Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 261(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 12/02/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd cwestiwn 1 i 5
a 7 i 9. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i
ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.20 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Atebwyd cwestiwn 1 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adrannau Brys y GIG NDM7266
Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi'r pryderon a fynegwyd gan gleifion a chlinigwyr ledled Cymru ynghylch
perfformiad a dyfodol adrannau achosion brys y GIG. 2.
Yn gwrthod cynigion gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a allai arwain
at roi terfyn ar wasanaethau 24 awr a gaiff eu harwain gan feddygon ymgynghorol
yn adran achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd er mwyn atal unrhyw achos o israddio neu
gau adrannau achosion brys yng Nghymru yn ystod y Cynulliad hwn. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn cydnabod y datganiad trawsbleidiol ar
Ddyfodol Gofal Brys Diogel yng Nghwm Taf Morgannwg. 2. Yn cydnabod yr angen i’r bwrdd iechyd fod yn
agored ac yn dryloyw wrth ymgysylltu â’r cyhoedd, clinigwyr, y cyngor iechyd
cymuned, cynrychiolwyr etholedig, staff a’u hundebau, i lywio eu penderfyniad
ynghylch darparu pob math o ofal heb ei drefnu yn y dyfodol, gan gynnwys
gwasanaethau brys. 3. Yn cydnabod bod yn rhaid i unrhyw
ddarpariaeth gofal heb ei drefnu fod yn gadarn, yn ddiogel ac yn gynaliadwy. Yr
Ymgyrch dros Ofal Brys Diogel ar draws Cwm Taf Morgannwg Gwelliant 2 - Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu cynllun
cynhwysfawr ar gyfer cynyddu'r gweithlu clinigol, gyda ffocws penodol ar
arbenigeddau ac ardaloedd daearyddol y mae'n anodd recriwtio iddynt, megis mewn
adrannau achosion brys, fel na ellir byth ddefnyddio prinder staff i gyfiawnhau
cau a newid gwasanaethau. Gwelliant 3 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cefnogi adran damweiniau ac achosion brys
barhaol gydag adnoddau llawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Gwelliant 4 - Mick
Antoniw (Pontypridd) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gwrthod cynigion gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf
Morgannwg i ddod â gwasanaethau damweiniau ac achosion brys 24 awr o dan
arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg i ben ac yn galw
ar y Bwrdd Iechyd i: a) diystyru cau'r gwasanaeth damweiniau ac
achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg neu sefydlu uned mân anafiadau 24
awr yn lle'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys presennol; b) adfer yr opsiwn o gynnal gwasanaeth
damweiniau ac achosion brys llawn o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn
Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty'r
Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru; c) cyflwyno cynigion eraill ar gyfer
gwasanaethau iechyd cymunedol, gan gynnwys gwelliannau i'r gwasanaeth meddygon
teulu y tu allan i oriau ac ymestyn oriau agor yr uned mân anafiadau yn Ysbyty
Cwm Rhondda ac Ysbyty Cwm Cynon, a allai leddfu'r pwysau ar bob un o'r tair
adran damweiniau ac achosion brys. Cyd-gyflwynwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.05 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7266 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r pryderon a
fynegwyd gan gleifion a chlinigwyr ledled Cymru ynghylch perfformiad a dyfodol
adrannau achosion brys y GIG. 2. Yn gwrthod cynigion gan
Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a allai arwain at roi terfyn ar
wasanaethau 24 awr a gaiff eu harwain gan feddygon ymgynghorol yn adran
achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ymyrryd er mwyn atal unrhyw achos o israddio neu gau adrannau achosion brys
yng Nghymru yn ystod y Cynulliad hwn.
