Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 3(v5) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/05/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Datganiad y Llywydd

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gwnaeth y Llywydd ddatganiad ynglŷn â’r iaith a ddefnyddiwyd yn y siambr yr wythnos diwethaf gan Arweinydd grŵp UKIP. Ar ôl edrych ar Gofnod y Trafodion, dywedodd y Llywydd nad oedd ganddi unrhyw amheuaeth fod Neil Hamilton AC wedi tramgwyddo’r Rheolau Sefydlog sy’n gwahardd iaith sy’n groes i’r drefn, iaith sy’n gwahaniaethu neu sy’n peri tramgwydd neu iaith sy’n amharu ar urddas y Cynulliad. Eglurodd y Llywydd ei bod wedi rhoi gwybod iddo’n breifat yr hyn y mae’n ei ddisgwyl, a’i bod yn ddiolchgar iddo am dderbyn ei barn ar y mater hwn.

 

Dywedodd y Llywydd y byddai’n annog dadl fywiog, egnïol a chadarn, ond bod yn rhaid i Aelodau fod yn ddigon abl i wneud hynny heb dynnu oddi wrth urddas y Cynulliad na sarhau integriti Aelodau eraill. Cyn belled â’u bod yn gwneud hynny, byddai’r holl Aelodau yn cael eu clywed, beth bynnag fo’u plaid.

 

 

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.33

Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 3 ac 11 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Cwestiwn Brys

Dechreuodd yr eitem am 14.26

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys ynghylch y newyddion bod y cymorth a roddir ar gyfer astudiaeth ôl-radd ran-amser yng Nghymru wedi dod i ben?

 

(30 munud)

2.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Penodiadau i'r Cabinet

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.31

 

(5 munud)

3.

Cynnig i benodi Aelodau'r Pwyllgor Busnes

NNDM6016 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol a Rheol Sefydlog 11.3:

Yn penodi'r Llywydd, Jane Hutt (Llafur), Simon Thomas (Plaid Cymru), Paul Davies (Y Ceidwadwyr Cymreig) a Mark Reckless (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Busnes.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.58

NNDM6016 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol a Rheol Sefydlog 11.3:

Yn penodi'r Llywydd, Jane Hutt (Llafur), Simon Thomas (Plaid Cymru), Paul Davies (y Ceidwadwyr Cymreig) a Mark Reckless (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Busnes.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.10(ii) i gyflwyno Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn y Cyfarfod Llawn nesaf

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.59

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.10, gall y Cynulliad ystyried hefyd:

(i)           unrhyw fusnes o dan Reol Sefydlog 12.16; a

(ii)           unrhyw fusnes arall y mae’r Cynulliad yn cytuno arno drwy benderfyniad.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.