Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Clerk: Kathryn Hughes Deputy Clerk: Buddug Saer
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a
nododd ymddiheuriadau gan Ann-Marie Harkin, Archwilio Cymru ac Uzo Iwobi. 1.2 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion cyfarfod 13 Chwefror, y camau gweithredu a'r materion a gododd Cofnodion: ARAC (23-02) Papur 1 - Cofnodion drafft
cyfarfod 13 Chwefror 2023 ARAC (23-02) Papur 2 – Crynodeb o’r camau i’w
cymryd 2.1 Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod ar 13
Chwefror yn ffurfiol, a nodwyd diweddariadau i’r camau gweithredu. |
|
Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd (gan gynnwys y cynnydd a wneir ar weithgarwch archwilio mewnol) Cofnodion: ARAC (23-02) Papur 3 – Adroddiad Diweddaru
Llywodraethu a Sicrwydd 3.1 Cyflwynodd Gareth ei adroddiad diweddaru
Llywodraethu a Sicrwydd a oedd yn amlinellu gweithgarwch llywodraethu, sicrwydd
ac archwilio ers cyfarfod mis Chwefror. Amlinellodd y gwaith canlynol a gafodd
ei gwblhau: · yn
dilyn sesiwn her y datganiad sicrwydd ym mis Mawrth, yr aeth Aled Eirug a Bob
Evans iddi, roedd fersiwn ddrafft o’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol wedi
cael ei pharatoi a’i rhannu â’r Pwyllgor; · roedd
ei adroddiad ar yr Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd Taliadau wedi’i
gyhoeddi, ac roedd lincs wedi’u rhannu â'r Pwyllgor, ynghyd ag ymateb y Bwrdd; · cafodd
yr adroddiad ar yr adolygiad o’r gwersi a ddysgwyd o Covid-19 ei gynnwys yn y
papurau ar gyfer y cyfarfod hwn. 3.2 Amlinellodd Gareth hefyd y cynnydd
canlynol ar waith archwilio parhaus, y byddai adroddiadau arnynt yn cael eu
rhannu â’r Pwyllgor maes o law: · roedd
gwaith maes ar Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd Gweithredol wedi'i gwblhau i
raddau helaeth ac roedd y tri chyfarwyddwr a chyfwelwyd ag aelod o dîm yr
ysgrifenyddiaeth; · cynhaliwyd
cyfweliadau â staff y Comisiwn fel rhan o adolygiad o’n trefniadau parhad
busnes; · roedd
yr adolygiad o reolaethau yn ymwneud â risg corfforaethol y fframwaith
rheoleiddio a oedd yn mynd rhagddo. 3.3 Roedd dilyniant i argymhellion yr
archwiliad o archwiliadau seiberddiogelwch blaenorol hefyd wedi’i gwblhau.
Roedd seiberddiogelwch yn eitem sylweddol yng nghyfarfod mis Mehefin ac roedd
Gareth yn bwriadu dosbarthu ei ddiweddariad cyn y cyfarfod. 3.4 Roedd Gareth wedi dosbarthu ei gynllun
Archwilio Mewnol ar gyfer 2023-24 i aelodau’r Pwyllgor ar 30 Mawrth. Roedd y
cynllun hwn yn cwmpasu pob un o’r tair cyfarwyddiaeth a meysydd risg allweddol.
Gwnaeth yr aelodau groesawu a chymeradwyo cynllun 2023-24. 3.5 Gofynnodd Menai Owen-Jones a oedd yna
hefyd strategaeth archwilio dros nifer o flynyddoedd. Eglurodd Gareth ei fod
wedi llunio dogfen strategaeth ar gylch tair blynedd yn flaenorol, a
chyfeiriodd at ddadl barhaus ar ôl y pandemig yn y proffesiwn archwilio mewnol
ynghylch gwneud strategaethau a chynlluniau archwilio yn fwy deinamig ac
adweithiol. Roedd yn ymwybodol bod rhai sefydliadau’n llunio cynlluniau
chwarterol yn hytrach nag yn flynyddol. Ychwanegodd mai ei ddull o ddewis oedd
cael un ddogfen gan ddileu dyblygu, a’i fod yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â
strategaeth mewn dogfennau eraill, megis y Siarter Archwilio Mewnol. 3.6 Roedd Mark Egan yn deall yr angen am
hyblygrwydd ond gofynnodd sut yr oedd Gareth yn sicrhau bod pob maes archwilio
yn cael sylw dros gyfnod o dair neu bedair blynedd. Eglurodd Gareth y
manteision o gael Pennaeth Archwilio Mewnol mewnol yn hyn o beth, gan ei fod yn
gallu sicrhau cwmpas ar draws y sefydliad trwy drafodaethau gyda Chyfarwyddwyr
a Phenaethiaid Gwasanaeth a chymhwyso ei wybodaeth am risgiau sylweddol.
Cytunodd Gareth i lunio amlinelliad o adolygiadau archwilio mewnol a gynhaliwyd
dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i’w gyflwyno yng nghyfarfod yr hydref.
Byddai hyn yn rhoi sicrwydd a dealltwriaeth i’r Pwyllgor o’r ymagwedd at
strategaethau a chynlluniau archwilio mewnol yn y dyfodol. 3.7 Diolchodd y Cadeirydd i Gareth am ei ddiweddariad sylweddol a ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Cydymffurfiad y Siarter Archwilio Mewnol ac Archwilio Mewnol â Safon Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) Cofnodion: ARAC (23-02) Papur 4 – papur cwmpasu'r Siarter
Archwilio Mewnol ARAC (23-02) Papur 4 – Atodiad A - Siarter
Archwilio Mewnol 2022 4.1 Dywedodd Gareth wrth y Pwyllgor fod
Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) yn ei gwneud yn ofynnol i
bob gweithgaredd archwilio mewnol weithredu a chadw ‘Siarter Archwilio Mewnol’.
Cyflwynodd ei Siarter i’r Pwyllgor, er mwyn rhoi diffiniad ffurfiol o ddiben,
awdurdod a chyfrifoldeb Archwilio Mewnol. 4.2 Yn unol â PSIAS, roedd Gareth wedi
adolygu’r Siarter ar gyfer 2023-24 ac wedi cadarnhau nad oedd angen unrhyw
newidiadau i’r fersiwn a gymeradwywyd gan y Pwyllgor ar gyfer 2022-23.
Cadarnhaodd hefyd na fu unrhyw ddiwygiadau pellach i PSIAS ers 1 Ebrill 2017. 4.3 Eglurodd Gareth mai argymhelliad PSIAS
oedd cynnal Asesiad Ansawdd Allanol (EQA) ar wasanaethau archwilio mewnol bob
pum mlynedd. Cynhaliwyd yr asesiad
diwethaf yn 2017-18. Adolygodd Archwilio Cymru hefyd waith archwilio mewnol fel
rhan o’u trefniadau archwilio eu hunain ac nid oedd wedi codi unrhyw
bryderon. 4.4 Roedd Gareth wrthi’n cynnal ei
hunanasesiad ei hun yn erbyn y safonau a fyddai’n cael eu gwirio’n annibynnol
fel rhan o’r Asesiad Ansawdd Allanol nesaf. Cafodd hyn ei ohirio oherwydd y
pandemig a newidiadau staff yn y deddfwrfeydd eraill, yr oedd wedi sefydlu
gweithgor gyda nhw cyn cynnal yr asesiadau. Eglurodd Gareth, gan nad oedd
unrhyw awydd am adolygiad allanol gyda CIPFA na Sefydliad yr Archwilwyr Mewnol,
yn rhannol oherwydd y gost, ei fod yn archwilio trefniadau amgen ac y byddai’n
gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor ar y dull i’w fabwysiadu. Rhoddodd sicrwydd
ychwanegol trwy gadarnhau bod y partneriaid archwilio mewnol blaenorol a
phresennol i gyd wedi sgorio'n uchel iawn yn eu Hasesiadau Ansawdd Allanol eu
hunain. 4.5 Diolchodd y Pwyllgor i Gareth am ei
ddiweddariad a’i annog i sicrhau bod trefniadau ar waith i gynnal Asesiad
Ansawdd Allanol mewn pryd ar gyfer ei olynydd ac i barhau i gymryd rhan yn y
rhwydweithiau deddfwriaethol. 4.6 Dywedodd Gareth wrth y Pwyllgor fod
ymgynghoriad ar y gweill ar Safonau Archwilio Mewnol byd-eang, a oedd yn rhan o
Fframwaith Arferion Proffesiynol Rhyngwladol. Roedd y safonau newydd yn debygol
o ddod i rym erbyn dechrau 2024. Byddai arweinydd archwilio mewnol CIPFA wedyn
yn gosod safonau sector cyhoeddus y DU a oedd yn debygol o ddod i rym ym mis
Ebrill 2025. Cytunodd Gareth i lunio crynodeb o’r safonau archwilio mewnol
newydd cyn iddo adael. 4.7 Cymeradwyodd y Pwyllgor y Siarter
Archwilio Mewnol ar gyfer 2023-24 yn ffurfiol, gan nodi nad oedd unrhyw
newidiadau o ran sylwedd. |
|
Adroddiad Blynyddol a Barn yr adran Archwilio Mewnol Cofnodion: ARAC (23-02) Papur 5 - Adroddiad Blynyddol a
Barn yr adran Archwilio Mewnol ar gyfer 2022-23 5.1 Cyflwynodd Gareth ei Adroddiad Blynyddol a
Barn a nododd y gall y Swyddog Cyfrifyddu gymryd sicrwydd cymedrol bod y
trefniadau i sicrhau bod gwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol,
wedi'i gynllunio a'i gyflawni’n effeithiol.
5.2 Tynnodd Gareth sylw at y sicrwydd
sylweddol a ddarparwyd gan yr archwiliad o reolaethau ariannol allweddol a oedd
yn arbennig o foddhaol o ystyried y system gyllid newydd, effaith Covid a maint
y gwaith. Soniodd hefyd am y berthynas waith gadarnhaol ac aeddfed gyda
chydweithwyr, gan gynnwys y rhai sy’n delio â threuliau Aelodau a
seiberddiogelwch. 5.3 Gwnaeth yr adolygiad o argymhellion
archwilio heb eu gweithredu o flynyddoedd blaenorol nodi un argymhelliad nad
oedd wedi’i weithredu eto. Roedd hyn mewn perthynas ag amlygrwydd a gwelededd
risgiau a materion prosiectau a rhaglenni a byddent yn cael eu hailystyried yn
yr adolygiad archwilio a gaiff ei gynnal yn 2023-24. Roedd hyn yn arbennig o
berthnasol o ystyried y rhaglenni a’r prosiectau trawsnewid mawr parhaus ac
roedd Gareth yn cydnabod y byddai’r Pwyllgor yn parhau i ganolbwyntio ar y
rhain. 5.4 Byddai Kathryn Hughes, fel Rheolwr Risg y
Comisiwn, yn gweithio gyda rheolwyr rhaglen a phrosiect i’w cefnogi i reoli
risg. Roedd Kathryn wedi rhoi adborth ar gofrestr risg Rhaglen Diwygio’r
Senedd, a rhoddodd sicrwydd i’r Pwyllgor ei bod wedi’i strwythuro’n dda ar
gyfer ei chyflwyno i fwrdd y rhaglen. Byddai hefyd yn adolygu cofrestr risg y
rhaglen Ffyrdd o Weithio ac anogodd y Pwyllgor hi i sicrhau cysondeb rhwng y
ddwy raglen hyn. 5.5 Nododd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol a
Barn Gareth, a dywedodd bod y farn gymedrol yn darparu lefel dda o sicrwydd. |
|
Adroddiad Blynyddol ar Dwyll Cofnodion: ARAC (23-02) Papur 6 - Adroddiad Blynyddol ar
Dwyll 6.1 Cyflwynodd Gareth ei adroddiad, gan nodi
nad oedd hyn yn ofyniad o'r PSIAS ond yn arfer da gan ei fod yn rhoi lefel
bellach o sicrwydd ar amgylchedd rheoli’r Comisiwn. Dywedodd Gareth, yn ystod
2022-23, na ddaeth unrhyw achosion i’w sylw o weithgarwch twyllodrus
gwirioneddol neu a amheuir o ran arian parod, lwfansau a threuliau neu ddwyn
asedau. 6.2 Roedd cynllun archwilio 2022-23 yn cynnwys
yr archwiliadau penodol canlynol a oedd yn ystyried risgiau posibl o dwyll fel
rhan o’r gwaith cwmpasu: Rheolaethau Ariannol Allweddol; Treuliau Aelodau a
Lwfansau Adsefydlu; a Gwersi a Ddysgwyd – Covid 19. 6.3 Parhaodd Tîm Cyllid y Comisiwn i chwarae
rhan bwysig wrth godi ymwybyddiaeth a derbyniodd hyfforddiant rheolaidd gan
Fanc Barclays yn ogystal â darparwyr eraill. Anogwyd cydlynwyr cyllid o bob
rhan o’r Comisiwn i fynd i’r sesiynau hyn hefyd. 6.4 Yn ogystal â hyfforddiant staff,
defnyddiodd Gareth nifer o ffynonellau sicrwydd megis y partner archwilio
mewnol a gontractiwyd yn allanol ac Archwilio Cymru, a rannodd gwybodaeth am
weithgarwch twyll â Chomisiwn y Senedd. 6.5 Ar 30 Mawrth 2023, cyhoeddodd Swyddfa
Archwilio Genedlaethol y DU adroddiad ar fynd i’r afael â thwyll a llygredd yn
erbyn y Llywodraeth. Yn y misoedd nesaf byddai Gareth yn asesu’r adroddiad hwn
ac yn ystyried unrhyw bwyntiau dysgu sy’n berthnasol i’r Comisiwn. 6.6 Nododd y Pwyllgor yr Adroddiad Blynyddol
ar Dwyll a diolchodd i Gareth amdano. |
|
Polisïau Twyll a Chwythu'r Chwiban Cofnodion: ARAC (23-02) Papur 7 - Chwythu’r Chwiban a
Thwyll 2023 - diweddariadau ARAC (23-02) Papur 7 – Atodiad A – Polisi
Chwythu’r Chwiban ARAC (23-02) Papur 7 – Atodiad B – Polisi
Llygrell Twyll a Llwgrwobrwyo – 2023 ARAC (23-02) Papur 7 - Atodiad C - Cynllun
Ymateb i Dwyll – 2023 7.1 Cyflwynodd Gareth ei ddiweddariad
blynyddol ar bolisïau Chwythu’r Chwiban a Thwyll y Comisiwn. Dywedodd na
dderbyniwyd unrhyw ddatgeliadau mewnol o dan gylch gorchwyl ein Polisi
Chwythu'r Chwiban yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf, ond nododd fod yna ddulliau
eraill y gallai staff godi pryderon megis gweithdrefnau a pholisïau disgyblu a
chwyno. 7.2 Cyfeiriodd Gareth at y cyfeiriad yn ei
bapur at yr awgrym o ail-frandio’r Polisi Chwythu’r Chwiban fel ‘Codi Llais’
a’r rhesymeg dros wneud hynny. Gofynnodd am farn y Pwyllgor. 7.3 Croesawodd y Pwyllgor drafodaeth ar hyn ac
roedd yn teimlo bod fod y term ‘chwythu’r chwiban’ mor adnabyddus fel y gallai
ei newid, er bod hynny mewn ymdrech i’w symleiddio, arwain at ddryswch a cholli
dealltwriaeth o’i ystyr. Byddai angen i unrhyw newid hefyd sicrhau ei fod yn
cysylltu’n glir â'r ddeddfwriaeth ar chwythu’r chwiban (h.y. Deddf Datgelu er
Budd y Cyhoedd). Nododd aelodau’r Pwyllgor hefyd fod angen i’r polisi gydbwyso
hawliau’r rhai sy’n cwyno yn erbyn y rhai sy’n wynebu honiadau. Roeddent hefyd
yn cwestiynu sut yr oedd y polisi presennol yn cael ei gyfleu i staff. 7.4 Credai Manon fod diwylliant y sefydliad yn
golygu bod staff yn gyfforddus i godi pryderon a chwynion ond croesawodd awgrym
y Pwyllgor i ystyried cynnwys cwestiwn priodol ar ddealltwriaeth o drefniadau
chwythu’r chwiban mewn arolwg staff yn y dyfodol. Cam gweithredu ·
Y Comisiwn i adolygu’r polisi Chwythu’r
Chwiban eto yn yr hydref yn sgil adolygiad Llywodraeth y DU. |
|
Adroddiad diweddaraf Archwilio Mewnol Cofnodion: ARAC (23-02) Papur 8 - Gwersi a Ddysgwyd -
Covid 19 8.1 Cyflwynodd Gareth ei adroddiad ar y Gwersi
a Ddysgwyd o Covid-19 a oedd yn canolbwyntio ar gyflawni busnes y Senedd, effeithiolrwydd
llywodraethu a lles staff. 8.2 Croesawodd y Pwyllgor yr adolygiad hwn a
nododd yn benodol effeithiolrwydd y grŵp Adrodd a Monitro am Covid (CRAM),
rheolaeth ddynamig o risg, a’r defnydd o dechnoleg ac arloesedd i alluogi
arferion parhad busnes cryf. 8.3 Roedd y Pwyllgor yn annog swyddogion i
ganolbwyntio’n barhaus ar lesiant staff, a meithrin cysylltiadau a
pherthnasoedd mewnol o fewn y sefydliad, ac roedd yn cydnabod yr heriau o
gydbwyso hyblygrwydd a thegwch. Mae’r Pwyllgor hefyd yn annog swyddogion i fod
yn ymwybodol o agweddau ymarferol fel effeithlonrwydd ynni. 8.4 Cyfeiriodd Mark at bleidleisio drwy
ddirprwy fel enghraifft o’r Senedd yn arwain y ffordd yng ngwleidyddiaeth
Prydain yn ystod y pandemig a chwestiynodd y rheolaethau sydd ar waith i
sicrhau cydymffurfiaeth â’r rheolau, o ystyried bod yr arfer hwn i barhau.
Roedd Manon yn deall y risgiau posibl a rhoddodd sicrwydd bod y rheolaethau
cywir ar waith. 8.5 Croesawodd Manon adborth y Pwyllgor.
Amlinellodd sut roedd rheolwyr yn delio â’r heriau a achosir gan amrywiadau
mewn patrymau gwaith tra’n cynnal tegwch gyda’r timau hynny, fel Diogelwch a
Phrofiad Ymwelwyr, yr oedd angen iddynt fod ar y safle, a hyblygrwydd i dimau
eraill a oedd yn gallu gweithio’n effeithiol o bell. Roedd hi hefyd yn cydnabod
yr angen am ryngweithio personol, yn enwedig ar gyfer aelodau newydd o’r tîm ac
ar gyfer gweithgareddau datblygu staff. Byddai hyn i gyd yn cael ei ystyried
fel rhan o’r Rhaglen Ffyrdd o Weithio. 8.6 Amlinellodd adroddiad Gareth fod model
hybrid bellach wedi’i hen sefydlu gyda phatrymau gweithio hyblyg yn cyd-fynd ag
anghenion y busnes. Roedd cyfarfodydd tîm ‘yn y cnawd’ achlysurol wedi dod yn
nodwedd o nifer o gynlluniau llesiant mewn gwasanaethau ar draws y Comisiwn. 8.7 Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad hwn
sy’n llawn gwybodaeth a chredai ei bod yn bwysig peidio â cholli golwg arno gan
fod y sefydliad wedi ymdrin â’r pandemig mewn ffordd mor rhyfeddol. |
|
Diweddariad Archwilio Cymru Cofnodion: ARAC (23-01) Papur 9 - Cynllun Archwilio Manwl
Archwilio Cymru - 2022-23 9.1 Croesawodd y Cadeirydd Clare James i’r
cyfarfod. 9.2 Cyflwynodd Clare gynllun archwilio
2022-23, amlinellodd y lefelau perthnasedd, a thynnodd sylw at dri risg
sylweddol yn y datganiad ariannol a’r meysydd ffocws eraill. Rhannodd hefyd yr
amserlen archwilio a fyddai'n dynn ond yn gyraeddadwy gydag ardystiad gan
Archwilydd Cyffredinol Cymru a drefnwyd ar gyfer 22 Mehefin. 9.3 Y ffi archwilio amcangyfrifedig ar gyfer
2023 fyddai £68,985 (2021-2022 £59,987) ond eglurodd Clare, gan fod y gwaith
cynllunio’n mynd rhagddo, efallai y bydd angen newidiadau i’r rhaglen waith
archwilio pe bai unrhyw risgiau newydd allweddol yn dod i’r amlwg, a allai yn
eu tro effeithio ar y ffi amcangyfrifedig. Mewn perthynas â’r risg yn ymwneud â
newidiadau allweddol i bersonél cyllid, amlygodd fod newidiadau o'r fath bob
amser yn peri risg i baratoi cyfrifon ac y gallent felly gynyddu'r risg o gamddatganiadau
perthnasol. 9.4 Cadarnhaodd Clare fod y Pennaeth Cyllid
interim eisoes wedi darparu gwybodaeth yn ymwneud â safon gyfrifo Prydlesi
IFRS16 newydd a fyddai’n cael eu hadolygu a’u profi fel rhan o’r archwiliad i
sicrhau bod gwariant yn cael ei ddosbarthu’n briodol yn natganiadau ariannol
2022-23. 9.5 Croesawodd y Pwyllgor fformat clir a
defnyddiol y ddogfen a nododd yr amserlen dynn. Anogodd y Cadeirydd y dylid
nodi materion yn gynnar er mwyn caniatáu amser i'r rhain gael eu datrys. Nodwyd
hefyd y dyddiadau penodol, gyda’r archwiliad i gychwyn ar 9 Mai, cyflwyno
cyfres o gyfrifon drafft i Archwilio Cymru erbyn 12 Mai a chynlluniau i
gyhoeddi barn ddrafft mewn pryd ar gyfer cyhoeddi papurau’r Pwyllgor ar 5
Mehefin. |
|
Protocol ar gyfer cydweithio Cofnodion: Eitem lafar 10.1 Eglurodd Clare James fod y protocol
cydweithio rhwng Archwilio Cymru a Phennaeth Archwilio Mewnol y Comisiwn, a
oedd wedi bod ar waith ers nifer o flynyddoedd, yn cael ei adolygu’n flynyddol.
Eglurodd hefyd, ers iddo gael ei adolygu ddiwethaf yn 2022, nad oedd safonau
archwilio newydd yn caniatáu cymaint o ddibyniaeth ffurfiol ar waith archwilio
mewnol at ddibenion sicrwydd, er y gallai Archwilio Cymru barhau i ystyried
hyn. Cytunwyd y byddai protocol ar gyfer cydweithio wedi’i ddiweddaru a’i
symleiddio yn cael ei lunio a’i rannu a’r Pwyllgor cyn ymadawiad Gareth. Cam gweithredu · Gareth
Watts a Clare James i ddarparu briff i’r Pwyllgor ar y protocol ar gyfer
cydweithio. |
|
Adroddiad Blynyddol a Datganiad Llywodraethu drafft y Comisiwn ar gyfer 2022-23 Cofnodion: ARAC (23-02) Papur 10 – Adroddiad Blynyddol
drafft 2022-23 – papur eglurhaol ARAC (23-02) Papur 10 – Atodiad A – drafft o
Naratif yr Adroddiad Blynyddol ARAC (23-02) Papur 10 – Atodiad B – Cyfrifon
drafft ARAC (23-02) Papur 10 – Atodiad C – Datganiad
Llywodraethu Blynyddol drafft 11.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Arwyn i gyflwyno’r
eitem hon a gwahoddodd aelodau’r pwyllgor i wneud sylw ar y naratif drafft a
oedd wedi’i gynnwys yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon drafft y Comisiwn a'r
Datganiad Llywodraethu drafft ar gyfer 2022-23. 11.2 Eglurodd Arwyn, er y byddai’r Adroddiad
Blynyddol a Chyfrifon ar gael mewn fformat pdf at ddibenion ei archwilio a’i
osod fel dogfen, bydd yn cael ei gyflwyno mewn fformat rhyngweithiol ar-lein yn
debyg i'r llynedd. Roedd hyn yn ei gwneud yn fwy hygyrch i gynulleidfa
ehangach. Yna disgrifiodd Arwyn y broses o ddrafftio’r erthyglau a chasglu’r
cynnwys ar-lein a diolchodd i bawb a fu’n ymwneud â gweithio ar hyn. 11.3 Croesawodd y Pwyllgor olwg cynnar ar yr
adroddiad a llongyfarchodd y tîm hefyd am ymgymryd â’r dasg o gasglu llawer
iawn o wybodaeth ynghyd a’i chyflwyno mewn fformat mor gryno, clir a hawdd ei
ddarllen. 11.4 Cwestiynodd y Pwyllgor gysondeb rhai
dangosyddion perfformiad allweddol, a’r rhai oedd â gwerth blwyddyn yn unig o
ddata ac awgrymodd y gallai fod yn werth ychwanegu rhywfaint o naratif
ychwanegol at y ffigurau hyn. Roedd aelodau’r Pwyllgor yn deall yr heriau o ran
dyfeisio mesurau ystyrlon mewn sefyllfa seneddol ond roeddent yn cwestiynu pam
nad oedd gan rai o flaenoriaethau'r Comisiwn ddangosyddion perfformiad
allweddol penodol. 11.5 Diolchodd Manon i aelodau’r Pwyllgor am
eu sylwadau ac eglurodd fod y dangosyddion wedi’u hadolygu, eu diweddaru a’u
cymeradwyo gan y Comisiwn ar ddechrau’r Chweched Senedd. Ychwanegodd y byddai
angen i unrhyw newidiadau i'r mesurau gael eu cymeradwyo gan y Comisiwn a
nododd na fyddai newidiadau yn arwain at unrhyw gymhariaeth data flwyddyn ar ôl
blwyddyn. 11.6 Croesawodd y Cadeirydd gyflwyniad Simon
Hart o adran yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfrifon nad oedd wedi newid
ers y llynedd. Nid oedd unrhyw wybodaeth ariannol ar gael ar gyfer y cyfarfod
hwn, ond roedd yn dangos maint a chymhlethdod y wybodaeth i'w chyflwyno. 11.7 Gwahoddodd y Cadeirydd Manon i gyflwyno’r
Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Disgrifiodd Manon yn fyr y broses ar gyfer
casglu sicrwydd gan Benaethiaid Gwasanaeth a Chyfarwyddwyr i lywio’r datganiad
a’r gwerth a ychwanegwyd gan yr her annibynnol gan Aled a Bob mewn cyfarfod o’r
Bwrdd Gweithredol ym mis Mawrth. Mynegodd Manon ei diolch i Kathryn Hughes am
dynnu’r wybodaeth at ei gilydd yn arbenigol mewn fersiwn ddrafft sylweddol er
mwyn iddi ei hadolygu a’i chwblhau. Diolchodd y Cadeirydd hefyd i Kathryn am ei
gwaith ar y broses casglu sicrwydd. 11.8 Roedd y Pwyllgor yn falch iawn o
ddatganiad mor gynhwysfawr a chytbwys ac roedd yn cydnabod ei bwysigrwydd. Ar
ran y Pwyllgor, nododd a derbyniodd y Cadeirydd y datganiad fel rhan o’r broses
sicrwydd. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Gyllideb Cofnodion: Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar 12.1 Rhoddodd Simon Hart y wybodaeth
ddiweddaraf i’r Pwyllgor am gyllideb 2023-24. Byddai’r Gyllideb Atodol gyntaf
ar gyfer 2023-24 yn cyflwyno gostyngiad o £435,000 yng nghyllideb gymeradwy’r
Comisiwn, gan arwain at gynnydd o 3.4% ar gyllideb 2022-23 o’i gymharu â’r
cynnydd o 4.1% a gymeradwywyd yn wreiddiol. Amlinellodd Simon hefyd y mesurau lleihau
cyllideb penodol ar gyfer 2023-24 a oedd wedi’u cymeradwyo mewn cyfarfod o’r
Comisiwn ar 27 Mawrth. 12.2 Roedd disgwyl i gyllideb atodol gyntaf
gael ei gosod ar 13 Mehefin i ganiatáu dadl ar 4 Gorffennaf, cyn toriad yr haf.
Roedd hyn yn caniatáu cyfnod o dair wythnos ar gyfer craffu o dan y Rheolau
Sefydlog. |
|
Diweddariad corfforaethol ar: Rhaglen Diwygio'r Senedd a Rhaglen Ffyrdd o Weithio Cofnodion: Rhaglen Diwygio’r Senedd - diweddariad llafar 13.2 Amlinellodd Siwan
y cynlluniau ar gyfer bwrw ymlaen â dau brif weithgaredd ffrydiau gwaith y
Seithfed Senedd sy’n canolbwyntio ar fusnes: gweithdrefnau ac arferion; a
chapasiti a gallu, a oedd yn gysylltiedig â’r Rhaglen Ffyrdd o Weithio. Roedd
trafodaethau hefyd ar y gweill i sefydlu’r mecanwaith ar gyfer deialog gyda’r
Bwrdd Taliadau Annibynnol o ran sut y caiff Aelodau eu cefnogi, a’r groesffordd
rhwng y gwasanaethau a ddarperir gan y Comisiwn a’r lwfansau y gall Aelodau eu
cael drwy Benderfyniad y Bwrdd. 13.3 Amlinellodd Siwan y paratoadau ar gyfer
cefnogi’r broses ddeddfwriaethol a fyddai’n cynnwys cynllunio senarios ar gyfer
y dull deddfwriaethol o ddiwygio’r Senedd a diwygiadau etholiadol eraill sy’n
cael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru. Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor,
esboniodd Siwan y goblygiadau a’r risgiau posibl a fyddai’n cael eu harchwilio,
gan gynnwys cymhlethdod rhai senarios a goblygiadau i’r Comisiwn o ran gallu i
gefnogi’r broses graffu. 13.4 O ran llywodraethu rhaglenni, tynnodd
Siwan sylw at y canlynol: · datblygu
cofrestr risg rhaglenni, gan weithio gyda Rheolwr Risg y Comisiwn i fireinio
hyn; · trafodaethau
â swyddogion perthnasol ynghylch y cysylltiadau rhwng risgiau corfforaethol
Diwygio’r Senedd a risgiau ar lefel y rhaglen â’r Rhaglen Ffyrdd o Weithio, yn
ogystal â risgiau a nodir gan Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill; · datblygu
gwaith mapio rhanddeiliaid gan ddefnyddio matrics RACI (Cyfrifol, Atebol,
Ymgynghori, Hysbysu neu, yn Saesneg, ‘Responsible, Accountable, Consult,
Inform); · ymgysylltu
â'r Uned Cynllunio Strategol i ddatblygu offeryn adrodd ar y cyd rhwng Rhaglen
Diwygio’r Senedd - Rhaglen Ffyrdd o Weithio ar gyfer y Bwrdd Gweithredol; a · datblygu
cynlluniau cyfathrebu mewnol ac allanol i’w trafod yng nghyfarfodydd Bwrdd
Rhaglen Diwygio’r Senedd a’r Bwrdd Sicrwydd ar y Cyd â Llywodraeth Cymru. 13.5 Dywedodd Siwan fod y Bwrdd Sicrwydd ar y
Cyd, a oedd wedi cyfarfod y bore hwnnw, yn gweithio'n dda. Roedd sesiynau
briffio hefyd yn cael eu cydgysylltu cyn cyfarfodydd dwyochrog rhwng y Llywydd
a’r Prif Weinidog. 13.6 Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cadeirydd
ynghylch adnoddau, eglurodd Siwan fod cynllunio gweithlu manwl yn mynd rhagddo
ar y cyd â’r Rhaglen Ffyrdd o Weithio. Nododd hefyd fod yr adnoddau ychwanegol
a glustnodwyd yn y gyllideb yn seiliedig ar amser penodedig a neilltuwyd ar
gyfer Diwygio’r Senedd, ac nad oedd hyn yn cynnwys rhai o’r gweithgareddau
gwaith busnes fel arfer megis craffu deddfwriaethol a sgiliau seneddol. Roedd
rhai adnoddau eisoes wedi’u hadleoli tra bod eraill yn cymryd cyfrifoldebau
ychwanegol fel rhan o’u rolau presennol. 13.7 Roedd y Pwyllgor yn cydnabod yr heriau o ran dyrannu amser ac adnoddau i gefnogi’r broses graffu ddeddfwriaethol ochr yn ochr â chyflawni ffrydiau gwaith Rhaglen Diwygio’r Senedd a gweithgareddau busnes fel arfer. Roedd Siwan yn cydnabod y byddai’r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13. |
|
Risgiau Corfforaethol Cofnodion: ARAC (23-02) Papur 11 - Risgiau corfforaethol ARAC (23-02) Papur 11 - Atodiad A - Crynodeb
o’r Gofrestr o Risgiau Corfforaethol ARAC (23-02) Papur 11 - Atodiad B - Risgiau
corfforaethol a nodwyd 14.1 Nododd y Pwyllgor y diweddariadau
