Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 19(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 27/09/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i
ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1 i 6 ac 8 i 10. Tynnwyd cwestiwn 7 yn
ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif
Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.19 |
|
(60 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Adolygiad Diamond o Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.29 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Sefydlu’r Gronfa Triniaethau Newydd a’r Adolygiad Annibynnol o’r Broses Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.35 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: Croesawu’n ôl Athletwyr Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Rio 2016 Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.08 |
|
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Plismona a Throsedd NDM6098 Rebecca Evans (Gŵyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil
Plismona a Throsedd sy'n diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983 a Deddf Troseddau
Rhywiol 2003, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 22 Mehefin 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i) a (iii). Dogfennau Ategol Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.41 NDM6098 Rebecca Evans (Gŵyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol
â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau
yn y Bil Plismona a Throsedd sy'n diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983 a Deddf
Troseddau Rhywiol 2003, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(60 munud) |
Dadl: Siarter Ddrafft y BBC NDM6097 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Siarter
Frenhinol ddrafft y BBC a Chytundeb Fframwaith drafft y BBC. 'Siarter Frenhinol
ddrafft y BBC a Chytundeb drafft y BBC' Dogfen Atodol ‘Datganiad
Ysgrifenedig gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes - Adolygu Siarter y BBC’ Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi'r
cyfeiriadau cadarnhaol at S4C yng Nghytundeb Fframwaith Drafft y BBC ac yn
enwedig y cyfeiriad at y nod a gaiff ei rannu rhwng S4C a'r BBC o gydweithio i
gydnabod ac amddiffyn eu hannibyniaeth. Gwelliant
2. Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod yr adolygiad arfaethedig o gylch gwaith a
chyllid S4C, a ddisgwylir yn 2017, yn ystyried lefel y cyllid, a'r dull mwyaf
priodol o gyllido S4C yn yr hirdymor i amddiffyn ei hannibyniaeth a sicrhau y
gall gynhyrchu rhaglenni o ansawdd uchel i gynulleidfaoedd Cymru am flynyddoedd
i ddod. Gwelliant
3. Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
nodi, â phryder, y goblygiadau i BBC Cymru o ran peidio â newid ffi’r drwydded. Gwelliant
4. Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar y BBC i sicrhau y caiff adnoddau eu dyrannu i anrhydeddu'r ymrwymiadau
a wnaed yn Siarter Frenhinol Ddrafft y BBC i gynulleidfaoedd yng Nghymru, gan
gynnwys: (a)
bod y BBC yn adlewyrchu ac yn cynrychioli cymunedau amrywiol y DU, a'i bod yn
codi ymwybyddiaeth o'r gwahanol ddiwylliannau a safbwyntiau yn ei chymdeithas; (b)
bod yn rhaid i'r BBC gefnogi ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifoedd y DU, a
pharhau i gefnogi rhaglenni a gynhyrchir yn Gymraeg; ac (c)
bod safbwyntiau a diddordebau gwahanol y cyhoedd a chynulleidfaoedd ledled y DU
yn cael eu hystyried wrth i'r BBC wneud penderfyniadau. Gwelliant
5. Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd unrhyw reoleiddiwr y BBC yn y dyfodol
hefyd yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.46 NDM6097 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi
Siarter Frenhinol ddrafft y BBC a Chytundeb Fframwaith drafft y BBC. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn nodi'r cyfeiriadau
cadarnhaol at S4C yng Nghytundeb Fframwaith Drafft y BBC ac yn enwedig y
cyfeiriad at y nod a gaiff ei rannu rhwng S4C a'r BBC o gydweithio i gydnabod
ac amddiffyn eu hannibyniaeth. Derbyniwyd gwelliant 1
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth y DU
i sicrhau bod yr adolygiad arfaethedig o gylch gwaith a chyllid S4C, a
ddisgwylir yn 2017, yn ystyried lefel y cyllid, a'r dull mwyaf priodol o
gyllido S4C yn yr hirdymor i amddiffyn ei hannibyniaeth a sicrhau y gall
gynhyrchu rhaglenni o ansawdd uchel i gynulleidfaoedd Cymru am flynyddoedd i
ddod. Derbyniwyd gwelliant 2
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant
3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn nodi, â phryder, y
goblygiadau i BBC Cymru o ran peidio â newid ffi’r drwydded. Derbyniwyd gwelliant 3
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant
4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw ar y BBC i sicrhau
y caiff adnoddau eu dyrannu i anrhydeddu'r ymrwymiadau a wnaed yn Siarter
Frenhinol Ddrafft y BBC i gynulleidfaoedd yng Nghymru, gan gynnwys: (a) bod y BBC yn adlewyrchu
ac yn cynrychioli cymunedau amrywiol y DU, a'i bod yn codi ymwybyddiaeth o'r
gwahanol ddiwylliannau a safbwyntiau yn ei chymdeithas; (b) bod yn rhaid i'r BBC
gefnogi ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifoedd y DU, a pharhau i gefnogi
rhaglenni a gynhyrchir yn Gymraeg; ac (c) bod safbwyntiau a
diddordebau gwahanol y cyhoedd a chynulleidfaoedd ledled y DU yn cael eu
hystyried wrth i'r BBC wneud penderfyniadau. Derbyniwyd gwelliant 4
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant
5. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth y DU
i sicrhau y bydd unrhyw reoleiddiwr y BBC yn y dyfodol hefyd yn atebol i
Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Derbyniwyd gwelliant 5
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6097
Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Siarter Frenhinol ddrafft y
BBC a Chytundeb Fframwaith drafft y BBC. 2. Yn nodi'r cyfeiriadau
cadarnhaol at S4C yng Nghytundeb Fframwaith Drafft y BBC ac yn enwedig y
cyfeiriad at y nod a gaiff ei rannu rhwng S4C a'r BBC o gydweithio i gydnabod
ac amddiffyn eu hannibyniaeth. 3. Yn galw ar Lywodraeth y
DU i sicrhau bod yr adolygiad arfaethedig o gylch gwaith a chyllid S4C, a
ddisgwylir yn 2017, yn ystyried lefel y cyllid, a'r dull mwyaf priodol o
gyllido S4C yn yr hirdymor i amddiffyn ei hannibyniaeth a sicrhau y gall
gynhyrchu rhaglenni o ansawdd uchel i gynulleidfaoedd Cymru am flynyddoedd i
ddod. 4. Yn nodi, â phryder, y
goblygiadau i BBC Cymru o ran peidio â newid ffi’r drwydded. 5. Yn galw ar y BBC i
sicrhau y caiff adnoddau eu dyrannu i anrhydeddu'r ymrwymiadau a wnaed yn
Siarter Frenhinol Ddrafft y BBC i gynulleidfaoedd yng Nghymru, gan gynnwys: (a) bod y BBC yn adlewyrchu
ac yn cynrychioli cymunedau amrywiol y DU, a'i bod yn codi ymwybyddiaeth o'r
gwahanol ddiwylliannau a safbwyntiau yn ei chymdeithas; (b) bod yn rhaid i'r BBC
gefnogi ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifoedd y DU, a pharhau i gefnogi
rhaglenni a gynhyrchir yn Gymraeg; ac (c) bod safbwyntiau a
diddordebau gwahanol y cyhoedd a chynulleidfaoedd ledled y DU yn cael eu
hystyried wrth i'r BBC wneud penderfyniadau. 6. Yn galw ar Lywodraeth y
DU i sicrhau y bydd unrhyw reoleiddiwr y BBC yn y dyfodol hefyd yn atebol i
Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Nid oedd cyfnod
pleidleisio. |