NDM7501 Dadl: Cyfyngiadau Coronafeirws Newydd

NDM7501 Dadl: Cyfyngiadau Coronafeirws Newydd

NDM7501 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi:

a) y cynnydd yn y gyfradd dreigl saith niwrnod mewn perthynas â digwyddedd achosion o’r coronafeirws ledled Cymru; 

b) y datganiad gan y Prif Weinidog ar 1 Rhagfyr a oedd yn nodi’r mesurau cenedlaethol newydd i ddiogelu iechyd y cyhoedd a lleihau lledaeniad y coronafeirws; ac

c) y pecyn cymorth busnes £340m a ddarperir drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd i gefnogi busnesau yr effeithir arnynt gan y mesurau cenedlaethol newydd.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 1 a gyflwynwyd i’r cynnig

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu nad yw dull gweithredu Cymru gyfan yn gymesur o ystyried bod COVID-19 yn cylchredeg ar wahanol gyfraddau mewn gwahanol rannau o'r wlad.

Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu nad oes digon o dystiolaeth i ddangos bod cyfyngiadau presennol Llywodraeth Cymru ar werthu alcohol mewn tafarndai, caffis a bwytai yn gymesur.

Gwelliant 4 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod y cymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau y mae'r cyfyngiadau'n effeithio arnynt yn annigonol, yn enwedig pan fo cwmnïau wedi gwario symiau enfawr ar sicrhau bod eu safleoedd yn ddiogel i staff a chwsmeriaid o ran COVID-19.

Gwelliant 5 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r dystiolaeth a oedd yn sail i'w phenderfyniad i gau lleoliadau adloniant dan do.

Gwelliant 6 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o gymorth ariannol ar gael i fusnesau mewn modd amserol.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 7, 8 a 9 a gyflwynwyd i’r cynnig

Gwelliant 10 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu:

a) at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi mynd ar drywydd camau gweithredu yn seiliedig ar dystiolaeth gyfyngedig iawn o'r sefyllfa yng Nghymru;

b) at y ffaith mai effaith gyfyngedig iawn a gaiff y cyfyngiadau ar gyfraddau heintio yng Nghymru;

c) at y ffaith y bydd y cyfyngiadau hyn yn cael effaith barhaol ar swyddi a bywoliaethau ac y byddant yn achosi niwed parhaol i'r sector lletygarwch yng Nghymru.

Gwelliant 11 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno, er y gall lleoliadau lletygarwch aros ar agor, na ddylent fod yn destun gwaharddiad llwyr ar werthu alcohol fel y nodir ar hyn o bryd yn y rheoliadau a ddaeth i rym ar 4 Rhagfyr.

Gwelliant 12 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno y dylai'r terfyn amser ar gyfer gwerthu alcohol mewn archfarchnadoedd a siopau diodydd trwyddedig fod yn gyson â'r terfyn amser a bennwyd ar gyfer lleoliadau lletygarwch.

Gwelliant 13 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno y dylid caniatáu i leoliadau lletygarwch aros ar agor tan 8pm.

Gwelliant 14 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu

a) yr amcanion penodol y mae'n gobeithio y bydd y cyfyngiadau cenedlaethol newydd a amlinellwyd yn natganiad y Prif Weinidog i'r Senedd ar 1 Rhagfyr yn eu cyflawni; a

b) beth fydd y trothwy ar gyfer llacio'r mesurau hynny.

Gwelliant 15 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno y dylid cyhoeddi cyngor diweddaraf cell cyngor technegol Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r holl ddata sy'n cefnogi'r penderfyniadau polisi, ochr yn ochr ag unrhyw gyhoeddiad ar gyfyngiadau coronafeirws cenedlaethol pellach, neu cyn cyhoeddiad o'r fath.

Gwelliant 16 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu rhagdybiaeth o blaid cynnal pleidlais ystyrlon yn y Senedd cyn y bydd unrhyw gyfyngiadau coronafeirws cenedlaethol pellach a gaiff yr un fath o effaith â'r rhai a amlinellir yn natganiad y Prif Weinidog i'r Senedd ar 1 Rhagfyr yn dod i rym.

Gwelliant 17 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfle i'r gwrthbleidiau wneud ceisiadau rhesymol am fodelu annibynnol gan y gell cyngor technegol ar gynigion amgen mewn perthynas â materion fel cau'r sector lletygarwch ac ymyriadau eraill nad ydynt yn rhai fferyllol.

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/06/2021