NDM7221 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adfywio Cymunedol

NDM7221 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adfywio Cymunedol

NDM7221 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at fethiant rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.

2. Yn cydnabod yr angen i gyflawni, yn ymarferol, dull cydgynhyrchiol o adfywio cymunedol, gyda chyfraniad y gymuned at gyd-gynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau lleol.

3. Yn cydnabod yr heriau penodol y mae trefi glan môr a threfi marchnad yn eu hwynebu gyda chyfraddau uwch o siopau gwag a lefelau uwch o amddifadedd nag mewn rhannau eraill o Gymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfeydd trefi glan môr a threfi marchnad i gefnogi'r gwaith o adfywio mewn cymunedau ledled Cymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £800m i adfywio cymunedau a chanol trefi rhwng 2014 a 2022.

2. Yn nodi’r cymorth sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i fusnesau lleol mewn trefi ledled Cymru, gan gynnwys pecyn cynhwysfawr o ryddhad ardrethi annomestig, i roi sylw i eiddo gwag ar y stryd fawr.

3. Yn cydnabod rôl bwysig Ardaloedd Gwella Busnes wrth helpu busnesau a chymunedau i gydweithio i ddarparu atebion ar lawr gwlad a helpu i adfywio eu hardaloedd lleol.

 

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu at bolisïau budd-daliadau Llywodraeth y DU, yn enwedig Credyd Cynhwysol, sydd wedi cynyddu tlodi fel y nodwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn Adroddiad y Rapporteur Arbennig ar dlodi eithafol a hawliau dynol.

Yn cydnabod effeithiau niweidiol llymder ar adfywio cymunedol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi mentrau cymunedol i wrthdroi ei effeithiau.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyd-ddatblygu'r gwaith o adfywio'r stryd fawr a pholisi trafnidiaeth leol fel ffordd o wella adfywio cymunedol.

Y Cenhedloedd Unedig - Adroddiad y Rapporteur Arbennig ar dlodi eithafol a hawliau dynol - 23 Ebrill 2019

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021

Angen Penderfyniad: 8 Ion 2020 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Darren Millar AS