Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 209(v3) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol")

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.23

Gofynnwyd y 6 cwestiwn.

(30 munud)

3.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.46

(45 munud)

4.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Glasbrintiau Cyfiawnder

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.27

(45 munud)

5.

Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Ganolfan Fyd-eang ar Ragoriaeth Rheilffyrdd yng Nghymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.12

(45 munud)

6.

Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i Gynllun y Grŵp Arbenigwyr ar Ddiogelwch Adeiladau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.48

(30 munud)

7.

Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Blwyddyn Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Ieithoedd Cynhenid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.29

(30 munud)

8.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â'r Bil Masnach

NDM7052 - Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai'r darpariaethau yn y Bil Masnach, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried ymhellach gan Senedd y DU.

 

Gosodwyd ail Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mai 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

 

Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:

Bill documents — Trade Bill 2017-19 — UK Parliament (Senedd yn unig)

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.00

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7052 - Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai'r darpariaethau yn y Bil Masnach, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried ymhellach gan Senedd y DU.

Gosodwyd ail Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mai 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

4

41

Derbyniwyd y cynnig.

 

9.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.18

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: