Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 36(v6)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 30/11/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld Cofnod
y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Llywydd Gwnaeth
y Llywydd ddatganiad yn atgoffa’r Aelodau ei bod yn disgwyl iddynt ddangos
parch a chwrteisi at Aelodau eraill bob amser. Dywedodd fod pethau anaddas ac
annifyr wedi cael eu dweud yn ddiweddar, ac y dylai Aelodau allu anghytuno ar
faterion heb sarhau unigolion. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar
ôl cwestiwn 3. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.31 Gofynnwyd
cwestiynau 2-6, 8 a 9. Tynnwyd cwestiynau 1 a 7 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 4, 6,
8 a 9 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 3. |
|||||||||||||||||||||||||
(35 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.20 Gofynnwyd
y 7 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys 1 Dechreuodd
yr eitem am 14.54 Bethan
Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drafodaethau y mae
wedi'u cael â Trinity Mirror ynghylch y cynnig i gau gwaith argraffu'r cwmni
yng Nghaerdydd, gan golli 33 o swyddi ar y safle? |
||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys 2 Dechreuodd
yr eitem am 14.58 Adam
Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am
adroddiadau ynghylch y posibilrwydd o golli swyddi yng ngwaith dur Tata Steel
ym Mhort Talbot? |
||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys 3 Dechreuodd
yr eitem am 15.11 Russell
George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiad ynghylch
ymchwiliad yr heddlu i gam-drin rhywiol hanesyddol mewn pêl-droed yng ngogledd
Cymru? |
||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.16 Gwnaeth
Steffan Lewis ddatganiad ar gyfraniad y Gwyddelod i Gymru yn ystod
canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg. Gwnaeth
Janet Finch-Saunders ddatganiad ar dinitws. Gwnaeth
Eluned Morgan ddatganiad ar y Grŵp Trawsbleidiol ar Gelfyddydau ac Iechyd. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y Comisiynydd Safonau newydd Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.21 |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6176 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynlluniau
llwyddiannus fel dydd Sadwrn busnesau bach i gynyddu nifer y bobl sy'n ymweld â
chanol trefi ledled Cymru. 2. Yn nodi, o ganlyniad
i gytundeb cyllideb Plaid Cymru â Llywodraeth Cymru, y caiff cronfa ei sefydlu
a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i gynnig cyfleusterau parcio ceir am ddim
yng nghanol trefi ledled Cymru, gan roi hwb hanfodol i adfywio canol trefi. 3. Yn gresynu fod y
system ardrethi busnes bresennol yn rhoi baich anghymesur ar fusnesau bach sydd
ag eiddo yng Nghymru, o'i gymharu â gweddill y DU. 4. Yn gresynu at effaith
y gwaith diweddar o ailbrisio ardrethi busnes ar rai busnesau bach yng Nghymru. 5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) ehangu'r cymorth
pontio sydd ar gael i fusnesau bach y mae gwaith ailbrisio ardrethi annomestig
2017 yn effeithio arnynt; b) archwilio'r
posibilrwydd o ddynodi Cymru gyfan yn ardal fenter er mwyn rhoi'r math o
fantais gystadleuol i Gymru sydd ei hangen i gau'r bwlch economaidd rhwng Cymru
a gweddill y DU; c) sicrhau y rhoddir y
pwysau dyledus i fuddiannau busnesau bach yng ngwaith y Comisiwn Seilwaith
Cenedlaethol newydd i Gymru a'r Banc Datblygu Cenedlaethol; d) pennu targed i godi
lefelau presennol caffael o 55 y cant i o leiaf 75 y cant o wariant sector
cyhoeddus Cymru yng Nghymru; ac e) cyflwyno ymgyrch
'prynu'n lleol' wedi'i hanelu at ddefnyddwyr a phrif brynwyr yng Nghymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu'r cyfan a rhoi yn
ei le: Yn nodi: a) effaith cynlluniau
llwyddiannus fel dydd Sadwrn busnesau bach, sy'n cynyddu nifer y bobl sy'n
ymweld â chanol trefi ledled Cymru; b) cytundeb y gyllideb
ddrafft gyda Phlaid Cymru, sy'n cynnwys £3m a fydd yn galluogi awdurdodau lleol
i gynnal cynlluniau peilot i asesu effaith cynnig mannau parcio am ddim yng
nghanol trefi; c) bod y system ardrethi
busnes bresennol yn codi £1bn, sy'n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
