Agenda item

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch hynt y broses gynllunio parthed archwilio cyfrifon y Comisiwn ar gyfer 2022-23

Cofnodion:

ARAC (23-01) Papur 4 – cynllun archwilio amlinellol

 

4.1 Croesawodd y Cadeirydd Ann-Marie Harkin a Gareth Lucey i'r cyfarfod. Fel rhan o’r polisi cylchdroi, roedd Clare wedi disodli Gareth Lucey yn rôl y Rheolwr Archwilio. Cadarnhaodd Ann-Marie y byddai gweddill y tîm yn aros yr un peth.

 

4.2 Cyflwynodd Clare gynllun archwilio amlinellol, a oedd yn gynllun lefel uchel iawn, a gofynnodd am adborth gan y Pwyllgor. Roedd yn cynnwys y ffi arfaethedig a manylion y tîm archwilio. Roedd Archwilio Cymru wedi amcangyfrif y byddai'r ffi archwilio yn £68,985, sy'n cynrychioli cynnydd o 15 y cant. Roedd hyn yn seiliedig ar amcangyfrif cynnar o effaith y safon archwilio newydd, sef ISA 315, sy’n gofyn am asesiadau risg mwy manwl gan archwilwyr mwy profiadol a medrus. Nodwyd y byddai gwaith cynllunio manwl yn ystod yr wythnosau nesaf yn arwain at amcangyfrif mwy cywir. Cadarnhaodd Archwilio Cymru na fyddai unrhyw newid i'r trothwy perthnasedd, sef 1 y cant o'r gwariant gros. 

 

4.3 Yn hanesyddol, roedd set gyflawn o gyfrifon archwiliedig yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn ei gyfarfod ym mis Mehefin, ac roedd Archwilio Cymru yn ymwybodol o'r effaith ar y Comisiwn pe bai’r trefniant hwn yn symud i’r cyfarfod ym mis Gorffennaf. Fodd bynnag, yn sgil y cymhlethdod ychwanegol a’r dull gweithredu newydd sydd ynghlwm wrth y safon ISA 315 newydd, ac yn sgil problemau o ran recriwtio archwilwyr mwy profiadol, roedd y sefydliad wedi nodi mis Gorffennaf yn y papur gan nad oedd modd gwarantu y byddai’r gwaith yn cael ei gwblhau mewn pryd ar gyfer y cyfarfod ym mis Mehefin. Nodwyd y byddai amserlen fwy manwl yn cael ei darparu i Simon a'r tîm Cyllid unwaith y bydd y gwaith cynllunio wedi dechrau, ac y byddai Simon yn sicrhau bod aelodau'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn cael gwybodaeth yn rheolaidd.

 

4.4 Diolchodd y Cadeirydd i Archwilio Cymru am y diweddariad hwn. Gofynnodd pa fath o werth a manteision ychwanegol a fyddai'n cael eu darparu i gyfiawnhau cynnydd o 15 y cant yn y ffi.

   

4.5 Roedd Archwilio Cymru yn ymwybodol o'r cyfyngiadau ar gyllidebau yn y sector cyhoeddus, a chadarnhaodd y sefydliad y byddai'r safon newydd yn arwain at allbynnau ac argymhellion o ansawdd uwch, gyda gwell dealltwriaeth o feysydd megis TGCh.

 

4.6 Mewn ymateb i her bellach gan aelodau’r Pwyllgor mewn perthynas â’r amserlen, rhoddodd Archwilio Cymru sicrwydd y byddai’n ceisio cwblhau’r archwiliad ym mis Mehefin ac y byddai’n blaenoriaethu’r gwaith archwilio ar Gomisiwn y Senedd. Fodd bynnag, tynnodd sylw eto at y problemau y mae’n eu hwynebu o ran recriwtio, ynghyd â’r her o gymhwyso methodoleg newydd.

 

4.7 Pwysleisiodd Manon y rhesymau pam fod y Comisiwn yn dymuno i'r cyfrifon gael eu cwblhau erbyn mis Mehefin, yng nghyd-destun prosesau a chyfarfodydd mewnol y Comisiwn, y dasg o alinio cyfres o adroddiadau blynyddol eraill, a'r angen i osod Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn cyn toriad yr haf.

  

Camau i’w cymryd

 

·         Archwilio Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i swyddogion am y cynnydd a wneir o ran cynllunio a pharatoi amserlen fanwl ar gyfer y gwaith archwilio.

 

·         Simon Hart i sicrhau bod y Cadeirydd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau yn y dyfodol gydag Archwilio Cymru ynghylch amserlen a phrosesau’r sefydliad, ac i roi diweddariad i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn ei gyfarfod ym mis Ebrill.