Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 64(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 05/04/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld Cofnod y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol
Sefydlog 12.58, y bydd Arweinydd y Tŷ yn ateb cwestiynau ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 3. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Yn unol â Rheol Sefydlog 12.58, atebodd Arweinydd y Tŷ
cwestiynau ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn
10 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Arweinydd y Tŷ ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.16 Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd
cwestiynau 2 ac 11 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 3. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.01 Gwnaeth Ann Jones
ddatganiad am Jess Fishlock. Gwnaeth Simon Thomas
ddatganiad am Henry Richard, pen-blwydd ar 3
Ebrill. Gwnaeth Neil McEvoy ddatganiad am ddiogelu
cerddoriaeth fyw yng Nghymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12 mewn perthynas â Chwestiynau Amserol NDM6287 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio
Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12 – Cwestiynau Amserol a Chwestiynau Brys' a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mawrth 2017. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 11 a
12, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.05 NDM6287 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol
Sefydlog 12 – Cwestiynau Amserol a Chwestiynau Brys' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mawrth 2017. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 11 a 12, fel y nodir
yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod NDM6227
Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar leihau gwastraff. 2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai lleihau gwastraff drwy
roi gofyniad ar gynhyrchwyr a manwerthwyr bwyd mewn cysylltiad â phecynnu bwyd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.06 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM6227 Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar leihau gwastraff. 2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai lleihau gwastraff drwy roi gofyniad ar
gynhyrchwyr a manwerthwyr bwyd mewn cysylltiad â phecynnu bwyd. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd
y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar Benodiadau Gweinidogion: Gwrandawiadau cyn penodi gan Bwyllgorau'r Cynulliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.34 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM6260 David Melding (Canol De
Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod yr hyn a elwir yn 'bedwerydd chwyldro
diwydiannol' yn cynnig heriau a chyfleoedd i economi Cymru. 2. Yn nodi bod risg i tua 700,000 o swyddi yng Nghymru
dros y ddau ddegawd nesaf o ganlyniad i awtomatiaeth. 3. Yn credu bod gan Gymru arbenigedd eisoes sy'n rhoi
mantais gystadleuol mewn diwydiannau twf sy'n dod i'r amlwg. 4. Yn cydnabod bod angen inni, er mwyn manteisio ar y
diwydiannau newydd hyn, ganolbwyntio ar ddulliau cyflym, hyblyg sy'n addasu'n
rhwydd i amgylchiadau sydd wedi newid. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailedrych ar Strategaeth
Arloesi Cymru gyda'r bwriad o sicrhau ei bod yn adlewyrchu maint a chwmpas yr
amhariad rydym yn ei wynebu, ac yn ymrwymo i adolygiad strategol o gyfleoedd
mewn sectorau newydd twf uchel, lle mae gan Gymru'r potensial i sicrhau ei bod
yn dominyddu'r farchnad yn gynnar fel rhan o'i gwaith ar ddatblygu strategaeth
economaidd newydd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.52 NDM6260 David
Melding (Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod yr hyn a elwir yn 'bedwerydd chwyldro diwydiannol' yn cynnig
heriau a chyfleoedd i economi Cymru. 2. Yn nodi bod risg i tua 700,000 o swyddi yng Nghymru dros y ddau ddegawd
nesaf o ganlyniad i awtomatiaeth. 3. Yn credu bod gan Gymru arbenigedd eisoes sy'n rhoi mantais gystadleuol
mewn diwydiannau twf sy'n dod i'r amlwg. 4. Yn cydnabod bod angen inni, er mwyn manteisio ar y diwydiannau newydd
hyn, ganolbwyntio ar ddulliau cyflym, hyblyg sy'n addasu'n rhwydd i
