Agenda item
Diweddariad corfforaethol ar: Rhaglen Diwygio'r Senedd a Rhaglen Ffyrdd o Weithio
- Cyfarfod Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd, Dydd Iau, 27 Ebrill 2023 14.00 (Item 13.)
- Gwybodaeth gefndir i eitem 13.
Cofnodion:
Rhaglen Diwygio’r Senedd - diweddariad llafar
13.2 Amlinellodd Siwan
y cynlluniau ar gyfer bwrw ymlaen â dau brif weithgaredd ffrydiau gwaith y
Seithfed Senedd sy’n canolbwyntio ar fusnes: gweithdrefnau ac arferion; a
chapasiti a gallu, a oedd yn gysylltiedig â’r Rhaglen Ffyrdd o Weithio. Roedd
trafodaethau hefyd ar y gweill i sefydlu’r mecanwaith ar gyfer deialog gyda’r
Bwrdd Taliadau Annibynnol o ran sut y caiff Aelodau eu cefnogi, a’r groesffordd
rhwng y gwasanaethau a ddarperir gan y Comisiwn a’r lwfansau y gall Aelodau eu
cael drwy Benderfyniad y Bwrdd.
13.3 Amlinellodd Siwan y paratoadau ar gyfer
cefnogi’r broses ddeddfwriaethol a fyddai’n cynnwys cynllunio senarios ar gyfer
y dull deddfwriaethol o ddiwygio’r Senedd a diwygiadau etholiadol eraill sy’n
cael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru. Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor,
esboniodd Siwan y goblygiadau a’r risgiau posibl a fyddai’n cael eu harchwilio,
gan gynnwys cymhlethdod rhai senarios a goblygiadau i’r Comisiwn o ran gallu i
gefnogi’r broses graffu.
13.4 O ran llywodraethu rhaglenni, tynnodd
Siwan sylw at y canlynol:
· datblygu
cofrestr risg rhaglenni, gan weithio gyda Rheolwr Risg y Comisiwn i fireinio
hyn;
· trafodaethau
â swyddogion perthnasol ynghylch y cysylltiadau rhwng risgiau corfforaethol
Diwygio’r Senedd a risgiau ar lefel y rhaglen â’r Rhaglen Ffyrdd o Weithio, yn
ogystal â risgiau a nodir gan Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill;
· datblygu
gwaith mapio rhanddeiliaid gan ddefnyddio matrics RACI (Cyfrifol, Atebol,
Ymgynghori, Hysbysu neu, yn Saesneg, ‘Responsible, Accountable, Consult,
Inform);
· ymgysylltu
â'r Uned Cynllunio Strategol i ddatblygu offeryn adrodd ar y cyd rhwng Rhaglen
Diwygio’r Senedd - Rhaglen Ffyrdd o Weithio ar gyfer y Bwrdd Gweithredol; a
· datblygu
cynlluniau cyfathrebu mewnol ac allanol i’w trafod yng nghyfarfodydd Bwrdd
Rhaglen Diwygio’r Senedd a’r Bwrdd Sicrwydd ar y Cyd â Llywodraeth Cymru.
13.5 Dywedodd Siwan fod y Bwrdd Sicrwydd ar y
Cyd, a oedd wedi cyfarfod y bore hwnnw, yn gweithio'n dda. Roedd sesiynau
briffio hefyd yn cael eu cydgysylltu cyn cyfarfodydd dwyochrog rhwng y Llywydd
a’r Prif Weinidog.
13.6 Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cadeirydd
ynghylch adnoddau, eglurodd Siwan fod cynllunio gweithlu manwl yn mynd rhagddo
ar y cyd â’r Rhaglen Ffyrdd o Weithio. Nododd hefyd fod yr adnoddau ychwanegol
a glustnodwyd yn y gyllideb yn seiliedig ar amser penodedig a neilltuwyd ar
gyfer Diwygio’r Senedd, ac nad oedd hyn yn cynnwys rhai o’r gweithgareddau
gwaith busnes fel arfer megis craffu deddfwriaethol a sgiliau seneddol. Roedd
rhai adnoddau eisoes wedi’u hadleoli tra bod eraill yn cymryd cyfrifoldebau
ychwanegol fel rhan o’u rolau presennol.
13.7 Roedd y Pwyllgor yn cydnabod yr heriau o
ran dyrannu amser ac adnoddau i gefnogi’r broses graffu ddeddfwriaethol ochr yn
ochr â chyflawni ffrydiau gwaith Rhaglen Diwygio’r Senedd a gweithgareddau
busnes fel arfer. Roedd Siwan yn cydnabod y byddai’r amserlen yn hynod o dynn,
yn enwedig o ystyried yr amserlenni gofynnol ar gyfer adolygiad ffiniau. Mae
Llywodraeth Cymru yn rhoi sicrwydd bod y ddeddfwriaeth ar y trywydd iawn i gael
ei chyflwyno yn hydref 2023. Byddai risgiau’n cael eu hailasesu pan fyddai rhwymedigaethau
cytundebol yn cael eu hymrwymo i Senedd fwy o faint gyda mwy o Aelodau.
13.8 Gwahoddodd y Cadeirydd swyddogion i
ymhelaethu ar Fwrdd Cyflawni Diwygio Etholiadol y Senedd a sefydlwyd gan
Lywodraeth Cymru, gan gydnabod bod hyn yn ymwneud â rhanddeiliaid yn y gymuned
etholiadol, yn hytrach na’r Bwrdd Sicrwydd ar y Cyd a oedd yn canolbwyntio ar
sicrwydd gwleidyddol. Esboniodd Anna Daniel mai cylch gwaith y Bwrdd, yr oedd
hi a Siwan yn aelodau ohono, oedd sicrhau bod diwygio etholiadol ehangach a’i
strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu gydgysylltiedig yn cael ei chyflwyno.
Roedd aelodaeth y Bwrdd yn cynnwys rhanddeiliaid o’r gymuned etholiadol megis
swyddogion o Gomisiwn y Senedd, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’r
Comisiwn Etholiadol. Roedd hyn wedi rhoi cipolwg ar y rhaglen diwygio
etholiadol ehangach ac wedi eu helpu i ddeall a gwerthfawrogi'r risgiau
cyflawni i awdurdodau lleol.
13.9 Cododd aelodau’r Pwyllgor rai cwestiynau
pellach yn ymwneud â matrics RACI a rheoli portffolio. Esboniodd Siwan fod y
matrics yn cynnwys pawb a oedd yn gysylltiedig, gan gynnwys, ond heb fod yn
gyfyngedig i, y rhai sy’n gwneud penderfyniadau er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw
randdeiliaid yn cael eu colli. O ran rheoli portffolio, disgrifiodd Siwan rôl
yr Uned Cynllunio Strategol o ran cydlynu ac adrodd ar raglenni Diwygio’r
Senedd a Ffyrdd o Weithio a phrosiectau mawr eraill i’r Bwrdd Gweithredol.
Byddai’r Uned hefyd yn hwyluso cynnydd amserol o risgiau a materion sy’n dod i’r
amlwg ac yn gwneud argymhellion ar flaenoriaethu adnoddau. Ychwanegodd Manon,
er mai’r Bwrdd Gweithredol oedd y corff gwneud penderfyniadau, roedd llawer o
waith yn cael ei wneud ar lefel y rhaglen ac ar lefel strategol i lywio
penderfyniadau.
Rhaglen Ffyrdd o Weithio – diweddariad llafar
13.10 Rhoddodd Ed Williams ddiweddariad byr ar
y cynnydd o ran cyflawni’r strategaeth Ffyrdd o Weithio. Amlinellodd y
blaenoriaethau a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu Interim, sef penderfyniadau
cychwynnol ar gyfer dychwelyd i’r ystâd, adolygu lleoliad y swyddfa yn y
gogledd, ac anghenion llety yn y dyfodol ym Mae Caerdydd.
13.11 Roedd strwythur ffurfiol y Rhaglen
Ffyrdd o Weithio wedi’i sefydlu ac roedd bwrdd y rhaglen wedi cyfarfod i
adolygu ei drefniadau llywodraethu, a risgiau ar lefel rhaglen a
chorfforaethol. Roedd cynlluniau ar gyfer adleoli swyddfa’r gogledd wedi’u
cwblhau ac roedd gwaith wedi’i gomisiynu ar ddefnyddio gofod swyddfa ym Mae
Caerdydd. Mae disgwyl i opsiynau strategol gael eu cyflwyno i’r Bwrdd
Gweithredol a’r Comisiwn ym mis Mai.
13.12 Nododd y Cadeirydd fod disgwyl i’r
Pwyllgor gael diweddariad sylweddol yn ei gyfarfod ar 3 Gorffennaf ond
gofynnodd am ddiweddariad ar y cynigion strategol yn ei gyfarfod ar 12 Mehefin.