Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 251(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/01/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 3. Dogfennau ategol: Cofnodion: |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.17 Gofynnwyd
cwestiynau 1-8 a 10-11. Tynnwyd cwestiwn 9 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 7, 10 ac
11 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y
Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(10 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 15.12 Gofynnwyd y
cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Weinidog yr Economi a
Thrafnidiaeth: David Rees (Aberafan) Yn dilyn y sylwadau a
wnaed gan gadeirydd grŵp Tata Sons, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu
cymryd i sicrhau dyfodol cynhyrchu dur yng Nghymru ym Mhort Talbot? (TAQ374) Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae
Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd yn dilyn penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol
Hywel Dda i ganslo llawdriniaethau cleifion mewnol ddydd Llun 6 Ionawr 2020 yn
ysbytai Bronglais, Glangwili, ysbyty'r Tywysog Philip a Llwynhelyg? (TAQ375) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.15 Gofyn i Weinidog
yr Economi a Thrafnidiaeth: David Rees (Aberafan) Yn dilyn y sylwadau a
wnaed gan gadeirydd grŵp Tata Sons, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu
cymryd i sicrhau dyfodol cynhyrchu dur yng Nghymru ym Mhort Talbot? Gofyn i’r
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae
Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd yn dilyn penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol
Hywel Dda i ganslo llawdriniaethau cleifion mewnol ddydd Llun 6 Ionawr 2020 yn
ysbytai Bronglais, Glangwili, ysbyty'r Tywysog Philip a Llwynhelyg? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 16.02 Gwnaeth Russell
George ddatganiad am - Ymweliad cyntaf Knife Angel â Chymru. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Waith y Pwyllgor Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.04 |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adfywio Cymunedol NDM7221 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at
fethiant rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â
thlodi yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. 2. Yn cydnabod yr
angen i gyflawni, yn ymarferol, dull cydgynhyrchiol o adfywio cymunedol, gyda
chyfraniad y gymuned at gyd-gynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau lleol. 3. Yn cydnabod yr
heriau penodol y mae trefi glan môr a threfi marchnad yn eu hwynebu gyda
chyfraddau uwch o siopau gwag a lefelau uwch o amddifadedd nag mewn rhannau
eraill o Gymru. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfeydd trefi glan môr a threfi marchnad i
gefnogi'r gwaith o adfywio mewn cymunedau ledled Cymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu’r cyfan a rhoi
yn ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu’r
buddsoddiad o £800m i adfywio cymunedau a chanol trefi rhwng 2014 a 2022. 2. Yn nodi’r cymorth
sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i fusnesau lleol mewn trefi ledled
Cymru, gan gynnwys pecyn cynhwysfawr o ryddhad ardrethi annomestig, i roi sylw
i eiddo gwag ar y stryd fawr. 3. Yn cydnabod rôl
bwysig Ardaloedd Gwella Busnes wrth helpu busnesau a chymunedau i gydweithio i
ddarparu atebion ar lawr gwlad a helpu i adfywio eu hardaloedd lleol. [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn gresynu at bolisïau
budd-daliadau Llywodraeth y DU, yn enwedig Credyd Cynhwysol, sydd wedi cynyddu
tlodi fel y nodwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn Adroddiad y Rapporteur Arbennig
ar dlodi eithafol a hawliau dynol. Yn cydnabod effeithiau
niweidiol llymder ar adfywio cymunedol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi
mentrau cymunedol i wrthdroi ei effeithiau. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyd-ddatblygu'r gwaith o adfywio'r stryd fawr a pholisi trafnidiaeth
leol fel ffordd o wella adfywio cymunedol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.52 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7221 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at fethiant
rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi yng
nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. 2. Yn cydnabod yr angen i
gyflawni, yn ymarferol, dull cydgynhyrchiol o adfywio cymunedol, gyda
chyfraniad y gymuned at gyd-gynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau lleol. 3. Yn cydnabod yr heriau
penodol y mae trefi glan môr a threfi marchnad yn eu hwynebu gyda chyfraddau
uwch o siopau gwag a lefelau uwch o amddifadedd nag mewn rhannau eraill o
Gymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sefydlu cronfeydd trefi glan môr a threfi marchnad i gefnogi'r gwaith o
adfywio mewn cymunedau ledled Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £800m i adfywio cymunedau
a chanol trefi rhwng 2014 a 2022. 2. Yn nodi’r cymorth sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth
Cymru i fusnesau lleol mewn trefi ledled Cymru, gan gynnwys pecyn cynhwysfawr o
ryddhad ardrethi annomestig, i roi sylw i eiddo gwag ar y stryd fawr. 3. Yn cydnabod rôl bwysig Ardaloedd Gwella Busnes wrth
helpu busnesau a chymunedau i gydweithio i ddarparu atebion ar lawr gwlad a
helpu i adfywio eu hardaloedd lleol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant
1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant
2 ei ddad-ddethol Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7221 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £800m i adfywio cymunedau
a chanol trefi rhwng 2014 a 2022. 2. Yn nodi’r cymorth sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth
Cymru i fusnesau lleol mewn trefi ledled Cymru, gan gynnwys pecyn cynhwysfawr o
ryddhad ardrethi annomestig, i roi sylw i eiddo gwag ar y stryd fawr. 3. Yn cydnabod rôl bwysig Ardaloedd Gwella Busnes wrth
helpu busnesau a chymunedau i gydweithio i ddarparu atebion ar lawr gwlad a
helpu i adfywio eu hardaloedd lleol.
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Teuluoedd Incwm Isel NDM7224 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno taliad o £35 yr wythnos i bob plentyn mewn teuluoedd incwm
isel yng Nghymru. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu’r cyfan a rhoi
yn ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu’r degawd
o gyni dan Lywodraeth y DU a’i rhaglen o ddiwygiadau lles, sydd wedi arwain at
gynnydd mewn tlodi plant yng Nghymru. 2. Yn nodi’r mesurau
gwerth £1bn y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gosod yn eu lle i helpu teuluoedd
incwm isel a threchu tlodi. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.57 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7224 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gyflwyno taliad o £35 yr wythnos i bob plentyn mewn teuluoedd incwm isel yng
Nghymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu’r degawd o gyni dan Lywodraeth y DU a’i
rhaglen o ddiwygiadau lles, sydd wedi arwain at gynnydd mewn tlodi plant yng
Nghymru. 2. Yn nodi’r mesurau gwerth £1bn y mae Llywodraeth Cymru
wedi’u gosod yn eu lle i helpu teuluoedd incwm isel a threchu tlodi. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant
1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7224 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu’r degawd o gyni dan Lywodraeth y DU a’i
rhaglen o ddiwygiadau lles, sydd wedi arwain at gynnydd mewn tlodi plant yng
Nghymru. 2. Yn nodi’r mesurau gwerth £1bn y mae Llywodraeth Cymru
wedi’u gosod yn eu lle i helpu teuluoedd incwm isel a threchu tlodi.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.51 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7194 Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru) Cymru Dairieithog: Y
gwerth i Gymru o addysgu ieithoedd tramor modern. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.54 NDM7194 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) Cymru
Dairieithog: Y gwerth i Gymru o addysgu ieithoedd tramor modern. |