amgylchiadau sydd wedi newid. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailedrych ar Strategaeth Arloesi Cymru
gyda'r bwriad o sicrhau ei bod yn adlewyrchu maint a chwmpas yr amhariad rydym
yn ei wynebu, ac yn ymrwymo i adolygiad strategol o gyfleoedd mewn sectorau
newydd twf uchel, lle mae gan Gymru'r potensial i sicrhau ei bod yn dominyddu'r
farchnad yn gynnar fel rhan o'i gwaith ar ddatblygu strategaeth economaidd
newydd. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6268 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pa mor bwysig yw cynllunio sgiliau ymlaen llaw
er mwyn diwallu anghenion y diwydiant adeiladu yn y dyfodol i ddarparu
prosiectau seilwaith yng Nghymru a thu hwnt. 2. Yn credu bod angen diwygio proses gaffael y sector
cyhoeddus yng Nghymru er mwyn elwa'n llawn ar botensial cymdeithasol,
economaidd ac amgylcheddol pŵer prynu sector cyhoeddus Cymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) gyflwyno Bil Caffael i'w gwneud yn ofynnol i gyrff y
sector cyhoeddus ddilyn polisi Llywodraeth Cymru ar gaffael, er mwyn sicrhau
bod adeiladu yn cael yr effaith gymdeithasol ac economaidd fwyaf bosibl; b) sefydlu fframwaith cenedlaethol ar gyfer proses
gaffael y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn sicrhau y caiff y dyheadau yn
Natganiad Polisi Caffael Cymru eu gwireddu; c) codi lefelau gwariant seilwaith cyfalaf er mwyn hybu'r
economi yng Nghymru, gan roi hwb angenrheidiol i'r sector adeiladu; d) ystyried yr achos dros sefydlu Coleg Adeiladu
Cenedlaethol i Gymru er mwyn meithrin sgiliau o ansawdd uchel yn y diwydiant
adeiladu. 'Datganiad
Polisi Caffael Cymru' Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg): Dileu'r cyfan ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le: 2. Yn nodi gwaith
Llywodraeth Cymru yn datblygu Datganiad Polisi Caffael Cymru sydd wedi lleihau
rhwystrau rhag caffael ar gyfer busnesau bach a chanolig ar hyd a lled Cymru. 3. Yn cydnabod yr angen
i gynyddu gallu o fewn sector cyhoeddus Cymru i fanteisio i'r eithaf ar effaith
gwariant caffael o fewn economi Cymru. 4. Yn nodi bwriad
Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen newydd ar gyfer caffael er mwyn helpu i
alluogi sector cyhoeddus Cymru i wneud defnydd deallus o bolisi a deddfwriaeth
ar draws Cymru. 5. Yn cydnabod
cynlluniau buddsoddi cyfalaf Llywodraeth Cymru a'r cyfleoedd caffael sylweddol
sy'n cael eu cyflwyno gan gynlluniau Metro De Cymru a Metro Gogledd-ddwyrain
Cymru; rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif; ffordd liniaru'r M4; adeiladu 20,000 o
dai fforddiadwy; gwelliannau i rwydwaith trafnidiaeth Cymru a phrosiectau
seilwaith sylweddol eraill. Gwelliant
2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau a fydd yn
rhoi contractau'r sector cyhoeddus o fewn cyrraedd cwmnïau Cymru, yn arbennig
busnesau bach a chanolig. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.45
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6268 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pa mor bwysig yw cynllunio sgiliau ymlaen llaw er mwyn diwallu
anghenion y diwydiant adeiladu yn y dyfodol i ddarparu prosiectau seilwaith yng
Nghymru a thu hwnt. 2. Yn credu bod angen diwygio proses gaffael y sector cyhoeddus yng Nghymru
er mwyn elwa'n llawn ar botensial cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol
pŵer prynu sector cyhoeddus Cymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) gyflwyno Bil Caffael i'w gwneud yn ofynnol i gyrff y sector cyhoeddus
ddilyn polisi Llywodraeth Cymru ar gaffael, er mwyn sicrhau bod adeiladu yn
cael yr effaith gymdeithasol ac economaidd fwyaf bosibl; b) sefydlu fframwaith cenedlaethol ar gyfer proses gaffael y sector
cyhoeddus yng Nghymru er mwyn sicrhau y caiff y dyheadau yn Natganiad Polisi
Caffael Cymru eu gwireddu; c) codi lefelau gwariant seilwaith cyfalaf er mwyn hybu'r economi yng
Nghymru, gan roi hwb angenrheidiol i'r sector adeiladu; d) ystyried yr achos dros sefydlu Coleg Adeiladu Cenedlaethol i Gymru er
mwyn meithrin sgiliau o ansawdd uchel yn y diwydiant adeiladu.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg): Dileu'r cyfan ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le: 2. Yn nodi gwaith
Llywodraeth Cymru yn datblygu Datganiad Polisi Caffael Cymru sydd wedi lleihau
