithredu'r canfyddiadau hynny i fynd i'r afael â thagfeydd mewn ysbytai, fel
yr argymhellwyd gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr; c) gwella ei threfn brofi'n
sylweddol er mwyn cynyddu capasiti a sicrhau bod COVID-19 yn cael ei ynysu a'i
gadw allan o ysbytai Cymru; d) cyflwyno cynllun adfer
canser, fel y gwelir mewn rhannau eraill o'r DU, a chynyddu'r buddsoddiad yn y
gwaith o gyflwyno canolfannau diagnostig cyflym ledled Cymru; e) gweithredu ymgyrch
genedlaethol i sicrhau bod pobl sy'n amau bod ganddynt ganser, neu y mae
angen iddynt fynd i'r ysbyty mewn argyfwng, yn parhau i wneud hynny.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le: Yn gresynu y bydd Cymru, y DU, a’r byd yn byw gydag
effeithiau COVID-19 am flynyddoedd lawer. Yn nodi bod cynlluniau’r GIG, tra mae COVID yn dal i
fod yn ein cymuned, yn canolbwyntio ar gydbwyso darparu gwasanaethau COVID
a gwasanaethau eraill yn ddiogel. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu is-bwynt 5(a) a rhoi yn ei le: gweithio gyda chlinigwyr lleol i ddarparu modelau
cyflawni sy’n gwneud y mwyaf o’r holl adnoddau i ddarparu gofal diogel o safon
ar gyfer llwybrau COVID a llwybrau eraill ar gyfer cymunedau lleol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant
4 Rebecca Evans (Gwyr) Dileu
is-bwynt 5(d) a rhoi yn ei le: parhau
i weithio gyda’r rhwydwaith canser a’r GIG i sicrhau y gall gwasanaethau canser
ateb galwadau newydd a’r galw presennol, a chytuno sut i fuddsoddi yn y dyfodol
i wireddu’r ymrwymiad y cytunwyd arno ar gyfer profion diagnostig cyflym. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant
5 Rebecca Evans (Gwyr) Yn
is-bwynt 5(e) dileu “gweithredu ymgyrch” a rhoi yn ei le “parhau â’n hymgyrch”. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Gwelliant
6 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu
is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 5: 'cynnal
adolygiad o berfformiad yn erbyn targedau amseroedd aros dros y degawd diwethaf
i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu am reoli rhestrau aros; ystyried
defnyddio'r ysbytai Nightingale lle y bo'n bosibl i ddarparu capasiti
ychwanegol i gleifion sy'n gwella yn dilyn llawdriniaeth er mwyn
helpu i gynyddu llif drwy'r system.' Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant 6. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7489 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn
nodi bod yr ystadegau ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd ar 19 Tachwedd yn dangos
cynnydd o 11 y cant yng nghyfanswm y niferoedd sy’n aros am driniaeth
rhwng mis Medi 2019 a mis Medi 2020, ac mai nifer yr arosiadau dros y targed
cenedlaethol o 36 wythnos sydd naw gwaith yn fwy, tuedd sydd i’w gweld ym mhob
rhan o’r DU. 2. Yn nodi ymhellach y rhybudd
gan arbenigwyr ac elusennau canser blaenllaw y gallai 2,000 o bobl farw
oherwydd oedi sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn GIG Cymru. 3. Yn cydnabod gwaith caled,
ymroddiad ac ymrwymiad staff yn y sector gofal iechyd sy'n cefnogi cleifion nid
yn unig â'r coronafeirws ond ag amrywiaeth o gyflyrau. 4. Yn
gresynu y bydd Cymru, y DU, a’r byd yn byw gydag effeithiau COVID-19 am
flynyddoedd lawer. Yn nodi bod cynlluniau’r GIG, tra mae COVID yn dal i
fod yn ein cymuned, yn canolbwyntio ar gydbwyso darparu gwasanaethau COVID
a gwasanaethau eraill yn ddiogel. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) gweithio
gyda chlinigwyr lleol i ddarparu modelau cyflawni sy’n gwneud y mwyaf o’r holl
adnoddau i ddarparu gofal diogel o safon ar gyfer llwybrau COVID a llwybrau
eraill ar gyfer cymunedau lleol; b) cynnal adolygiad brys o sut
mae cleifion ysbyty yng Nghymru yn cael eu rhyddhau yn ystod y pandemig a
gweithredu'r canfyddiadau hynny i fynd i'r afael â thagfeydd mewn ysbytai, fel
yr argymhellwyd gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr; c) gwella ei threfn brofi'n
sylweddol er mwyn cynyddu capasiti a sicrhau bod COVID-19 yn cael ei ynysu a'i
gadw allan o ysbytai Cymru; d) parhau i weithio
gyda’r rhwydwaith canser a’r GIG i sicrhau y gall gwasanaethau canser ateb
galwadau newydd a’r galw presennol, a chytuno sut i fuddsoddi yn y dyfodol i
wireddu’r ymrwymiad y cytunwyd arno ar gyfer profion diagnostig cyflym; e) parhau â’n hymgyrch genedlaethol i sicrhau bod pobl sy'n amau bod
ganddynt ganser, neu y mae angen iddynt fynd i'r ysbyty mewn argyfwng, yn
parhau i wneud hynny.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. Yn
unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.23 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y
Dirprwy Lywydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.29 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7488 David
Rees (Aberafan)
Gwasanaethau
canser: cynllun adfer ar ôl COVID-19. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.37 NDM7488 David
Rees (Aberafan)
Gwasanaethau canser:
cynllun adfer ar ôl COVID-19. |