y mae busnesau bach yn dibynnu arnynt; d) nad yw'r gwaith
ailbrisio ardrethi busnes a gynhaliwyd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sef
asiantaeth annibynnol, wedi ei gynllunio i godi refeniw ychwanegol ac er bod
rhai gwerthoedd ardrethol wedi cynyddu, maent wedi gostwng ar y cyfan; e) ymrwymiad Llywodraeth
Cymru i gyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi busnes newydd, parhaol yn 2018; f) bod y Gwasanaeth
Caffael Cenedlaethol wedi cynyddu nifer y busnesau bach yng Nghymru sy'n cael
contractau; a g) bwriad Llywodraeth
Cymru i: i) sicrhau y rhoddir
pwysau dyledus i fuddiannau busnesau bach a chanolig yng ngwaith y Comisiwn
Seilwaith Cenedlaethol newydd i Gymru a'r Banc Datblygu Cenedlaethol; a ii) cyhoeddi
blaenoriaethau economaidd newydd yn 2017, i wneud Cymru'n fwy llewyrchus a
sicr. [Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3, 4, 5 a
6 yn cael eu dad-ddethol] Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) 'ond yn gresynu mai yng
Nghymru y mae'r raddfa uchaf yn y DU o siopau gwag ar y stryd fawr a bod nifer
yr ymwelwyr â'r stryd fawr yng Nghymru wedi disgyn 1.4 y cant o'i gymharu â mis
Hydref 2015.' Gwelliant 3. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 2 a rhoi yn
ei le: Yn croesawu ymrwymiad y
gyllideb ddrafft i gyflwyno cynllun peilot ar gyfer parcio am ddim ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i weithio mwy gyda'r diwydiant manwerthu i lunio dull integredig
o adfywio canol trefi, sy'n ymgorffori parcio am ddim, diwygio ardrethi busnes,
cynllunio wedi'i symleiddio, rheolwyr canol trefi ac economi gyfrifol gyda'r
nos. Gwelliant 4. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ym mhwynt 5, dileu
is-bwynt (b) Gwelliant 5. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu is-bwynt newydd
ar ddiwedd pwynt 5: 'cydnabod manwerthu fel
sector flaenoriaeth wrth ddatblygu strategaeth economaidd newydd Llywodraeth
Cymru.' Yn gresynu bod
llywodraeth glymblaid Cymru'n Un wedi methu ag ymestyn y rhyddhad ardrethi
busnes i fusnesau bach yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.38 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6176 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynlluniau
llwyddiannus fel dydd Sadwrn busnesau bach i gynyddu nifer y bobl sy'n ymweld â
chanol trefi ledled Cymru. 2. Yn nodi, o ganlyniad
i gytundeb cyllideb Plaid Cymru â Llywodraeth Cymru, y caiff cronfa ei sefydlu
a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i gynnig cyfleusterau parcio ceir am ddim
yng nghanol trefi ledled Cymru, gan roi hwb hanfodol i adfywio canol trefi. 3. Yn gresynu fod y
system ardrethi busnes bresennol yn rhoi baich anghymesur ar fusnesau bach sydd
ag eiddo yng Nghymru, o'i gymharu â gweddill y DU. 4. Yn gresynu at effaith
y gwaith diweddar o ailbrisio ardrethi busnes ar rai busnesau bach yng Nghymru. 5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) ehangu'r cymorth
pontio sydd ar gael i fusnesau bach y mae gwaith ailbrisio ardrethi annomestig
2017 yn effeithio arnynt; b) archwilio'r
posibilrwydd o ddynodi Cymru gyfan yn ardal fenter er mwyn rhoi'r math o
fantais gystadleuol i Gymru sydd ei hangen i gau'r bwlch economaidd rhwng Cymru
a gweddill y DU; c) sicrhau y rhoddir y
pwysau dyledus i fuddiannau busnesau bach yng ngwaith y Comisiwn Seilwaith
Cenedlaethol newydd i Gymru a'r Banc Datblygu Cenedlaethol; d) pennu targed i godi
lefelau presennol caffael o 55 y cant i o leiaf 75 y cant o wariant sector
cyhoeddus Cymru yng Nghymru; ac e) cyflwyno ymgyrch
'prynu'n lleol' wedi'i hanelu at ddefnyddwyr a phrif brynwyr yng Nghymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu'r cyfan a rhoi yn
ei le: Yn nodi: a) effaith cynlluniau
llwyddiannus fel dydd Sadwrn busnesau bach, sy'n cynyddu nifer y bobl sy'n
ymweld â chanol trefi ledled Cymru; b) cytundeb y gyllideb
ddrafft gyda Phlaid Cymru, sy'n cynnwys £3m a fydd yn galluogi awdurdodau lleol
i gynnal cynlluniau peilot i asesu effaith cynnig mannau parcio am ddim yng
nghanol trefi; c) bod y system ardrethi
busnes bresennol yn codi £1bn, sy'n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
y mae busnesau bach yn dibynnu arnynt; d) nad yw'r gwaith
ailbrisio ardrethi busnes a gynhaliwyd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sef
asiantaeth annibynnol, wedi ei gynllunio i godi refeniw ychwanegol ac er bod
rhai gwerthoedd ardrethol wedi cynyddu, maent wedi gostwng ar y cyfan; e) ymrwymiad Llywodraeth
Cymru i gyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi busnes newydd, parhaol yn 2018; f) bod y Gwasanaeth
Caffael Cenedlaethol wedi cynyddu nifer y busnesau bach yng Nghymru sy'n cael
contractau; a g) bwriad Llywodraeth
Cymru i: i) sicrhau y rhoddir
pwysau dyledus i fuddiannau busnesau bach a chanolig yng ngwaith y Comisiwn
Seilwaith Cenedlaethol newydd i Gymru a'r Banc Datblygu Cenedlaethol; a ii) cyhoeddi
blaenoriaethau economaidd newydd yn 2017, i wneud Cymru'n fwy llewyrchus a
sicr. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod
gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 eu dad-ddethol. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6176 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi: a) effaith cynlluniau
llwyddiannus fel dydd Sadwrn busnesau bach, sy'n cynyddu nifer y bobl sy'n
ymweld â chanol trefi ledled Cymru; b) cytundeb y gyllideb
ddrafft gyda Phlaid Cymru, sy'n cynnwys £3m a fydd yn galluogi awdurdodau lleol
i gynnal cynlluniau peilot i asesu effaith cynnig mannau parcio am ddim yng
nghanol trefi; c) bod y system ardrethi
busnes bresennol yn codi £1bn, sy'n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
y mae busnesau bach yn dibynnu arnynt; d) nad yw'r gwaith
ailbrisio ardrethi busnes a gynhaliwyd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sef
asiantaeth annibynnol, wedi ei gynllunio i godi refeniw ychwanegol ac er bod
rhai gwerthoedd ardrethol wedi cynyddu, maent wedi gostwng ar y cyfan; e) ymrwymiad Llywodraeth
Cymru i gyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi busnes newydd, parhaol yn 2018; f) bod y Gwasanaeth
Caffael Cenedlaethol wedi cynyddu nifer y busnesau bach yng Nghymru sy'n cael
contractau; a g) bwriad Llywodraeth
Cymru i: i) sicrhau y rhoddir
pwysau dyledus i fuddiannau busnesau bach a chanolig yng ngwaith y Comisiwn
Seilwaith Cenedlaethol newydd i Gymru a'r Banc Datblygu Cenedlaethol; a ii) cyhoeddi
blaenoriaethau economaidd newydd yn 2017, i wneud Cymru'n fwy llewyrchus a
sicr.
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6177 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) 1. Yn credu y gall
hyrwyddo defnydd arloesol o ofal iechyd trawsffiniol gynnig gwell canlyniadau i
gleifion ar gyfer pobl yng Nghymru a Lloegr. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ystyried canfyddiadau adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig
ar drefniadau iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr, sy'n cyfleu pryderon am
yr anawsterau a'r oedi o ran cael gafael ar wasanaethau eilaidd ac arbenigol ar
sail drawsffiniol. 'Y
Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau
Deddfwriaethol i Gryfhau Cymru' ‘Welsh
Affairs Select Committee – Third Report - Cross-border health arrangements
between England and Wales’ (Saesneg yn unig) Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.48 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6177 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn credu y gall hyrwyddo defnydd arloesol o ofal iechyd trawsffiniol gynnig
gwell canlyniadau i gleifion ar gyfer pobl yng Nghymru a Lloegr. 2.
Yn nodi canfyddiadau Comisiwn Silk, a wnaeth argymhellion i wella darpariaeth
iechyd drawsffiniol, yn enwedig o ran hyrwyddo gweithio agosach ym maes
gwasanaethau arbenigol. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried canfyddiadau adroddiad y Pwyllgor Dethol
ar Faterion Cymreig ar drefniadau iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr,
sy'n cyfleu pryderon am yr anawsterau a'r oedi o ran cael gafael ar wasanaethau
eilaidd ac arbenigol ar sail drawsffiniol.
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.44 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6178 Nick Ramsay (Mynwy) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.47 NDM6178 Nick Ramsay (Mynwy) Byw
gyda cholli'r golwg: sut y gallwn wella hygyrchedd yng Nghymru i bobl ddall a
rhannol ddall |