Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 153(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/07/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.18

(60 munud)

3.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.42

(45 munud)

4.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Y wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau pontio Ewropeaidd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.36

 

(45 munud)

5.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Diwygio Llywodraeth Leol - y camau nesaf

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.30

(45 munud)

6.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Diweddariad ar Ofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer Masnachfreintiau Rheilffyrdd Eraill sy'n Gwasanaethu Cymru a Buddsoddiad yn Seilwaith y Rheilffyrdd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.11

(45 munud)

7.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyhoeddi Adroddiad Llywodraethu Donna Ockenden

Dogfen Ategol

 

The Ockenden Report (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.49

(15 munud)

8.

Rheoliadau Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018

NDM6769 – Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mehefin 2018.  

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.37

NDM6769 – Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mehefin 2018. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(15 munud)

9.

Cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

NDM6770Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Dogfennau Ategol

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)
Memorandwm Esboniadol Diwygiedig (Gorffennaf 2018)
Memorandwm Esboniadol Diwygiedig (fersiwn gyda diwygiadau wedi eu nodi) (Gorffennaf 2018)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.39

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6770Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

1

46

Derbyniwyd y cynnig.

 

10.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.45



Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: