R - Yn
dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif
gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth sydd ar gael i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan yr ailbrisio ardrethi busnes? OAQ(5)497(FM)
2. Huw Irranca–Davies (Ogwr): Pa ystyriaeth y mae'r Prif Weinidog wedi'i rhoi i flaenoriaethu effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi fel rhan o bolisi seilwaith cenedlaethol yng Nghymru? OAQ(5)0504(FM)
3. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i gymryd camau i sicrhau cydraddoldeb o ran lefel buddsoddiad y llywodraeth ym mhob rhan o Gymru? OAQ(5)0506(FM)
4. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth ar gyfer pobl ar y sbectrwm awtistiaeth yng Nghymru? OAQ(5)0509(FM)W
5. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen waith Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru rhwng nawr a phan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0501(FM)
6. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am addysg ôl-16 yng Nghymru? OAQ(5)0503(FM)
7. David Melding (Canol De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau cyfranddaliadau cymunedol sy'n hyrwyddo mentrau ynni gwyrdd? OAQ(5)0500(FM)
8. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyletswyddau Swyddogion Traffig yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0508(FM)W
9. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i gwrdd â Phrif Weinidog yr Alban i drafod y berthynas â'r Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0496(FM)W
10. Gareth Bennett (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â'r diwydiant gwasanaethau ariannol i sicrhau buddsoddiad a swyddi yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0507(FM)
11. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa sectorau diwydiant yr ymwelodd â hwy ar ei ymweliad diweddar â'r Unol Daleithiau? OAQ(5)0502(FM)
12. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau ysbytai i bobl gogledd Powys? OAQ(5)0498(FM)
13. Hefin David (Caerffili): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu maint y stoc tai fforddiadwy yng Nghaerffili? OAQ(5)0505(FM)R
14. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei gynnig ar gyfer llywodraethu marchnad fewnol y DU yn y dyfodol? OAQ(5)0499(FM)
15. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers ei roi o dan fesurau arbennig? OAQ(5)0510(FM)