NDM6286 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM6286 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM6286 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y rhan bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus o bwys ledled Cymru.

2. Yn nodi y dylai llywodraeth leol gryf ac effeithiol weld grym yn cael ei roi yn ôl yn nwylo pobl leol a'u cymunedau.

3 Yn cydnabod y rhan bwysig a gaiff ei chwarae gan fusnesau bach o ran llywio economi Cymru ac yn credu y dylai awdurdodau lleol gydweithio'n agos â'r gymuned fusnes i annog mwy o gydweithredu, arloesi ac entrepreneuriaeth.

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/03/2017

Angen Penderfyniad: 5 Ebr 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Paul Davies AS