Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 57(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld Cofnod y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Mae’r
Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd Arweinydd y Tŷ
yn ateb cwestiynau ar ran Prif Weinidog Cymru. Bydd
y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif
Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y
Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif
Chwip ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys 1 Dechreuodd yr eitem am 14.18
Dawn
Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff Ysgrifennydd y
Cabinet ddatganiad am effeithiau iechyd posibl glofa glo brig Ffos-y-Fran, yn
dilyn y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf gan rapporteur arbennig y Cenhedloedd
Unedig ar wastraff a sylweddau peryglus? |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys 2 Dechreuodd yr eitem
am 14.27
Lee Waters
(Llanelli): A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y methiant i benodi cynrychiolydd o Gymru ar
fwrdd y BBC? |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys 3 Dechreuodd yr eitem am 14.39
Andrew RT
Davies (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol hirdymor
y cyswllt awyr rhwng y gogledd a'r de a gaiff gymorthdaliadau, yn sgil y
newyddion bod Citywing wedi cael ei ddiddymu? |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys 4 Dechreuodd yr eitem
am 14.52 Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am
yr achos o danseilio diogelwch data a effeithiodd ar staff y GIG sy'n defnyddio
mesuryddion dognau o ymbelydredd? |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.11 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.30 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg – y ffordd ymlaen Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.14 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Economi Ddigidol NDM6254 Mark Drakeford
(Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno mai Senedd y DU ddylai ystyried y darpariaethau ym Mil
yr Economi Ddigidol sy'n ymwneud â rhannu data, i'r graddau y maent yn dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth
2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.56 NDM6254 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno mai Senedd y DU
ddylai ystyried y darpariaethau ym Mil yr Economi Ddigidol sy'n ymwneud â
rhannu data, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Gwastraff Trefol ac Ailgylchu NDM6255 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cytuno bod Cymru ar y blaen o safbwynt ailgylchu
gwastraff trefol ac yn cefnogi'r bwriad sy'n golygu: a) creu rhagor o fentrau er mwyn cyflawni'r canlyniadau
gorau posibl o ran datblygu cynaliadwy ac amcanion Symud Cymru Ymlaen b) mai Cymru fydd y wlad orau yn y byd am ailgylchu. Dogfen Ategol Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. David Rowlands (Dwyrain
De Cymru) [Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) 'fel cynllun ad-dalu blaendal ar gyfer plastig, gwydr a
chaniau a gwahardd pecynnau polystyren.' Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: 'sicrhau canlyniadau datblygu cynaliadwy drwy economi fwy
gylchol yn seiliedig ar ddefnydd arloesol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r
Dyfodol (Cymru) 2015.' Gwelliant 4. David Rowlands (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi â phryder bod cyfraddau ailgylchu yn amrywio'n
sylweddol ar draws ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru, yn rhannol oherwydd
gwahaniaethau mewn cynlluniau ailgylchu a chasglu gwastraff a ddefnyddir ym
mhob ardal awdurdod lleol; Yn gresynu bod 36,000 o achosion o dipio anghyfreithlon
wedi'u cofnodi yng Nghymru yn 2015/16, gyda chostau o dros £2.1 miliwn i
awdurdodau lleol eu clirio; Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau
lleol yn casglu gwastraff gweddilliol cartrefi bob pythefnos fan lleiaf, er
mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ac atal tipio anghyfreithlon. Gwelliant 5. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Fel mai Cymru fydd y wlad ailgylchu orau yn y byd, mae
angen i awdurdodau lleol fabwysiadu arfer gorau er mwyn codi cyfraddau
ailgylchu, a dysgu gan awdurdodau fel Ceredigion, lle y cafodd 68.1 y cant o
wastraff trefol ei ailgylchu yn 2015/16. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.15 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. NDM6255 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn cytuno bod Cymru ar y
blaen o safbwynt ailgylchu gwastraff trefol ac yn cefnogi'r bwriad sy'n golygu: a) creu rhagor o fentrau
er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl o ran datblygu cynaliadwy ac
amcanion Symud Cymru Ymlaen b) mai Cymru fydd y
wlad orau yn y byd am ailgylchu. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. David
Rowlands (Dwyrain De Cymru) Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd
gwelliant 1. Gwelliant 2. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) 'fel cynllun ad-dalu
blaendal ar gyfer plastig, gwydr a chaniau a gwahardd pecynnau polystyren.' Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnwys is-bwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: 'sicrhau canlyniadau datblygu cynaliadwy drwy
economi fwy gylchol yn seiliedig ar ddefnydd arloesol o Ddeddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.' Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4. David
Rowlands (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwyntiau newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi â phryder bod
cyfraddau ailgylchu yn amrywio'n sylweddol ar draws ardaloedd awdurdodau lleol
yng Nghymru, yn rhannol oherwydd gwahaniaethau mewn cynlluniau ailgylchu a
chasglu gwastraff a ddefnyddir ym mhob ardal awdurdod lleol; Yn gresynu bod 36,000 o
achosion o dipio anghyfreithlon wedi'u cofnodi yng Nghymru yn 2015/16, gyda
chostau o dros £2.1 miliwn i awdurdodau lleol eu clirio; Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol yn casglu gwastraff gweddilliol cartrefi
bob pythefnos fan lleiaf, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ac atal tipio
anghyfreithlon. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
Gwrthodwyd
gwelliant 4. Gwelliant 5. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Fel mai Cymru fydd y wlad
ailgylchu orau yn y byd, mae angen i awdurdodau lleol fabwysiadu arfer gorau er
mwyn codi cyfraddau ailgylchu, a dysgu gan awdurdodau fel Ceredigion, lle y
cafodd 68.1 y cant o wastraff trefol ei ailgylchu yn 2015/16. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd
gwelliant 5. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6255 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn cytuno bod Cymru ar y
blaen o safbwynt ailgylchu gwastraff trefol ac yn cefnogi'r bwriad sy'n golygu: a) creu rhagor o fentrau
er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl o ran datblygu cynaliadwy ac
amcanion Symud Cymru Ymlaen fel cynllun ad-dalu blaendal ar gyfer plastig,
gwydr a chaniau a gwahardd pecynnau polystyren b) mai Cymru fydd y
wlad orau yn y byd am ailgylchu c)
sicrhau canlyniadau datblygu cynaliadwy drwy economi fwy gylchol yn seiliedig
ar ddefnydd arloesol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.20 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |