Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel
Cyswllt: Clerk: Kathryn Hughes Deputy Clerk: Buddug Saer
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod, gan gynnwys aelodau newydd y Pwyllgor, sef Menai
Owen-Jones a Mark Egan. Yn ogystal, croesawodd Simon Hart, y prif swyddog
cyllid dros dro, i'w gyfarfod cyntaf. 1.2 Nododd y
Cadeirydd fod ymddiheuriad wedi dod i law gan Gareth Lucey o Archwilio Cymru, a
nododd fod Clare James wedi disodli Gareth yn ddiweddar fel y rheolwr
archwilio. Diolchodd i Clare am y gwaith yr oedd wedi'i wneud ers dechrau yn ei
rôl. 1.3 Ni ddatganwyd
unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, camau gweithredu a materion yn codi Cofnodion: ARAC (23-01)
Papur 1 – Cofnodion drafft 21 Tachwedd 2022 ARAC (23-01)
Papur 2 – Crynodeb o’r camau i’w cymryd 2.1 Cymeradwywyd
cofnodion y cyfarfod ar 21 Tachwedd yn ffurfiol, a nodwyd diweddariadau i’r
camau gweithredu. |
|
Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd (gan gynnwys y cynnydd a wneir ar weithgarwch archwilio mewnol) Cofnodion: ARAC (23-01)
Papur 3 – Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd 3.1 Rhoddodd
Gareth Watts y wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch archwilio a gweithgarwch
llywodraethu ehangach. Diolchodd i Kathryn Hughes am ei gwaith ar reoli’r
broses o gael sicrwydd gan bob rhan o’r Comisiwn, a fydd yn cael ei fwydo i
mewn i Ddatganiad Llywodraethu 2022-23. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys addasu'r
dull o fapio sicrwydd, yn unol â’r arferion gorau sy’n dod i'r amlwg. Bu’r
cyfarwyddwyr yn adolygu'r datganiadau sicrwydd ar lefel gwasanaeth, a chafodd
datganiadau’r Cyfarwyddiaethau eu cyflwyno i Manon i'w hadolygu. Nodwyd y
byddai Aled a Bob yn darparu her annibynnol ynghylch Datganiadau Sicrwydd y
Cyfarwyddwyr yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar 13 Mawrth. 3.2 Mewn cyfarfod
a gynhaliwyd ar 2 Chwefror, gwnaeth Gareth gyflwyniad i’r Bwrdd Taliadau
Annibynnol ynghylch ei ganfyddiadau yn deillio o’r Adolygiad o Effeithiolrwydd
y Bwrdd. Bwriad y Bwrdd oedd cyhoeddi’r adroddiad ym mis Ebrill. Roedd hefyd
wrthi’n gweithio ar adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd Gweithredol (EB). Roedd
dadansoddiad bwrdd gwaith cychwynnol wedi'i gynnal gan Kathryn Hughes a
Victoria Paris, a nodwyd y byddai Gareth yn ymgysylltu ag aelodau o’r Bwrdd
Gweithredol a rhanddeiliaid perthnasol.
3.3 Roedd yr
archwiliad ynghylch y Rheolaethau Ariannol Allweddol wedi cael ei gwblhau cyn
ymadawiad y Cyfarwyddwr Cyllid a'r Pennaeth Cyllid. Rhannwyd yr adroddiad â'r
Cadeirydd, a nodwyd y byddai'n cael ei rannu ag aelodau'r Pwyllgor. Roedd
Gareth hefyd wrthi’n cwblhau adroddiad dilynol ar y gwersi a ddysgwyd yn sgil
COVID-19. 3.4 Roedd
Victoria a Gareth wedi cwrdd â Haines Watts er mwyn pennu cwmpas archwiliadau
ar barhad busnes a seiberddiogelwch, a fyddai'n dechrau ym mis Mawrth. Roedd gwaith wedi dechrau ar gynllun
archwilio mewnol 2023-24, a chafwyd trafodaethau gyda chydweithwyr a Haines
Watts. Roedd Gareth yn falch o adrodd bod rhywun wedi cysylltu ag ef parthed
cynnal archwiliad posibl yn y Gyfarwyddiaeth Busnes. Nododd y byddai'n trafod y
mater ag aelodau perthnasol y Bwrdd Gweithredol. 3.5 Yn olaf,
dywedodd Gareth wrth y Pwyllgor ei fod wedi bod yn cefnogi'r tîm Cyllid o ran
sicrhau bod yr archwiliad diwedd blwyddyn mor llyfn â phosibl. Bydd yn darparu
her archwilio, ynghyd ag adolygiad o’r broses, yn dilyn archwiliad prawf ym mis
10. 3.6 Ymatebodd y
swyddogion fel a ganlyn i nifer o gwestiynau penodol a ofynnwyd gan aelodau'r
Pwyllgor: i.
Cytunodd Gareth i
rannu linc i'r adroddiad ar yr Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd Taliadau
Annibynnol pan gaiff ei gyhoeddi, a nodwyd y byddai'r Pwyllgor yn trafod yr
argymhellion yn y dyfodol. ii.
Cadarnhaodd Gareth
fod Haines Watts, y partner archwilio mewnol a gaiff ei ariannu ar y cyd, wedi
cynnal yr archwiliad ynghylch y rheolaethau ariannol allweddol, a nodwyd y
byddai'n cynnal yr archwiliadau sydd i ddod ynghylch parhad busnes a
seiberddiogelwch. iii.
Nodwyd y byddai
Gareth yn dosbarthu ei adroddiad dilynol ar y gwersi a ddysgwyd yn sgil
COVID-19 i aelodau’r Pwyllgor fel mater o drefn. Bydd yr adroddiad hwn hefyd yn
cael ei rannu â’r Pwyllgor Taliadau. iv. Eglurodd Gareth y rheswm dros ohirio'r adolygiad ynghylch y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch hynt y broses gynllunio parthed archwilio cyfrifon y Comisiwn ar gyfer 2022-23 Cofnodion: ARAC (23-01)
Papur 4 – cynllun archwilio amlinellol 4.1 Croesawodd y
Cadeirydd Ann-Marie Harkin a Gareth Lucey i'r cyfarfod. Fel rhan o’r polisi
cylchdroi, roedd Clare wedi disodli Gareth Lucey yn rôl y Rheolwr Archwilio.
Cadarnhaodd Ann-Marie y byddai gweddill y tîm yn aros yr un peth. 4.2 Cyflwynodd
Clare gynllun archwilio amlinellol, a oedd yn gynllun lefel uchel iawn, a
gofynnodd am adborth gan y Pwyllgor. Roedd yn cynnwys y ffi arfaethedig a
manylion y tîm archwilio. Roedd Archwilio Cymru wedi amcangyfrif y byddai'r ffi
archwilio yn £68,985, sy'n cynrychioli cynnydd o 15 y cant. Roedd hyn yn
seiliedig ar amcangyfrif cynnar o effaith y safon archwilio newydd, sef ISA
315, sy’n gofyn am asesiadau risg mwy manwl gan archwilwyr mwy profiadol a
medrus. Nodwyd y byddai gwaith cynllunio manwl yn ystod yr wythnosau nesaf yn
arwain at amcangyfrif mwy cywir. Cadarnhaodd Archwilio Cymru na fyddai unrhyw
newid i'r trothwy perthnasedd, sef 1 y cant o'r gwariant gros. 4.3 Yn
hanesyddol, roedd set gyflawn o gyfrifon archwiliedig yn cael ei chyflwyno i'r
Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn ei gyfarfod ym mis Mehefin, ac roedd
Archwilio Cymru yn ymwybodol o'r effaith ar y Comisiwn pe bai’r trefniant hwn
yn symud i’r cyfarfod ym mis Gorffennaf. Fodd bynnag, yn sgil y cymhlethdod
ychwanegol a’r dull gweithredu newydd sydd ynghlwm wrth y safon ISA 315 newydd,
ac yn sgil problemau o ran recriwtio archwilwyr mwy profiadol, roedd y
sefydliad wedi nodi mis Gorffennaf yn y papur gan nad oedd modd gwarantu y
byddai’r gwaith yn cael ei gwblhau mewn pryd ar gyfer y cyfarfod ym mis
Mehefin. Nodwyd y byddai amserlen fwy manwl yn cael ei darparu i Simon a'r tîm
Cyllid unwaith y bydd y gwaith cynllunio wedi dechrau, ac y byddai Simon yn
sicrhau bod aelodau'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn cael gwybodaeth yn
rheolaidd. 4.4 Diolchodd y
Cadeirydd i Archwilio Cymru am y diweddariad hwn. Gofynnodd pa fath o werth a
manteision ychwanegol a fyddai'n cael eu darparu i gyfiawnhau cynnydd o 15 y
cant yn y ffi. 4.5 Roedd
Archwilio Cymru yn ymwybodol o'r cyfyngiadau ar gyllidebau yn y sector
cyhoeddus, a chadarnhaodd y sefydliad y byddai'r safon newydd yn arwain at
allbynnau ac argymhellion o ansawdd uwch, gyda gwell dealltwriaeth o feysydd
megis TGCh. 4.6 Mewn ymateb i
her bellach gan aelodau’r Pwyllgor mewn perthynas â’r amserlen, rhoddodd
Archwilio Cymru sicrwydd y byddai’n ceisio cwblhau’r archwiliad ym mis Mehefin
ac y byddai’n blaenoriaethu’r gwaith archwilio ar Gomisiwn y Senedd. Fodd
bynnag, tynnodd sylw eto at y problemau y mae’n eu hwynebu o ran recriwtio,
ynghyd â’r her o gymhwyso methodoleg newydd. 4.7 Pwysleisiodd
Manon y rhesymau pam fod y Comisiwn yn dymuno i'r cyfrifon gael eu cwblhau
erbyn mis Mehefin, yng nghyd-destun prosesau a chyfarfodydd mewnol y Comisiwn,
y dasg o alinio cyfres o adroddiadau blynyddol eraill, a'r angen i osod
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn cyn toriad yr haf. Camau
i’w cymryd · Archwilio Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i swyddogion am y cynnydd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Sesiwn friffio ar ISA 315 Cofnodion: ARAC (23-01)
Papur 5 – Sesiwn Friffio ar Safon Archwilio ISA 315 5.1 Cyflwynodd
Clare bapur briffio ar y dull archwilio, gan ganolbwyntio’n benodol ar safon
archwilio ddiwygiedig, sef ISA 315 (DU) – Nodi ac Asesu’r Risgiau o
Gamddatganiad Perthnasol (wedi’i diwygio ym mis Gorffennaf 2020). 5.2 Eglurodd
Clare y byddai'r safon ddiwygiedig yn ysgogi asesiadau risg a fyddai’n fwy
effeithiol ac o ansawdd gwell, yn ogystal â hyrwyddo’r arfer o gynnal amheuaeth
broffesiynol. Mae rôl ddatblygiedig technoleg a chymhlethdod fframweithiau
adrodd ariannol yn gofyn am brosesau mwy soffistigedig ar gyfer adnabod ac
asesu risg. Nodwyd y byddai'r safon ddiwygiedig yn darparu adolygiad gwell o
amgylchedd rheoli'r Comisiwn, gan gynnwys y defnydd o dechnoleg. 5.3 Diolchodd y
Pwyllgor i Archwilio Cymru am y sesiwn friffio. |
|
Diwygio'r Senedd - Diweddariad corfforaethol Y wybodaeth
ddiweddaraf, ar lafar Cofnodion: Y wybodaeth
ddiweddaraf, ar lafar 6.1 Croesawodd y
Cadeirydd Siwan Davies, Anna Daniel ac Alun Davidson i’r cyfarfod, gan wahodd
Siwan i gyflwyno’r eitem. 6.2 Rhoddodd
Siwan sicrwydd i’r Pwyllgor fod Rhaglen Diwygio’r Senedd ar y trywydd iawn, gan
ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y ffrydiau gwaith sy’n ymwneud â chyllid,
busnes y Senedd a’r Bwrdd Taliadau Annibynnol. 6.3 Ers cyfarfod
y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ym mis Tachwedd, roedd yr amcangyfrifon
cost, a oedd wedi'u seilio ar gyfres o ragdybiaethau cyffredin, wedi cael eu
cwblhau. Y bwriad oedd eu cyflwyno i'r Comisiwn yn ei gyfarfod ar 23 Mawrth. Pe
byddai’r amcangyfrifon yn cael eu cymeradwyo, byddent wedyn yn cael eu rhannu â
Llywodraeth Cymru i'w cynnwys yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol i gyd-fynd â'r
Bil. Byddai'r costau hefyd yn cael eu hadlewyrchu yn y Cynllun Ariannol Tymor
Canolig. 6.4 Mewn
perthynas â pharatoadau ar gyfer busnes yn y Seithfed Senedd, roedd gweithdy
wedi'i gynnal i fapio cyd-ddibyniaethau a rolau a chyfrifoldebau rhanddeiliaid.
Roedd trefniant gweithio ar y cyd wedi'i gytuno rhwng y Comisiwn a'r Bwrdd
Taliadau Annibynnol, ac roedd gwaith ar y gweill ar fanylion y broses o roi’r
trefniant hwn ar waith yn ymarferol, o ystyried statws annibynnol y Bwrdd. 6.5 O ran llywodraethu, roedd adolygiadau yn mynd
rhagddynt mewn perthynas â risgiau corfforaethol a risgiau rhaglen yn
nghyd-destun diwygio’r Senedd, a’r gwaith o fapio cyfrifoldebau rhanddeiliaid.
Nodwyd y byddai canlyniad yr adolygiad sylfaenol o risgiau corfforaethol, a
fyddai'n cynnwys cysylltiadau â'r Rhaglen Ffyrdd o Weithio, yn cael ei gyflwyno
i'r Bwrdd Gweithredol ym mis Ebrill. Nodwyd hefyd y byddai Bwrdd Rhaglen
Diwygio’r Senedd yn trafod cofrestr risg y rhaglen yn ei gyfarfod nesaf. Nodwyd
y byddai matrics atebolrwydd, sef y matrics Cyfrifoldeb, Atebolrwydd,
Ymgynghori, Hysbysu (yn Saesneg, ‘Responsible, Accountable, Consult, Inform’,
neu RACI), yn cael ei fabwysiadu i amlinellu’r ffiniau rhwng Comisiwn y Senedd,
Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Taliadau Annibynnol. 6.6 Roedd gan y
Pwyllgor ddiddordeb mewn cael amserlen fanwl i’w helpu i ddeall ar ba adegau y
byddai’r Comisiwn yn gwneud ymrwymiadau ariannol, yn ogystal ag elfennau
deddfwriaethol y rhaglen. Eglurodd Siwan
fod gwaith ymgysylltu a chraffu ar ddeddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru
yn fusnes craidd i’r Senedd, ac y byddai’n digwydd pan fyddai’r Senedd yn
cytuno ar y model diwygio. Nid oedd fformat y gweithgarwch ymgysylltu wedi'i
gytuno, er bod trafodaethau cynnar wedi'u cynnal gyda'r Comisiwn Etholiadol
ynghylch y prif negeseuon. Gallai’r broses ddiwygio ddigwydd ar lefel sylfaenol
iawn, a bydd addysgu’r cyhoedd yn hanfodol. Nodwyd y byddai’r gwaith craffu ar
y ddeddfwriaeth yn dechrau yn nhymor yr hydref, a bod cyllideb wedi'i dyrannu
i'r rhaglen yn y flwyddyn ariannol gyfredol a'r flwyddyn ariannol nesaf. Mae
gwaith eisoes ar y gweill i baratoi’r Siambr ar gyfer Aelodau ychwanegol, a
nodwyd y byddai hyn yn cael ei nodi’n glir fel gwariant sy’n ymwneud â
Diwygio’r Senedd. 6.7 Cydnabu’r Pwyllgor y byddai lefelau diddordeb ymhlith y cyhoedd yn cynyddu wrth i adroddiadau gael eu cyhoeddi ar elfennau ariannol y broses ddiwygio, ac y byddai’r berthynas rhwng Aelodau ac ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
Archwiliad beirniadol o un risg neu fater amserol sydd wedi'i nodi neu sy'n dod i'r amlwg - Diweddariad Corfforaethol - Ffyrdd o Weithio Cofnodion: ARAC (23-01)
Papur 6 – Diweddariad ynghylch Ffyrdd o Weithio 7.1 Rhoddodd Ed
drosolwg o'r rhaglen Ffyrdd o Weithio (WoW). Cynlluniwyd y strwythur hwn fel un
strwythur rheoli rhaglen, a fyddai’n caniatáu i strategaethau presennol y Comisiwn
ynghylch ystadau, pobl a chynaliadwyedd presennol, a'i gynlluniau ar gyfer
adolygu capasiti a Dyfodol Ystwyth, gael eu halinio o dan fframwaith strategol.
7.2 Cyfeiriodd at
nifer o weithgareddau sydd i’w cyflawni yn y ffrydiau gwaith amrywiol, a soniodd
am benderfyniad y Comisiwn, ym mis Tachwedd 2022, i gymeradwyo achos busnes
parthed arfer y cymal terfynu sydd wedi’i gynnwys yn y brydles ar gyfer
swyddfa’r Comisiwn yng ngogledd Cymru, sydd ar hyn o bryd ym Mae Colwyn. Byddai
symud i drefniant cydleoli yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd
Llandudno, sef swyddfeydd Sarn Mynach, yn arbed mwy na £100,000 dros gyfnod o
bedair blynedd. 7.3 Nodwyd y
byddai ffrwd waith benodol yn y rhaglen Ffyrdd o Weithio yn gyfrifol am lunio
opsiynau a chyngor manwl mewn perthynas â phrydles Tŷ Hywel, a fydd yn dod i ben yn 2032. Roedd
y Comisiwn hefyd wedi cytuno i ddatblygu Strategaeth Rheoli Adnoddau er mwyn
pennu paramedrau o ran adnoddau a chynllunio'r gweithlu. Yr allbwn a fyddai’n deillio o'r Strategaeth fyddai
Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig, a fyddai’n cynnwys Cynllun Ariannol Tymor
Canolig a Chynllun Gweithlu. 7.4 Roedd y
Pwyllgor yn gwerthfawrogi maint y rhaglen hon, sy’n ymwneud â nifer o wahanol
feysydd. Gofynnodd y Pwyllgor a oedd Ed – yn y cyd-destun hwnnw, ac o ystyried
yr angen am gydgysylltu agos a pharhaus â rhaglen Diwygio’r Senedd – o’r farn
bod y cymysgedd cywir o sgiliau, capasiti a gallu ar waith i reoli’r risgiau a
chyflawni’r allbynnau disgwyliedig a’r canlyniadau disgwyliedig. 7.5 Cadarnhaodd
Ed fod yr adnoddau sydd wedi’u neilltuo ar y gyfer y rhaglen ar hyn o bryd wedi
rhoi sicrwydd iddo, ond ychwanegodd ei fod yn y broses o fapio gofynion manwl
at y dyfodol. Roedd y Pwyllgor yn ymwybodol o faterion diwylliannol a oedd yn
bodoli yn y Swyddfa Rhaglen a Newid yn flaenorol. Nododd y Pwyllgor, er bod y
materion hyn bellach wedi’u datrys, fod nifer o swyddi gwag ar gyfer
dadansoddwyr busnes o fewn y Comisiwn o hyd. 7.6 Roedd cryn
dipyn o waith wedi'i wneud i adolygu'r cyllidebau. Roedd hyn yn cynnwys
systemau a phrosesau cynllunio ar gyfer materion ariannol, materion gweithlu a
materion corfforaethol amrywiol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, cyfnod
ariannol 2023-24, a’r cyfnod o dair blynedd y tu hwnt i hynny. Bwriad y gwaith
hwn oedd sefydlu Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig (gan gynnwys cynllun
ariannol tymor canolig manwl a chynllun gweithlu llawn) erbyn mis Mehefin 2023.
Nodwyd y byddai’r broses ar gyfer blaenoriaethu prosiectau yn cael ei
chysylltu'n agos â phrosesau cynllunio corfforaethol, ac y byddai adnoddau ar
gyfer rheoli prosiectau yn cael eu dyrannu i brosiectau craidd yn unig, a
hynny’n seiliedig ar yr offeryn blaenoriaethu. 7.7 Mae’r wasg wedi datgelu bod defnydd swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar lefel o oddeutu 20 y cant. Cadarnhaodd Ed ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7. |
|
Risgiau Corfforaethol Cofnodion: ARAC (22-01)
Papur 7 – Risg Corfforaethol ARAC (23-01)
Papur 7 – Atodiad A – Crynodeb o’r Gofrestr Risg Gorfforaethol ARAC (23-01)
Papur 7 – Atodiad B – Risgiau Corfforaethol a nodwyd 8.1 Nododd y
Pwyllgor y diweddariadau a wnaed i Gofrestr Risg Gorfforaethol y Comisiwn, ac
roedd wedi cytuno i ganolbwyntio ar y diweddariad ynghylch y rhaglen Ffyrdd o
Weithio (gweler eitem 7) i ddisodli’r adolygiad manwl arferol o risg. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid Cofnodion: ARAC (23-01) Papur 8 – Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ARAC (23-01) Papur 8 – Papur y Bwrdd Gweithredol ar y Fframwaith Adnoddau
9.1 Cyflwynodd
