Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd/ Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Amseriad disgwyliedig: 288(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 16/09/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad gan y Llywydd Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, penderfynodd y Llywydd
bod Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw
leoliad drwy ddulliau electronig. Dywedodd y Llywydd hefyd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15,
fod y cyhoedd wedi cael eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn,
fel sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd. Cafodd y cyfarfod ei
ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd
arferol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.32 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.17 Gofynnwyd
cwestiynau 1-9 ac 11-12. Ni ofynnwyd cwestiwn 10. Atebwyd cwestiynau 1 a 9 gan
y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Cyfyngiadau coronafeirws lleol ym Mwdeistref Caerffili a Rhondda Cynon Taf Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.12 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbynniwyd
unrhyw Gwestiynau Amserol. Cofnodion: Ni
ddewiswyd unrhyw Gwestiynau Amserol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.01 Gwnaeth Jack Sargeant
ddatganiad ar Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd. Gwnaeth Helen Mary Jones
ddatganiad ar 40 mlynedd o CYCA cycaonline.org sy’n darparu gwasanaethau i
blant a pobl Ifanc yn Sir Gaerfyrddin. Gwnaeth Darren Millar
ddatganiad ar 80 mlynedd ers Brwydr Prydain. Am 16.07, yn unol â
Rheol Sefydlog 12.18, cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd tan
16.22. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru NDM7374 Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â pharagraff 5(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013,
ac o dan Reol Sefydlog 10.5: Yn penodi Lindsay
Foyster yn Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru o 17 Hydref 2020 tan 15 Mawrth
2023. Noder: Gosodwyd
adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Benodi Cadeirydd ac Aelodau Anweithredol Swyddfa
Archwilio Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Medi 2020. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.22 NDM7374 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd, yn unol â pharagraff 5(1) o
Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ac o dan Reol Sefydlog
10.5: Yn penodi Lindsay Foyster yn Gadeirydd Swyddfa
Archwilio Cymru o 17 Hydref 2020 tan 15 Mawrth 2023. Noder: Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Benodi Cadeirydd
ac Aelodau Anweithredol Swyddfa Archwilio Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Medi
2020. Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i sefydlu pwyllgor o dan Reol Sefydlog 16.3: Pwyllgor y Llywydd - TYNNWYD YN ÔL NDM7375 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 16.3: yn sefydlu Pwyllgor y Llywydd
i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog 18B.2. Cofnodion: Tynnwyd yr eitem yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Budd-daliadau yng Nghymru - opsiynau i'w cyflawni'n well NDM7373 John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Budd-daliadau yng
Nghymru - opsiynau i'w cyflawni'n well', a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Hydref 2019. Noder: Gosodwyd
ymatebion Llywodraeth Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6
Rhagfyr 2019 a 9
Medi 2020. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.24 NDM7373 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Budd-daliadau yng
Nghymru - opsiynau i'w cyflawni'n well', a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Hydref 2019. Noder:
Gosodwyd ymatebion Llywodraeth Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Rhagfyr 2019 a 9 Medi 2020. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Mesurau i Atal COVID-19 NDM7376 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) ymestyn y defnydd gorfodol
o orchuddion wyneb i gynnwys meysydd awyr, siopau, archfarchnadoedd,
canolfannau siopa, ysbytai a lleoliadau gofal iechyd eraill; b) defnyddio
cyfyngiadau coronafeirws lleol mewn ymateb i gynnydd sylweddol mewn cyfraddau
heintio Covid-19 mewn modd cymesur er mwyn osgoi gosod cyfyngiadau symud llawn
ar Gymru gyfan; c)
ei gwneud yn ofynnol i bob teithiwr sy'n dod i mewn i Gymru o dramor gael prawf
Covid-19 wrth gyrraedd Maes Awyr Caerdydd. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu is-bwynt (a). Gwelliant 2 Sian
Gwenllian (Arfon) Dileu is-bwynt (c) a
rhoi yn ei le: 'Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i adolygu effeithiolrwydd mesurau i gynnwys lledaeniad COVID-19 mewn
perthynas â theithio rhyngwladol hyd yma ac i weithredu unrhyw wersi a
ddysgwyd.' [Os derbynnir
Gwelliant 2, bydd Gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 3 Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu is-bwynt (c) a
rhoi yn ei le 'profi pobl sy’n dychwelyd i Gymru o wledydd nad ydynt wedi’u
heithrio sydd â chyfraddau uwch o COVID-19 na Chymru, yn unol â’r cyngor
