Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 52(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 15/02/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Bydd
y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y
Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.19 Gofynnwyd y 7 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.53 Gwnaeth Huw-Irranca Davies ddaganiad ar Men’s
Sheds Cymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Y Darlun Mawr, Safbwyntiau cychwynnol ar ddarlledu yng Nghymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.54 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei waith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 NDM6239 John Griffiths
(Dwyrain Casnewydd): Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar yr
Ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin
Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2016. Nodyn:
Gosodwyd
ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i'r adroddiad yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 8 Chwefror 2017. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.13 NDM6239 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau ar yr Ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i Ddeddf
Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2016. Nodyn: Gosodwyd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a
Phlant i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Chwefror 2017. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM6204
Hannah
Blythyn (Delyn) Jeremy
Miles (Castell-nedd) Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru) Adam
Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod mis Chwefror yn Fis Hanes LGBT, ac yn
gyfle blynyddol i hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb ledled Cymru. 2. Yn nodi ymhellach gyfraniad pobl LGBT a mwy i'n
cymunedau a'n gwlad. 3. Yn cydnabod y rôl a chwaraeir gan eiconau a
chyfeillion LGBT yng Nghymru, fel y dangosir gan yr arddangosfa eiconau a
chyfeillion LGBT yn y Senedd y mis hwn. 4. Yn croesawu'r cynnydd a wnaed yn y degawdau diwethaf o
ran derbyn LGBT ac o ran eu hawliau. 5. Yn credu bod angen bod yn effro i sicrhau bod hawliau
LGBT a mwy yn cael eu diogelu. 6. Yn cymryd yr awenau o ran parhau i hybu cydraddoldeb a
herio gwahaniaethu ac anghydfod, gan sicrhau bod Cymru yn genedl groesawgar i
bobl LGBT a mwy. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.15 NDM6204 Hannah Blythyn (Delyn) Jeremy Miles (Castell-nedd) Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod mis Chwefror
yn Fis Hanes LGBT, ac yn gyfle blynyddol i hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb
ledled Cymru. 2. Yn nodi ymhellach
gyfraniad pobl LGBT a mwy i'n cymunedau a'n gwlad. 3. Yn cydnabod y rôl a
chwaraeir gan eiconau a chyfeillion LGBT yng Nghymru, fel y dangosir gan yr
arddangosfa eiconau a chyfeillion LGBT yn y Senedd y mis hwn. 4. Yn croesawu'r
cynnydd a wnaed yn y degawdau diwethaf o ran derbyn LGBT ac o ran eu hawliau. 5. Yn credu bod angen
bod yn effro i sicrhau bod hawliau LGBT a mwy yn cael eu diogelu. 6. Yn cymryd yr awenau
o ran parhau i hybu cydraddoldeb a herio gwahaniaethu ac anghydfod, gan sicrhau
bod Cymru yn genedl groesawgar i bobl LGBT a mwy. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6240 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pa mor bwysig i unigolion a busnesau pob
cymuned yng Nghymru yw cyngor ariannol a gwasanaethau bancio sy'n hawdd cael
gafael arnynt. 2. Yn gresynu bod canghennau banciau a chymdeithasau
adeiladu yn cau mewn cymunedau ledled Cymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: i) archwilio pob opsiwn ar frys er mwyn diwallu anghenion
ariannol unigolion a busnesau yng Nghymru; a ii) archwilio'r camau deddfwriaethol a rheoleiddiol
angenrheidiol i sefydlu modelau amgen o ddarparu gwasanaethau bancio, gan
gynnwys Banc Pobl Cymru tebyg i'r banciau cynilo lleol. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg): Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru wrth hyrwyddo
cynhwysiant ariannol, gan gynnwys cymorth ar gyfer gwasanaethau cynghori ac
undebau credyd, a'r uchelgeisiau a ddisgrifir yn Strategaeth Cynhwysiant
Ariannol 2016 ar gyfer system ariannol yng Nghymru sy'n gynhwysfawr ac yn
gweithio'n dda. Yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU gydweithio â phartneriaid er mwyn gwella mynediad at wasanaethau credyd ac
ariannol fforddiadwy a gwybodaeth ar gyfer unigolion, gan gynnwys cyngor ar
ddyledion. Yn cydnabod yr angen i wella gallu ariannol yng Nghymru
ac yn nodi'r gwaith sy'n mynd rhagddo er mwyn sefydlu Banc Datblygu Cymru a'i
uned wybodaeth a fydd yn targedu'n well wasanaethau a chyngor ariannol ar gyfer
microfusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru." Strategaeth
Cynhwysiant Ariannol 2016 [Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro): Ym mhwynt 3 b), dileu 'Banc Pobl Cymru tebyg i'r banciau
cynilo lleol' a rhoi yn ei le: 'y model bancio cymuned a ddatblygwyd yng Nghymru gan
Responsible Finance' Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro):
Yn croesawu'r adolygiad annibynnol, "Access to
Banking Protocol One Year on Review" gan yr Athro Russel Griggs OBE, a
gyhoeddwyd fis Tachwedd 2016 'Access
to Banking Protocol One Year on Review – Professor Russel Griggs OBE' (Saesneg
yn unig) Gwelliant 4.