Simon Hart y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid, gan gynnwys y rhagolwg diweddaraf
ynghylch tanwariant diwedd blwyddyn ar gyfer 2022-23, a gyflwynwyd i’r Bwrdd
Gweithredol ar 10 Chwefror. Nodwyd y byddai hyn yn cael ei fonitro'n agos, ac y
byddai'r Tîm Arwain yn cael ei atgoffa o bwysigrwydd adrodd gwybodaeth gywir yn
y cyfnod cyn diwedd y flwyddyn. 9.2 Rhoddodd Simon sicrwydd i’r Pwyllgor ei fod ef a’r
tîm Cyllid yn gweithio’n agos gydag Archwilio Cymru er mwyn sicrhau y glynir
wrth y cerrig milltir hollbwysig ar gyfer cynhyrchu cyfrifon 2022-23. Nodwyd y
byddai’n parhau i gynllunio a pharatoi, gydag archwiliad prawf yn cael ei
gynnal yng nghyfnod 10. 9.3 Rhybuddiodd y Cadeirydd swyddogion am yr oedi
ynghylch y broses o gael data gan gynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Roedd
Simon eisoes wedi trefnu cyfarfod ag Adran Actiwari’r Llywodraeth, gyda’r nod o
gadarnhau pryd y byddai’r data yn cael eu darparu. 9.4 Cymeradwyodd y Pwyllgor y colledion a'r taliadau
arbennig a wnaed, gan ddiolch i Simon am ei bapur cynhwysfawr. |
|
Adolygiad Blynyddol o bolisïau cyfrifyddu Cofnodion: ARAC (23-01)
Papur 9 – Adolygiad Blynyddol o Bolisïau Cyfrifyddu 10.1 Cyflwynodd
Simon yr adolygiad blynyddol o bolisïau cyfrifyddu. Yn yr adroddiad, gwelir
tabl yn cynnwys y safonau cyfrifyddu newydd a diwygiedig, ynghyd â’r dyddiadau
pan ddaw’r safonau hyn i rym sy’n effeithio ar 2022-23 a chyfnodau cyfrifyddu
yn y dyfodol. 10.2 Tynnodd
Simon sylw at un maes ffocws penodol – IFRS 16 (cyfrif am brydlesi), sydd wedi
bod yn destun trafodaethau helaeth mewn cyfarfodydd blaenorol. Nodwyd y byddai
cyfrifon 2022-23 yn cael eu paratoi yn unol â gofynion IFRS 16. 10.3 Nododd y
Pwyllgor yr adroddiad hwn, gan ddiolch i Simon a'i dîm am y wybodaeth
ddiweddaraf. |
|
Blaenraglen Waith Cofnodion: ARAC (23-01)
Papur 10 - Y flaenraglen waith 11.1 Trafodwyd y
flaenraglen waith, a chafodd aelodau newydd eu hannog i awgrymu eitemau yr
hoffent eu trafod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. 11.2 Croesawodd y
Cadeirydd awgrym gan Menai, sef y dylai’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y
rhaglen Ffyrdd o Weithio fod yn eitem sefydlog ym mhob cyfarfod, ochr yn ochr
â’r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Diwygio’r Senedd. 11.3 Yn ogystal,
gofynnwyd i'r tîm Clercio drefnu cyfarfodydd ar gyfer mis Gorffennaf a thymor
yr hydref. Camau
i’w cymryd ·
Darparu
diweddariadau corfforaethol ar y broses o gyflawni’r Rhaglen Ffyrdd o Weithio
ym mhob cyfarfod ARAC, ochr yn ochr â’r diweddariadau corfforaethol ar
Ddiwygio’r Senedd. ·
Y
tîm Clercio i drefnu cyfarfodydd ar gyfer mis Gorffennaf a thymor yr hydref. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Eitem lafar 12.1 Nododd Ed y
byddai'r cyfweliadau ar gyfer rôl y Prif Swyddog Cyllid yn cael eu cynnal ar 27
Chwefror. Cadarnhaodd fod Simon wedi bod mor garedig â chadarnhau y byddai'n
parhau i fod ar gael i'r Comisiwn er mwyn sicrhau parhad yn ystod y broses o
archwilio'r cyfrifon, ac er mwyn sicrhau y byddai’r awenau’n cael eu
trosglwyddo i’r prif swyddog parhaol newydd mewn modd effeithiol. 12.2 Rhoddodd Ed
sicrwydd hefyd fod mesurau interim ar waith mewn perthynas ag ymadawiad y
Pennaeth Adnoddau Dynol, a oedd ar fin digwydd, ac y byddai ymgyrch recriwtio
ar waith maes o law. Bu’r Pennaeth
Archwilio Mewnol yn bresennol mewn sesiwn breifat gydag aelodau’r Pwyllgor wedi
i’r trafodion ffurfiol ddod i ben. Ni chymerwyd cofnodion. Disgwylir i'r
cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar 27 Ebrill 2023. |