Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd/Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Amseriad disgwyliedig: 309(v6) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/12/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

 

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

(15 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.31

 

(45 munud)

3.

Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Argymhellion Burns – Y Camau Nesaf

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.49

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.55 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.

 

(30 munud)

4.

Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Diweddariad ar Dasglu'r Cymoedd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.03

 

(0 munud)

5.

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2020 - Gohiriwyd

NDM7499 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Tachwedd 2020.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon

 

(15 munud)

6.

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020

NDM7498 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Tachwedd 2020.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.37

NDM7498 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Tachwedd 2020.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(45 munud)

7.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

NDM7497 Jeremy Miles (Castell-nedd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Medi 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2019-21 (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.39

Am 16.52, cafodd y trafodion eu hatal am bum munud gan y Dirprwy Lywydd oherwydd anawsterau technegol yn y Siambr. Am 16.57, cafodd y cyfarfod ei ailgynnull. Am 17.02, cafodd y cyfarfod ei atal am 25 munud, ac am 17.27, cafodd y cyfarfod ei ailgynnull. Am 17.30, cafodd y cyfarfod ei atal dros dro eto.

Am 17.45, cafodd y trafodion eu gohirio gan y Dirprwy Lywydd.

Caiff y cyfarfod ei ailgynnull am 12.30 dydd Mercher 9 Rhagfyr 2020.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7497 Jeremy Miles (Castell-nedd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Medi 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2019-21 (Saesneg yn unig)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

36

51

Gwrthodwyd y cynnig.

 

(5 munud)

Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog dros droMotion

Dechreuodd yr eitem am 13.25

NDM7500 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheolau Sefydlog 12.20(i), 12.22 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7501 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 8 Rhagfyr 2020.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(5 munud)

Cynnig Gweithdrefnol

Dechreuodd yr eitem am 12.36

Cynnig gweithdrefnol yn unol â Rheol Sefydlog 12.32 i ohirio’r eitem nesaf o fusnes tan ddydd Mercher, 9 Rhagfyr 2020

 

(60 munud)

8.

Dadl: Cyfyngiadau Coronafeirws Newydd

NDM7501 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi:

a) y cynnydd yn y gyfradd dreigl saith niwrnod mewn perthynas â digwyddedd achosion o’r coronafeirws ledled Cymru; 

b) y datganiad gan y Prif Weinidog ar 1 Rhagfyr a oedd yn nodi’r mesurau cenedlaethol newydd i ddiogelu iechyd y cyhoedd a lleihau lledaeniad y coronafeirws; ac

c) y pecyn cymorth busnes £340m a ddarperir drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd i gefnogi busnesau yr effeithir arnynt gan y mesurau cenedlaethol newydd.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 1 a gyflwynwyd i’r cynnig

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu nad yw dull gweithredu Cymru gyfan yn gymesur o ystyried bod COVID-19 yn cylchredeg ar wahanol gyfraddau mewn gwahanol rannau o'r wlad.

Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu nad oes digon o dystiolaeth i ddangos bod cyfyngiadau presennol Llywodraeth Cymru ar werthu alcohol mewn tafarndai, caffis a bwytai yn gymesur.

Gwelliant 4 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod y cymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau y mae'r cyfyngiadau'n effeithio arnynt yn annigonol, yn enwedig pan fo cwmnïau wedi gwario symiau enfawr ar sicrhau bod eu safleoedd yn ddiogel i staff a chwsmeriaid o ran COVID-19.

Gwelliant 5 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r dystiolaeth a oedd yn sail i'w phenderfyniad i gau lleoliadau adloniant dan do.

Gwelliant 6 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o gymorth ariannol ar gael i fusnesau mewn modd amserol.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 7, 8 a 9 a gyflwynwyd i’r cynnig

Gwelliant 10 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu:

a) at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi mynd ar drywydd camau gweithredu yn seiliedig ar dystiolaeth gyfyngedig iawn o'r sefyllfa yng Nghymru;

b) at y ffaith mai effaith gyfyngedig iawn a gaiff y cyfyngiadau ar gyfraddau heintio yng Nghymru;

c) at y ffaith y bydd y cyfyngiadau hyn yn cael effaith barhaol ar swyddi a bywoliaethau ac y byddant yn achosi niwed parhaol i'r sector lletygarwch yng Nghymru.

Gwelliant 11 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno, er y gall lleoliadau lletygarwch aros ar agor, na ddylent fod yn destun gwaharddiad llwyr ar werthu alcohol fel y nodir ar hyn o bryd yn y rheoliadau a ddaeth i rym ar 4 Rhagfyr.

Gwelliant 12 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno y dylai'r terfyn amser ar gyfer gwerthu alcohol mewn archfarchnadoedd a siopau diodydd trwyddedig fod yn gyson â'r terfyn amser a bennwyd ar gyfer lleoliadau lletygarwch.

Gwelliant 13 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno y dylid caniatáu i leoliadau lletygarwch aros ar agor tan 8pm.

Gwelliant 14 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu

a) yr amcanion penodol y mae'n gobeithio y bydd y cyfyngiadau cenedlaethol newydd a amlinellwyd yn natganiad y Prif Weinidog i'r Senedd ar 1 Rhagfyr yn eu cyflawni; a

b) beth fydd y trothwy ar gyfer llacio'r mesurau hynny.

Gwelliant 15 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno y dylid cyhoeddi cyngor diweddaraf cell cyngor technegol Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r holl ddata sy'n cefnogi'r penderfyniadau polisi, ochr yn ochr ag unrhyw gyhoeddiad ar gyfyngiadau coronafeirws cenedlaethol pellach, neu cyn cyhoeddiad o'r fath.

Gwelliant 16 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu rhagdybiaeth o blaid cynnal pleidlais ystyrlon yn y Senedd cyn y bydd unrhyw gyfyngiadau coronafeirws cenedlaethol pellach a gaiff yr un fath o effaith â'r rhai a amlinellir yn natganiad y Prif Weinidog i'r Senedd ar 1 Rhagfyr yn dod i rym.

Gwelliant 17 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfle i'r gwrthbleidiau wneud ceisiadau rhesymol am fodelu annibynnol gan y gell cyngor technegol ar gynigion amgen mewn perthynas â materion fel cau'r sector lletygarwch ac ymyriadau eraill nad ydynt yn rhai fferyllol.

Cofnodion:

Cafodd yr eitem ei gohirio tan gyfarfod dydd Mercher 9 Rhagfyr 2020.

(0 munud)

9.

Dadl: Adolygiad Blynyddol Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2019-2020 - Gohiriwyd

NDM7496 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi Adroddiad Effaith Pwyllgor Cymru 2019-20 y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Adroddiad Effaith Cymru 2019-20

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon

 

10.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 13.27 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro i ganiatáu egwyl dechnegol cyn y cyfnod pleidleisio.

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: