Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 195(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.25

 

(45 munud)

3.

Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cefnogaeth Llywodraeth Cymru i Goedwigaeth yng Nghymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.55

 

(0 munud)

4.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Strategaeth Dwristiaeth -TYNNWYD YN ÔL

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem yn ôl.

 

(45 munud)

5.

Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Prentisiaethau: Buddsoddi Mewn Sgiliau ar gyfer y Dyfodol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.32

 

(45 munud)

6.

Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Rheoli'r Risg o Lifogydd ac Erydu Arfordirol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.11

(30 munud)

7.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach

NDM6986 - Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai'r darpariaethau yn y Bil Masnach, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Rhagfyr 2017 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Chwefror 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:

Dogfennau'r Bil— Trade Bill 2017-19 — UK Parliament (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol  - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.54

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6986 - Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai'r darpariaethau yn y Bil Masnach, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Rhagfyr 2017 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Chwefror 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

5

48

Derbyniwyd y cynnig.

 

(30 munud)

8.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol)

NDM6987 - Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai'r darpariaethau yn y Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol) i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Tachwedd 2018 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:

Dogfennau'r Bil — Healthcare (International Arrangements) Bill 2017-19 — UK Parliament (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.19

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6987 - Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai'r darpariaethau yn y Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol) i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Tachwedd 2018 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

5

47

Derbyniwyd y cynnig.

 

Cynnig i Ddyrannu Cadeiryddion Pwyllgorau i'r Grwpiau Plaid

Dechreuodd yr eitem am 17.41

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6991Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2R ac 17.2A, yn cytuno mai'r grŵp gwleidyddol y caiff y cadeirydd pwyllgor ei ethol ohono fydd fel a ganlyn:

(i)           Y Pwyllgor Deisebau – Ceidwadwyr Cymreig.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

4

48

 

Oherwydd y cafodd y Cynnig ei gefnogi gan ddwy ran o dair o’r Aelodau a oedd yn pleidleisio, derbyniwyd y Cynnig.

 

 

9.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.49

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: