Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd/Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Amseriad disgwyliedig: 295 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/10/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(60 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.00

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

Atebodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip y 6 chwestiwn cyntaf am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â’i chyfrifoldebau.

 

(15 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.25

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.51 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.

 

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ailgylchu a'r Adferiad Gwyrdd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.00

(45 munud)

4.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2020

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.29

 

Am 16.38 a 17.02 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro am gyfanswm o 13 munud am resymau technegol.

 

(45 munud)

5.

Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Mynd i'r Afael â Pharcio ar y Palmant

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.10

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.48 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y cadeirydd dros dro.

 

(45 munud)

6.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Wasanaethau Mamolaeth a Gwelliannau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.54

7.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020

NDM7425 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Medi 2020.

Dogfennau Ategol

Ymateb y Llywodraeth i Adroddiad y Pwyllgor

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.29

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7425 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Medi 2020.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

9

14

51

Derbyniwyd y cynnig.

8.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020

NDM7424 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2020.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.29

NDM7424 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2020.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9.

Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)

NDM7422 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru).

Gosodwyd y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 10 Chwefror 2020.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) gerbron y Senedd ar 1 Hydref 2020.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.04

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7422 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru).

Gosodwyd y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 10 Chwefror 2020.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) gerbron y Senedd ar 1 Hydref 2020.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

2

4

51

Derbyniwyd y cynnig.

10.

Y Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)

NDM7423 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.04

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7423 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

2

4

51

Derbyniwyd y cynnig.

 

11.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, am 20.05 cafodd y trafodion eu hatal dros dro er mwyn caniatáu egwyl technegol cyn y cyfnod pleidleisio.

Dechreuodd yr eitem am 20.11

Dywedodd y Llywydd ei bod wedi cael ei hysbysu wedyn bod Gareth Bennett AS wedi gwrthwynebu eitem 8. Ymddiheurodd y Llywydd i’r Aelod nad oedd wedi gweld ei wrthwynebiad ar y pryd ond dywedodd bod derbyn y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36 bellach yn rhan o’r cofnod cyhoeddus

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: