Agenda item

Archwiliad beirniadol o un risg a nodwyd - Fframwaith rheoleiddio'r aelodau: newidiadau a dealltwriaeth

Cofnodion:

Eitem lafar – cyfeiriad at STS-R-153 yn CRR

15.1 Croesawodd y Cadeirydd Anna Daniel, Sulafa Thomas a Meriel Singleton i’r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon. Cyflwynodd Siwan Davies ddiweddariad ar liniaru ar gyfer y risg corfforaethol yn ymwneud Fframwaith Rheoleiddio’r Aelodau. 

15.2 Amlinellodd Siwan y rhesymau dros ychwanegu’r risg hon at Gofrestr Risg Gorfforaethol y Comisiwn yn dilyn Etholiadau’r Senedd yn 2021. Roedd hyn i adlewyrchu’r angen i sicrhau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r amrywiol godau, rheolau, gweithdrefnau a chanllawiau fel y maent yn berthnasol i Aelodau o’r Senedd, a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â hwy. Eglurodd y bwriad o wreiddio gwelliannau hirdymor drwy symleiddio, a sicrhau bod prosesau yn canolbwyntio ar yr Aelodau ac yn addas ar gyfer y dyfodol.

15.3 Disgrifiodd Siwan y camau sy’n cael eu cymryd fel rhan o adolygiad thematig symleiddio gan y Bwrdd Taliadau Annibynnol, a oedd yn rhan o’i raglen waith strategol.

15.4 Roedd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad hefyd wedi cymryd camau i:

·       wella ymwybyddiaeth yr Aelodau o’r gyfundrefn safonau;

·       darparu eglurder ar y rheolau ar gyfer hawlio treuliau o ganlyniad i’w adroddiad ar reolau trawsbleidiol;

·       cynnal ymchwiliadau i gofrestru a datgan buddiannau ac ar lobïo.

15.5 Roedd cynnydd hefyd wedi’i wneud o ran symleiddio systemau ar gyfer prosesu hawliadau er mwyn hwyluso eglurder a’i gwneud mor hawdd â phosibl i’r Aelodau ac roedd y tîm Cymorth Busnes i Aelodau hefyd bellach yn gosod cynseiliau.

15.6 O ran sicrhau bod prosesau’n canolbwyntio ar yr Aelodau, disgrifiodd Siwan y gwelliannau mewn cyfathrebu drwy gysylltu â’r Grŵp Cyswllt Gwleidyddol a’r Grŵp Gweithrediadau (a oedd yn cynnwys Penaethiaid Staff). Roedd cynrychiolwyr y Bwrdd Taliadau Annibynnol hefyd yn cyfarfod â’r Aelodau a’u staff. Roedd y ddau weithgaredd hyn wedi arwain at well ymgysylltu ag Aelodau a datblygu rhaglen hyfforddi ar gyfer yr Aelodau. Roedd ad-drefnu’r tîm Cymorth Busnes i Aelodau, gan rannu’r swyddogaethau Adnoddau Dynol a hawliadau hefyd wedi rhoi eglurder i’r Aelodau ynghylch pwy i gysylltu â nhw am gymorth. Byddai defnyddio adnoddau ychwanegol i gefnogi’r Bwrdd Taliadau Annibynnol hefyd yn helpu i ganolbwyntio mwy ar baratoadau ar gyfer y dyfodol.

15.7 Disgrifiodd Siwan y camau sy’n cael eu cymryd i helpu i ddiogelu prosesau at y dyfodol. Ymysg y gwaith hwnnw roedd:

·       cymryd rhan mewn cynhadledd ryng-seneddol bersonol ynghylch safonau ymddygiad;

·       rhwydweithio â chyrff fel IPSA i helpu i gynllunio rhaglen waith y Bwrdd Taliadau Annibynnol;

·       hwyluso’r gwaith o ymgynghoriad ag Aelodau ar ran y Bwrdd Taliadau Annibynnol a’r Comisiwn ar ffyrdd o weithio a darparu gwasanaethau yn y tymor hwy gyda Senedd a allai fod yn fwy o faint.

15.8 Cafodd yr adroddiad ar Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd Taliadau Annibynnol ei gyhoeddi ynghyd ag ymateb y Bwrdd; Roedd cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r argymhellion wrthi’n cael ei ddatblygu.

15.9 Rhan bwysig o’r camau lliniaru ar gyfer y risg hon oedd egluro i’r Aelodau’r atebolrwydd a’r berthynas rhwng y Bwrdd Taliadau Annibynnol, y Llywydd, a’r Prif Weithredwr a’r Clerc. Byddai’r gwaith parhaus hwn hefyd yn cael ei lywio gan yr adolygiad archwilio mewnol arfaethedig o’r rheolaethau sydd ar waith, a’r camau sy’n cael eu cymryd i liniaru’r risg.

15.10 Diolchodd y Pwyllgor i Siwan a’i thîm am y diweddariad cynhwysfawr a’u canmol am ymateb i’r risg mewn ffordd mor strwythuredig a disgybledig.

15.11 Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor, disgrifiodd Siwan sut yr oedd yr Aelodau’n ymateb yn ffafriol i gamau gweithredu megis symleiddio prosesau a’r amrywiol ymarferion ymgynghori ar bethau a oedd yn effeithio arnynt. Roedd hyn wedi dangos bod eu barn a’u hanghenion yn cael eu hystyried ac roedd hynny’n arwain at well perthnasoedd ac ymgysylltiad gyda'r Comisiwn a'r Bwrdd Taliadau Annibynnol.

15.12 Roedd y Pwyllgor yn cydnabod y byddai hyn yn risg barhaus, er gwaetha’r camau gweithredu ynghylch symleiddio a chanolbwyntio ymhellach ar anghenion yr Aelodau. Nododd hefyd y gwaith parhaus ynghylch egluro rheolau’r Swyddog Cyfrifyddu, ac effaith bosibl Senedd newydd, ddiwygiedig ar ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r fframwaith rheoleiddio. Byddai’r Pwyllgor yn parhau i gael diweddariadau rheolaidd ar reoli’r risg drwy ystyried y Gofrestr Risg Gorfforaethol ym mhob cyfarfod.