Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 53(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 28/02/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld
Record
of Proceedings |
||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol
Sefydlog 12.58, y bydd Arweinydd y Tŷ yn ateb cwestiynau ar ran Prif
Weinidog Cymru. Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i
ofyn cwestiynau heb rybudd i Arweinydd y Tŷ ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Yn unol â Rheol Sefydlog 12.58, atebodd
Arweinydd y Tŷ ar ran y Prif Weinidog. Gofynnwyd cwestiynau 1-3 a 5-9. Tynnwyd cwestiwn
4 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Arweinydd y Tŷ ar ôl cwestiwn 2. |
|
Pwynt o Drefn Cododd Rhun ap Iorwerth Bwynt o Drefn ynghylch sylwadau a
wnaed gan Arweinydd Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig am ymddygiad Leanne
Wood AC a Jonathan Edwards AS yn ystod ymgyrch ar ddyfodol ysgol yn
Llangennech. Atgoffwyd yr Aelodau gan y Llywydd i ddangos cwrteisi bob
amser yn y Siambr tuag at gyd-Aelodau etholedig ac Aelodau Seneddol. |
||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.20 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Gwerthusiad Annibynnol o Fodel Ymateb Clinigol y Gwasanaethau Ambiwlans Brys Dogfen Ategol: Pwyllgor
Gwasanaethau Ambiwlans Brys Gwasanaeth Ambiwlans Cymru – Adroddiad terfynol ar
werthuso cynllun peilot y model clinigol (Saesneg yn unig) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.25 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Adolygiad Addysg ac Argymhellion y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.01 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Dyfodol Gwasanaethau Bysiau Lleol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.38 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid Arloesol: Model Buddsoddi Cydfuddiannol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.32 |
|
(60 munud) |
Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) NDM6241 Rebecca Evans
(Gŵyr): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd
(Cymru). Gosodwyd Bil
Iechyd y Cyhoedd (Cymru) a'r Memorandwm
Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 7 Tachwedd 2016. Gosodwyd
adroddiad Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Fil Iechyd y
Cyhoedd (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 10 Chwefror 2017. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.15 NDM6241 Rebecca Evans (Gŵyr): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd
(Cymru). Gosodwyd Bil
Iechyd y Cyhoedd (Cymru) a'r Memorandwm
Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 7 Tachwedd 2016. Gosodwyd
adroddiad Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Fil Iechyd y
Cyhoedd (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 10 Chwefror 2017. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(5 munud) |
Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) NDM6242 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion
unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), yn cytuno i
unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69,
sy'n codi o ganlyniad i'r Bil. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.23 NDM6242 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion
unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), yn cytuno i
unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69,
sy'n codi o ganlyniad i'r Bil. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
Cyfnod pleidleisio |