cynhwysfawr yng Nghofrestr Risg Gorfforaethol y Comisiwn. 14.2 Nododd y Cadeirydd y byddai cynllunio’r
gweithlu yn darparu mesurau lliniaru allweddol ynghylch risgiau capasiti a
gallu (HR-R-170) drwy nodi gofynion sgiliau. Awgrymodd, o ystyried pryderon
ynghylch y gallu i recriwtio i rai swyddi arbenigol, y dylai materion yn
ymwneud â ‘chystadleurwydd cyflog’ gael eu hadlewyrchu yn y ddogfennaeth
ynghylch y risg. 14.3 Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor
ynghylch y sgôr risg uchel parhaus ar gyfer risgiau
seiberddiogelwch, diogelu data a Diwygio’r Senedd, esboniodd Manon, er
gwaetha’r camau lliniaru sydd ar waith, fod rhai o’r achosion y tu hwnt i
reolaeth y Comisiwn. Cam gweithredu ·
Ychwanegu ‘cystadleurwydd cyflog’ i Risg
Cyfeirnod: HR-R-170 – Capasiti a Gallu Corfforaethol. |
|
Archwiliad beirniadol o un risg a nodwyd - Fframwaith rheoleiddio'r aelodau: newidiadau a dealltwriaeth Cofnodion: Eitem lafar – cyfeiriad at STS-R-153 yn CRR 15.1 Croesawodd y Cadeirydd Anna Daniel,
Sulafa Thomas a Meriel Singleton i’r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon. Cyflwynodd
Siwan Davies ddiweddariad ar liniaru ar gyfer y risg corfforaethol yn ymwneud
Fframwaith Rheoleiddio’r Aelodau. 15.2 Amlinellodd Siwan y rhesymau dros
ychwanegu’r risg hon at Gofrestr Risg Gorfforaethol y Comisiwn yn dilyn
Etholiadau’r Senedd yn 2021. Roedd hyn i adlewyrchu’r angen i sicrhau
ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r amrywiol godau, rheolau, gweithdrefnau a
chanllawiau fel y maent yn berthnasol i Aelodau o’r Senedd, a sicrhau eu bod yn
cydymffurfio â hwy. Eglurodd y bwriad o wreiddio gwelliannau hirdymor drwy
symleiddio, a sicrhau bod prosesau yn canolbwyntio ar yr Aelodau ac yn addas ar
gyfer y dyfodol. 15.3 Disgrifiodd Siwan y camau sy’n cael eu
cymryd fel rhan o adolygiad thematig symleiddio gan y Bwrdd Taliadau
Annibynnol, a oedd yn rhan o’i raglen waith strategol. 15.4 Roedd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad hefyd
wedi cymryd camau i: · wella
ymwybyddiaeth yr Aelodau o’r gyfundrefn safonau; · darparu
eglurder ar y rheolau ar gyfer hawlio treuliau o
ganlyniad i’w adroddiad ar reolau trawsbleidiol; · cynnal
ymchwiliadau i gofrestru a datgan buddiannau ac ar lobïo. 15.5 Roedd cynnydd hefyd wedi’i wneud o ran
symleiddio systemau ar gyfer prosesu hawliadau er mwyn hwyluso eglurder a’i
gwneud mor hawdd â phosibl i’r Aelodau ac roedd y tîm Cymorth Busnes i Aelodau
hefyd bellach yn gosod cynseiliau. 15.6 O ran sicrhau bod prosesau’n canolbwyntio
ar yr Aelodau, disgrifiodd Siwan y gwelliannau mewn cyfathrebu drwy gysylltu
â’r Grŵp Cyswllt Gwleidyddol a’r Grŵp Gweithrediadau (a oedd yn
cynnwys Penaethiaid Staff). Roedd cynrychiolwyr y Bwrdd Taliadau Annibynnol
hefyd yn cyfarfod â’r Aelodau a’u staff. Roedd y ddau weithgaredd hyn wedi
arwain at well ymgysylltu ag Aelodau a datblygu rhaglen hyfforddi ar gyfer yr
Aelodau. Roedd ad-drefnu’r tîm Cymorth Busnes i Aelodau, gan rannu’r
swyddogaethau Adnoddau Dynol a hawliadau hefyd wedi rhoi eglurder i’r Aelodau
ynghylch pwy i gysylltu â nhw am gymorth. Byddai defnyddio adnoddau ychwanegol
i gefnogi’r Bwrdd Taliadau Annibynnol hefyd yn helpu i ganolbwyntio mwy ar
baratoadau ar gyfer y dyfodol. 15.7 Disgrifiodd Siwan y camau sy’n cael eu
cymryd i helpu i ddiogelu prosesau at y dyfodol. Ymysg y gwaith hwnnw roedd: · cymryd
rhan mewn cynhadledd ryng-seneddol bersonol ynghylch safonau ymddygiad; · rhwydweithio
â chyrff fel IPSA i helpu i gynllunio rhaglen waith y Bwrdd Taliadau
Annibynnol; · hwyluso’r
gwaith o ymgynghoriad ag Aelodau ar ran y Bwrdd Taliadau Annibynnol a’r