cyfredol gan y Grŵp Cyngor Technegol'. Gwelliant 4 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau llety i alluogi teithwyr a'r rhai nad oes ganddynt y
cyfleusterau i fod dan gwarantin ar eu pen eu hunain. Gwelliant 5 Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i wneud gorchuddion wyneb yn orfodol mewn ardaloedd cymunedol mewn
lleoliadau addysg penodol. Gwelliant 6 Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno cynllun COVID-19 newydd i Gymru i ddarparu dull cyfannol o
ymdrin â'r pandemig yn ystod y cyfnod nesaf. Gwelliant 7 Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i fynd i'r afael ar frys â phroblemau yn y drefn brofi bresennol ac i
weithio tuag at gyflwyno profion dyddiol torfol. Gwelliant 8 Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i archwilio'r syniad o ddefnyddio ‘cyfyngiadau symud clyfar' wrth ymateb
i glystyrau lleol, gan ddefnyddio cyfyngiadau mewn ardaloedd mor lleol â
phosibl. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.05 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7376 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ymestyn y defnydd gorfodol o orchuddion wyneb
i gynnwys meysydd awyr, siopau, archfarchnadoedd, canolfannau siopa, ysbytai a
lleoliadau gofal iechyd eraill; c) ei gwneud yn ofynnol i bob teithiwr sy'n dod i mewn i Gymru o dramor
gael prawf Covid-19 wrth gyrraedd Maes Awyr Caerdydd.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr) Dileu is-bwynt (a). Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon) Dileu is-bwynt (c) a rhoi yn ei le: 'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu
effeithiolrwydd mesurau i gynnwys lledaeniad COVID-19 mewn perthynas â theithio
rhyngwladol hyd yma ac i weithredu unrhyw wersi a ddysgwyd.' Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 Rebecca Evans (Gwyr) Dileu is-bwynt (c) a rhoi yn ei le 'profi pobl
sy’n dychwelyd i Gymru o wledydd nad ydynt wedi’u heithrio sydd â chyfraddau
uwch o COVID-19 na Chymru, yn unol â’r cyngor cyfredol gan y Grŵp Cyngor
Technegol'. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau llety i
alluogi teithwyr a'r rhai nad oes ganddynt y cyfleusterau i fod dan gwarantin
ar eu pen eu hunain. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gorchuddion
wyneb yn orfodol mewn ardaloedd cymunedol mewn lleoliadau addysg penodol. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun
COVID-19 newydd i Gymru i ddarparu dull cyfannol o ymdrin â'r pandemig yn ystod
y cyfnod nesaf. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant 6. Gwelliant 7 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ar
frys â phroblemau yn y drefn brofi bresennol ac i weithio tuag at gyflwyno
profion dyddiol torfol. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 7:
Gwrthodwyd gwelliant 7. Gwelliant 8 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio'r syniad
o ddefnyddio ‘cyfyngiadau symud clyfar' wrth ymateb i glystyrau lleol, gan
ddefnyddio cyfyngiadau mewn ardaloedd mor lleol â phosibl. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 8:
Gwrthodwyd gwelliant 8. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7376 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) defnyddio cyfyngiadau coronafeirws lleol mewn
ymateb i gynnydd sylweddol mewn cyfraddau heintio Covid-19 mewn modd cymesur er
mwyn osgoi gosod cyfyngiadau symud llawn ar Gymru gyfan; b) profi pobl sy’n dychwelyd i Gymru o wledydd
nad ydynt wedi’u heithrio sydd â chyfraddau uwch o COVID-19 na Chymru, yn unol
â’r cyngor cyfredol gan y Grŵp Cyngor Technegol'.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. Am 18.04, yn unol â
Rheol Sefydlog 12.18, cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd
tan 18.12. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Brexit - Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig NDM7372 Mark
Reckless (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn croesawu Bil
Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig. Bil
Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (Saesneg yn unig) Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Yn croesawu rhai
rhannau o Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n dychwelyd, yn briodol,
bwerau pwysig o'r UE i'r DU. [Os derbynnir
Gwelliant 1, bydd Gwelliannau 2 a 3 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: Yn credu bod Bil y
Farchnad Fewnol, Llywodraeth y DU gyfystyr ag ymosodiad ar y setliad datganoli
a fyddai, pe bai’n cael ei ddeddfu, yn tanseilio pwerau’r Senedd i ddiogelu a
hyrwyddo buddiannau pobl Cymru. [Os derbynnir
Gwelliant 2, bydd Gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 3 Sian
Gwenllian (Arfon) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd yn
cytuno bod Bil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU yn ymosodiad uniongyrchol ar
genedligrwydd a democratiaeth yng Nghymru. Gwelliant 4 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
at ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y
rhannau hynny o Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n cynnig datganoli
pwerau ymhellach i'r Senedd a Llywodraeth Cymru oherwydd, ar sail tystiolaeth