Paul Davies (Preseli Sir
Benfro):
Yn croesawu cytundeb Partneriaeth newydd y Swyddfa Bost â
Banciau'r DU. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.19 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM6240 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pa mor bwysig i unigolion a
busnesau pob cymuned yng Nghymru yw cyngor ariannol a gwasanaethau bancio sy'n
hawdd cael gafael arnynt. 2. Yn gresynu bod canghennau banciau a
chymdeithasau adeiladu yn cau mewn cymunedau ledled Cymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: i) archwilio pob opsiwn ar frys er mwyn
diwallu anghenion ariannol unigolion a busnesau yng Nghymru; a ii) archwilio'r camau deddfwriaethol a
rheoleiddiol angenrheidiol i sefydlu modelau amgen o ddarparu gwasanaethau
bancio, gan gynnwys Banc Pobl Cymru tebyg i'r banciau cynilo lleol.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg): Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru wrth hyrwyddo cynhwysiant ariannol,
gan gynnwys cymorth ar gyfer gwasanaethau cynghori ac undebau credyd, a'r
uchelgeisiau a ddisgrifir yn Strategaeth Cynhwysiant Ariannol 2016 ar gyfer
system ariannol yng Nghymru sy'n gynhwysfawr ac yn gweithio'n dda. Yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydweithio â
phartneriaid er mwyn gwella mynediad at wasanaethau credyd ac ariannol
fforddiadwy a gwybodaeth ar gyfer unigolion, gan gynnwys cyngor ar ddyledion. Yn cydnabod yr angen i wella gallu ariannol yng Nghymru
ac yn nodi'r gwaith sy'n mynd rhagddo er mwyn sefydlu Banc Datblygu Cymru a'i
uned wybodaeth a fydd yn targedu'n well wasanaethau a chyngor ariannol ar gyfer
microfusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru." Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro): Yn croesawu'r adolygiad annibynnol, "Access to
Banking Protocol One Year on Review" gan yr Athro Russel Griggs OBE, a
gyhoeddwyd fis Tachwedd 2016. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro): Yn croesawu cytundeb
Partneriaeth newydd y Swyddfa Bost â Banciau'r DU.
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pa mor bwysig i unigolion a
busnesau pob cymuned yng Nghymru yw cyngor ariannol a gwasanaethau bancio sy'n
hawdd cael gafael arnynt. 2. Yn gresynu bod canghennau banciau a
chymdeithasau adeiladu yn cau mewn cymunedau ledled Cymru. 3. Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru wrth hyrwyddo cynhwysiant ariannol,
gan gynnwys cymorth ar gyfer gwasanaethau cynghori ac undebau credyd, a'r
uchelgeisiau a ddisgrifir yn Strategaeth Cynhwysiant Ariannol 2016 ar gyfer
system ariannol yng Nghymru sy'n gynhwysfawr ac yn gweithio'n dda. Yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydweithio â
phartneriaid er mwyn gwella mynediad at wasanaethau credyd ac ariannol
fforddiadwy a gwybodaeth ar gyfer unigolion, gan gynnwys cyngor ar ddyledion. Yn cydnabod yr angen i wella gallu ariannol yng Nghymru
ac yn nodi'r gwaith sy'n mynd rhagddo er mwyn sefydlu Banc Datblygu Cymru a'i
uned wybodaeth a fydd yn targedu'n well wasanaethau a chyngor ariannol ar gyfer
microfusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru." 4. Yn croesawu'r adolygiad annibynnol, "Access to
Banking Protocol One Year on Review" gan yr Athro Russel Griggs OBE, a
gyhoeddwyd fis Tachwedd 2016. 5. Yn croesawu cytundeb
Partneriaeth newydd y Swyddfa Bost â Banciau'r DU.
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: David Rees (Aberafan): Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw mewn perthynas â balot gweithlu Tata ynghylch
dur, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch pa drafodaethau y mae wedi'u
cael i sicrhau bod yr ymrwymiad i fuddsoddi mewn cynhyrchu dur ym Mhort Talbot
yn ddiogel? Dechreuodd yr eitem am 18.16 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.42 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dechreuodd yr eitem am 18.42 Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6238 Caroline Jones
(Gorllewin De Cymru) Mynd
i'r afael ag unigrwydd ac unigedd yng Nghymru, gweithio mewn partneriaeth. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.45 NDM6238 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) Mynd i'r afael ag
unigrwydd ac unigedd yng Nghymru, gweithio mewn partneriaeth. |