Comisiwn ar ffyrdd o weithio a darparu gwasanaethau yn y tymor hwy gyda Senedd
a allai fod yn fwy o faint. 15.8 Cafodd yr adroddiad ar Adolygiad o
Effeithiolrwydd y Bwrdd Taliadau Annibynnol ei gyhoeddi ynghyd ag ymateb y
Bwrdd; Roedd cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r argymhellion wrthi’n cael
ei ddatblygu. 15.9 Rhan bwysig o’r camau lliniaru ar gyfer y risg hon oedd egluro i’r Aelodau’r atebolrwydd a’r berthynas rhwng y Bwrdd Taliadau Annibynnol, y Llywydd, a’r Prif Weithredwr a’r Clerc. Byddai’r gwaith parhaus hwn hefyd yn cael ei lywio gan ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 15. |
|
Adroddiad Blynyddol Uwch-swyddog Risg Gwybodaeth Cofnodion: ARAC (23-02) Papur 12 - Adroddiad Blynyddol
Uwch-swyddog Risg Gwybodaeth 16.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Ed i gyflwyno
Adroddiad Blynyddol Uwch-swyddog Risg Gwybodaeth, gan nodi bod hyn yn rhoi
sicrwydd pwysig fel rhan o’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon. Cyfeiriodd Ed at
nifer y gweithgareddau diweddar ar gynnydd yn erbyn cyflawni cynllun gweithredu
manwl y Swyddog Diogelu Data, nawr bod gan y tîm Llywodraethu Gwybodaeth
adnoddau llawn. Roedd hyn yn cynnwys camau i fwrw ymlaen â chytundebau prosesu
data ar gyfer Aelodau a’r Comisiwn. Cyfeiriodd hefyd at fanteision y
cyfarfodydd a gafodd bob pythefnos gyda’r Pennaeth TGCh a’r tîm Diogelu Data. 16.2 Byddai’r cynigion ar gyfer grŵp
Uwch-swyddog Risg Gwybodaeth yn cael eu hystyried ymhellach yn sgil adolygiad
parhaus o effeithiolrwydd y Bwrdd Gweithredol y byddai Gareth Watts yn ei
gwblhau yn ystod yr wythnosau nesaf. Roedd Ed yn falch o adrodd nad oedd unrhyw
faterion difrifol neu dorri rheolau wedi’u hadrodd i Swyddfa’r Comisiynydd
Gwybodaeth. 16.3 Diolchodd y Cadeirydd i Ed am yr
adroddiad a roddodd y sicrwydd angenrheidiol i’r Pwyllgor. Mewn ymateb i
gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch strwythur swyddogaethau amrywiol
sy’n dod o dan gylch gorchwyl yr Uwch-swyddog Risg Gwybodaeth, esboniodd Ed ei
fod yn ystyried hyn. |
|
Crynodeb Gwyro Cofnodion: ARAC (23-02) Papur 13 – Crynodeb gwyro 17.1 Nododd y Pwyllgor un achos o wyro oddi ar y
gweithdrefnau caffael arferol ac ni chodwyd unrhyw bryderon. |
|
Cylch Gorchwyl Cofnodion: ARAC (23-02) Papur 14 - Cylch Gorchwyl wedi’i
ddiweddaru Mawrth 2023 18.1 Cadarnhaodd y Cadeirydd fod aelodau’r
Pwyllgor wedi cytuno ar y mân newidiadau i’r Cylch Gorchwyl ac y gellid
cyhoeddi’r fersiwn diwygiedig. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor i'r Comisiwn a'r Swyddog Cyfrifyddu Cofnodion: ARAC (23-02) Papur 15 – Adroddiad Blynyddol
2021-22 – Cymraeg (linc yn y pecyn) ARAC (23-02) Papur 15 – Adroddiad Blynyddol
2021-22 – Saesneg (linc yn y pecyn) 19.1 Gwahoddodd y Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor
i awgrymu cynnwys ar gyfer Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor a’u hannog i rannu eu
syniadau â’r tîm Clercio. |
|
Blaenraglen Waith Cofnodion: ARAC (23-02) Papur 16 - Y flaenraglen waith 20.1 Codwyd nifer o eitemau agenda yn y
dyfodol yn ystod y cyfarfod. Byddai blaenraglen waith ddiwygiedig yn cael ei
rhannu ar ddechrau cyfarfod mis Mehefin.
|
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: 21.1 Ni chodwyd unrhyw fater arall. Bu Clare James, Archwilio Cymru yn bresennol
mewn sesiwn breifat gydag aelodau’r Pwyllgor wedi i’r trafodion ffurfiol ddod i
ben. Nid oedd unrhyw swyddogion y Comisiwn yn bresennol ac ni chymerwyd
cofnodion. Trefnwyd i gynnal y cyfarfod nesaf ar 12
Mehefin 2023. |