yr 20 mlynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru yn debygol o'u defnyddio i
gynyddu rheoleiddio, cyfyngu ar ryddid a thanseilio cystadleurwydd economi
Cymru. Gwelliant 5 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylid
dileu'r Senedd, fel rhan o gynllun ehangach i unioni canlyniadau anfoddhaol
datganoli drwy, yn benodol, ddemocrateiddio'r GIG a chreu mwy o ymreolaeth leol
mewn addysg, ac wrth gadw elfennau Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n
helpu i ddychwelyd pwerau, yn briodol, o'r UE i'r DU. Gwelliant 6 Gareth
Bennett (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn credu na ddylai'r
pwerau a gaiff eu dychwelyd gan Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig gael eu
datganoli i Gymru o ystyried sut y mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd wedi methu
mewn perthynas â'r pwerau datganoledig presennol sydd ganddynt. Gwelliant 7 Gareth
Bennett (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am refferendwm
cyfrwymol ynghylch a ddylid cadw neu ddiddymu llywodraeth a senedd datganoledig
Cymru, yn sgil amcanion arfaethedig Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig. Gwelliant 8 Sian
Gwenllian (Arfon) Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i archwilio annibyniaeth er mwyn diogelu democratiaeth yng Nghymru yn
sgil Bil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.12 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7372 Mark Reckless (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn croesawu Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig. Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (Saesneg yn unig)
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Yn croesawu rhai rhannau o Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas
Unedig sy'n dychwelyd, yn briodol, bwerau pwysig o'r UE i'r DU. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Rebecca Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: Yn credu bod Bil y Farchnad Fewnol, Llywodraeth y
DU gyfystyr ag ymosodiad ar y setliad datganoli a fyddai, pe bai’n cael ei
ddeddfu, yn tanseilio pwerau’r Senedd i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobl
Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gan fod Gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd Gwelliant 3 ei ddad-ddethol Gwelliant 4 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Ychwanegu pwynt newydd at ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y rhannau hynny o Fil Marchnad
Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n cynnig datganoli pwerau ymhellach i'r Senedd a
Llywodraeth Cymru oherwydd, ar sail tystiolaeth yr 20 mlynedd diwethaf, mae
Llywodraeth Cymru yn debygol o'u defnyddio i gynyddu rheoleiddio, cyfyngu ar
ryddid a thanseilio cystadleurwydd economi Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylid dileu'r Senedd, fel rhan o
gynllun ehangach i unioni canlyniadau anfoddhaol datganoli drwy, yn benodol,
ddemocrateiddio'r GIG a chreu mwy o ymreolaeth leol mewn addysg, ac wrth gadw
elfennau Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n helpu i ddychwelyd
pwerau, yn briodol, o'r UE i'r DU. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 Gareth Bennett (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu na ddylai'r pwerau a gaiff eu dychwelyd
gan Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig gael eu datganoli i Gymru o ystyried
sut y mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd wedi methu mewn perthynas â'r pwerau
datganoledig presennol sydd ganddynt. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant 6. Gwelliant 7 Gareth Bennett (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am refferendwm cyfrwymol ynghylch a
ddylid cadw neu ddiddymu llywodraeth a senedd datganoledig Cymru, yn sgil
amcanion arfaethedig Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 7:
Gwrthodwyd gwelliant 7. Gwelliant 8 Sian Gwenllian (Arfon) Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio
annibyniaeth er mwyn diogelu democratiaeth yng Nghymru yn sgil Bil Marchnad
Fewnol Llywodraeth y DU. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 8:
Gwrthodwyd gwelliant 8. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7372 Mark Reckless (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn credu bod Bil y Farchnad Fewnol, Llywodraeth y
DU gyfystyr ag ymosodiad ar y setliad datganoli a fyddai, pe bai’n cael ei
ddeddfu, yn tanseilio pwerau’r Senedd i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobl
Cymru.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn
unol â Rheol Sefydlog 34.14D, am 19.16, cafodd
y trafodion eu hatal dros dro
er mwyn caniatáu
egwyl technegol cyn y cyfnod pleidleisio. Dechreuodd
yr eitem am 19.26 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7371 David
Melding (Canol De Cymru) Yr
angen am gronfa diogelwch tân yng Nghymru i gynnig cymorth i lesddeiliaid. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.43 NDM7371 David Melding (Canol De Cymru) Yr angen am gronfa diogelwch tân yng Nghymru i
gynnig cymorth i lesddeiliaid. |