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn cydnabod y
datganiad trawsbleidiol ar Ddyfodol Gofal Brys Diogel yng Nghwm Taf Morgannwg. 2. Yn
cydnabod yr angen i’r bwrdd iechyd fod yn agored ac yn dryloyw wrth ymgysylltu
â’r cyhoedd, clinigwyr, y cyngor iechyd cymuned, cynrychiolwyr etholedig, staff
a’u hundebau, i lywio eu penderfyniad ynghylch darparu pob math o ofal heb ei
drefnu yn y dyfodol, gan gynnwys gwasanaethau brys. 3. Yn
cydnabod bod yn rhaid i unrhyw ddarpariaeth gofal heb ei drefnu fod yn gadarn,
yn ddiogel ac yn gynaliadwy. Yr Ymgyrch dros Ofal Brys Diogel ar draws Cwm
Taf Morgannwg Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant
1. Gwelliant 2 - Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu cynllun
cynhwysfawr ar gyfer cynyddu'r gweithlu clinigol, gyda ffocws penodol ar
arbenigeddau ac ardaloedd daearyddol y mae'n anodd recriwtio iddynt, megis mewn
adrannau achosion brys, fel na ellir byth ddefnyddio prinder staff i gyfiawnhau
cau a newid gwasanaethau. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant
2. Gwelliant 3 - Neil McEvoy (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cefnogi adran damweiniau ac achosion brys barhaol
gydag adnoddau llawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant
4 - Mick Antoniw (Pontypridd) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gwrthod cynigion gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg i ddod â gwasanaethau
damweiniau ac achosion brys 24 awr o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn
Ysbyty Brenhinol Morgannwg i ben ac yn galw ar y Bwrdd Iechyd i: a)
diystyru cau'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg
neu sefydlu uned mân anafiadau 24 awr yn lle'r gwasanaeth damweiniau ac
achosion brys presennol; b)
adfer yr opsiwn o gynnal gwasanaeth damweiniau ac achosion brys llawn o dan
arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty'r Tywysog
Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru; c)
cyflwyno cynigion eraill ar gyfer gwasanaethau iechyd cymunedol, gan gynnwys
gwelliannau i'r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau ac ymestyn oriau
agor yr uned mân anafiadau yn Ysbyty Cwm Rhondda ac Ysbyty Cwm Cynon, a allai
leddfu'r pwysau ar bob un o'r tair adran damweiniau ac achosion brys. Cyd-gyflwynwyr Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant
4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7266 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y datganiad trawsbleidiol ar Ddyfodol
Gofal Brys Diogel yng Nghwm Taf Morgannwg. 2. Yn cydnabod yr angen i’r bwrdd iechyd fod yn agored ac
yn dryloyw wrth ymgysylltu â’r cyhoedd, clinigwyr, y cyngor iechyd cymuned,
cynrychiolwyr etholedig, staff a’u hundebau, i lywio eu penderfyniad ynghylch
darparu pob math o ofal heb ei drefnu yn y dyfodol, gan gynnwys gwasanaethau
brys. 3. Yn cydnabod bod yn rhaid i unrhyw ddarpariaeth gofal
heb ei drefnu fod yn gadarn, yn ddiogel ac yn gynaliadwy. 4. Yn cefnogi adran damweiniau ac achosion brys barhaol
gydag adnoddau llawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. 5.
Yn gwrthod cynigion gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg i ddod â gwasanaethau
damweiniau ac achosion brys 24 awr o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn
Ysbyty Brenhinol Morgannwg i ben ac yn galw ar y Bwrdd Iechyd i: a)
diystyru cau'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol
Morgannwg neu sefydlu uned mân anafiadau 24 awr yn lle'r gwasanaeth damweiniau
ac achosion brys presennol; b)
adfer yr opsiwn o gynnal gwasanaeth damweiniau ac achosion brys llawn o dan
arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg,
Ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru; c)
cyflwyno cynigion eraill ar gyfer gwasanaethau iechyd cymunedol, gan gynnwys
gwelliannau i'r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau ac ymestyn oriau
agor yr uned mân anafiadau yn Ysbyty Cwm Rhondda ac Ysbyty Cwm Cynon, a allai
leddfu'r pwysau ar bob un o'r tair adran damweiniau ac achosion brys. Yr Ymgyrch dros Ofal Brys Diogel ar draws Cwm Taf Morgannwg
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbynniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol Cofnodion: Ni ddewiswyd unrhyw
Gwestiynau Amserol |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.11 Gwnaeth Vikki Howells
ddatganiad am Mis Hanes LGBT. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Gwasanaethau Cyhoeddus Ar-lein ac All-lein. NDM7263
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) 2. Yn cydnabod nad oes
gan bawb fynediad i'r rhyngrwyd. 3. Yn cydnabod nad yw pawb yn teimlo'n gyfforddus
yn defnyddio'r rhyngrwyd. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) sicrhau bod dewisiadau all-lein ar gael o
ran gwasanaethau cyhoeddus ar-lein, megis gyda'r system adnewyddu tocynnau bws;
a b) trafod gyda banciau, busnesau a sefydliadau
eraill i sicrhau nad yw cwsmeriaid yn cael eu hynysu os mai dim ond
gwasanaethau ar-lein a gynigir. Cyd-gyflwynwyr:
Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.13 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7263 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) 2.
Yn cydnabod nad oes gan bawb fynediad i'r rhyngrwyd. 3.
Yn cydnabod nad yw pawb yn teimlo'n gyfforddus yn defnyddio'r rhyngrwyd. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
sicrhau bod dewisiadau all-lein ar gael o ran gwasanaethau cyhoeddus ar-lein,
megis gyda'r system adnewyddu tocynnau bws; a b)
trafod gyda banciau, busnesau a sefydliadau eraill i sicrhau nad yw cwsmeriaid
yn cael eu hynysu os mai dim ond gwasanaethau ar-lein a gynigir. Cyd-gyflwynwyr: Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Gwaith dilynol ar gysgu ar y stryd - Gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau NDM7267
John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Gwaith
dilynol ar gysgu ar y stryd - Gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau
camddefnyddio sylweddau', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Rhagfyr 2019. Noder:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror
2020. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.59 NDM7267 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.46 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7268
Alun
Davies (Blaenau Gwent) Cymoedd
technoleg, yr A465 a strategaeth ddiwydiannol ar gyfer cyflogaeth gynaliadwy ym
Mlaenau'r Cymoedd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.50 NDM7268 Alun Davies (Blaenau Gwent) Cymoedd
technoleg, yr A465 a strategaeth ddiwydiannol ar gyfer cyflogaeth gynaliadwy ym
Mlaenau'r Cymoedd. |