rhwystrau rhag caffael ar gyfer busnesau bach a chanolig ar hyd a lled Cymru. 3. Yn cydnabod yr angen
i gynyddu gallu o fewn sector cyhoeddus Cymru i fanteisio i'r eithaf ar effaith
gwariant caffael o fewn economi Cymru. 4. Yn nodi bwriad
Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen newydd ar gyfer caffael er mwyn helpu i
alluogi sector cyhoeddus Cymru i wneud defnydd deallus o bolisi a deddfwriaeth
ar draws Cymru. 5. Yn cydnabod
cynlluniau buddsoddi cyfalaf Llywodraeth Cymru a'r cyfleoedd caffael sylweddol
sy'n cael eu cyflwyno gan gynlluniau Metro De Cymru a Metro Gogledd-ddwyrain
Cymru; rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif; ffordd liniaru'r M4; adeiladu 20,000 o
dai fforddiadwy; gwelliannau i rwydwaith trafnidiaeth Cymru a phrosiectau
seilwaith sylweddol eraill. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant
2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau a fydd yn rhoi contractau'r
sector cyhoeddus o fewn cyrraedd cwmnïau Cymru, yn arbennig busnesau bach a
chanolig. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6268 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pa mor bwysig yw cynllunio sgiliau ymlaen llaw er mwyn diwallu
anghenion y diwydiant adeiladu yn y dyfodol i ddarparu prosiectau seilwaith yng
Nghymru a thu hwnt. 2. Yn nodi gwaith
Llywodraeth Cymru yn datblygu Datganiad Polisi Caffael Cymru sydd wedi lleihau
rhwystrau rhag caffael ar gyfer busnesau bach a chanolig ar hyd a lled Cymru. 3. Yn cydnabod yr angen
i gynyddu gallu o fewn sector cyhoeddus Cymru i fanteisio i'r eithaf ar effaith
gwariant caffael o fewn economi Cymru. 4. Yn nodi bwriad
Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen newydd ar gyfer caffael er mwyn helpu i
alluogi sector cyhoeddus Cymru i wneud defnydd deallus o bolisi a deddfwriaeth
ar draws Cymru. 5. Yn cydnabod
cynlluniau buddsoddi cyfalaf Llywodraeth Cymru a'r cyfleoedd caffael sylweddol
sy'n cael eu cyflwyno gan gynlluniau Metro De Cymru a Metro Gogledd-ddwyrain
Cymru; rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif; ffordd liniaru'r M4; adeiladu 20,000 o
dai fforddiadwy; gwelliannau i rwydwaith trafnidiaeth Cymru a phrosiectau
seilwaith sylweddol eraill. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau a fydd yn rhoi
contractau'r sector cyhoeddus o fewn cyrraedd cwmnïau Cymru, yn arbennig
busnesau bach a chanolig.
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6286 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y rhan bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei
chwarae o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus o bwys ledled Cymru. 2. Yn nodi y dylai llywodraeth leol gryf ac effeithiol
weld grym yn cael ei roi yn ôl yn nwylo pobl leol a'u cymunedau. 3 Yn cydnabod y rhan bwysig a gaiff ei chwarae gan
fusnesau bach o ran llywio economi Cymru ac yn credu y dylai awdurdodau lleol
gydweithio'n agos â'r gymuned fusnes i annog mwy o gydweithredu, arloesi ac
entrepreneuriaeth. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â
hynny: Yn nodi pa mor bwysig yw rhannu arfer gorau ymysg
awdurdodau lleol yng Nghymru er mwyn cyflawni gwell canlyniadau o ran
gwasanaethau cyhoeddus i etholwyr. Gwelliant 2. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynrychiolaeth
gyfrannol i etholiadau lleol er mwyn cryfhau atebolrwydd llywodraeth leol a
gwella gwasanaethau cyhoeddus lleol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.28 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6286 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y rhan bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae o ran
darparu gwasanaethau cyhoeddus o bwys ledled Cymru. 2. Yn nodi y dylai llywodraeth leol gryf ac effeithiol weld grym yn cael ei
roi yn ôl yn nwylo pobl leol a'u cymunedau. 3 Yn cydnabod y rhan bwysig a gaiff ei chwarae gan fusnesau bach o ran
llywio economi Cymru ac yn credu y dylai awdurdodau lleol gydweithio'n agos â'r
gymuned fusnes i annog mwy o gydweithredu, arloesi ac entrepreneuriaeth.
Derbyniwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.26 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6285 Mike Hedges
(Dwyrain Abertawe) Dinas-Ranbarth Bae Abertawe. Cofnodion: |