Agenda item

Archwiliad beirniadol o un risg neu fater amserol sydd wedi'i nodi neu sy'n dod i'r amlwg - Diweddariad Corfforaethol - Ffyrdd o Weithio

Cofnodion:

ARAC (23-01) Papur 6 – Diweddariad ynghylch Ffyrdd o Weithio

 

7.1 Rhoddodd Ed drosolwg o'r rhaglen Ffyrdd o Weithio (WoW). Cynlluniwyd y strwythur hwn fel un strwythur rheoli rhaglen, a fyddai’n caniatáu i strategaethau presennol y Comisiwn ynghylch ystadau, pobl a chynaliadwyedd presennol, a'i gynlluniau ar gyfer adolygu capasiti a Dyfodol Ystwyth, gael eu halinio o dan fframwaith strategol.

 

7.2 Cyfeiriodd at nifer o weithgareddau sydd i’w cyflawni yn y ffrydiau gwaith amrywiol, a soniodd am benderfyniad y Comisiwn, ym mis Tachwedd 2022, i gymeradwyo achos busnes parthed arfer y cymal terfynu sydd wedi’i gynnwys yn y brydles ar gyfer swyddfa’r Comisiwn yng ngogledd Cymru, sydd ar hyn o bryd ym Mae Colwyn. Byddai symud i drefniant cydleoli yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno, sef swyddfeydd Sarn Mynach, yn arbed mwy na £100,000 dros gyfnod o bedair blynedd.

 

7.3 Nodwyd y byddai ffrwd waith benodol yn y rhaglen Ffyrdd o Weithio yn gyfrifol am lunio opsiynau a chyngor manwl mewn perthynas â phrydles Tŷ Hywel, a fydd yn dod i ben yn 2032. Roedd y Comisiwn hefyd wedi cytuno i ddatblygu Strategaeth Rheoli Adnoddau er mwyn pennu paramedrau o ran adnoddau a chynllunio'r gweithlu. Yr allbwn a fyddain deillio o'r Strategaeth fyddai Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig, a fyddai’n cynnwys Cynllun Ariannol Tymor Canolig a Chynllun Gweithlu.

 

7.4 Roedd y Pwyllgor yn gwerthfawrogi maint y rhaglen hon, sy’n ymwneud â nifer o wahanol feysydd. Gofynnodd y Pwyllgor a oedd Ed – yn y cyd-destun hwnnw, ac o ystyried yr angen am gydgysylltu agos a pharhaus â rhaglen Diwygio’r Senedd – o’r farn bod y cymysgedd cywir o sgiliau, capasiti a gallu ar waith i reoli’r risgiau a chyflawni’r allbynnau disgwyliedig a’r canlyniadau disgwyliedig.

 

7.5 Cadarnhaodd Ed fod yr adnoddau sydd wedi’u neilltuo ar y gyfer y rhaglen ar hyn o bryd wedi rhoi sicrwydd iddo, ond ychwanegodd ei fod yn y broses o fapio gofynion manwl at y dyfodol. Roedd y Pwyllgor yn ymwybodol o faterion diwylliannol a oedd yn bodoli yn y Swyddfa Rhaglen a Newid yn flaenorol. Nododd y Pwyllgor, er bod y materion hyn bellach wedi’u datrys, fod nifer o swyddi gwag ar gyfer dadansoddwyr busnes o fewn y Comisiwn o hyd.

 

7.6 Roedd cryn dipyn o waith wedi'i wneud i adolygu'r cyllidebau. Roedd hyn yn cynnwys systemau a phrosesau cynllunio ar gyfer materion ariannol, materion gweithlu a materion corfforaethol amrywiol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, cyfnod ariannol 2023-24, a’r cyfnod o dair blynedd y tu hwnt i hynny. Bwriad y gwaith hwn oedd sefydlu Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig (gan gynnwys cynllun ariannol tymor canolig manwl a chynllun gweithlu llawn) erbyn mis Mehefin 2023. Nodwyd y byddai’r broses ar gyfer blaenoriaethu prosiectau yn cael ei chysylltu'n agos â phrosesau cynllunio corfforaethol, ac y byddai adnoddau ar gyfer rheoli prosiectau yn cael eu dyrannu i brosiectau craidd yn unig, a hynny’n seiliedig ar yr offeryn blaenoriaethu.

 

7.7 Mae’r wasg wedi datgelu bod defnydd swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar lefel o oddeutu 20 y cant. Cadarnhaodd Ed fod defnydd Tŷ Hywel ar lefel o oddeutu 50 y cant ar ddiwrnodau busnes ond, yn ôl y disgwyl, yn llawer is ar ddiwrnodau nad ydynt yn ddiwrnodau busnes. Nododd fod y duedd hon wedi bod yn sefydlog am beth amser. Nododd Ed hefyd fod gweithgarwch staff y Comisiwn, fel gweithlu, wedi'i drefnu o amgylch gweithgarwch yr Aelodau – hynny yw, diwrnodau busnes. Mae’r ffaith bod gennym adegau prysur ac adegau llai prysur wedi creu problemau o ran datblygu cynlluniau ar gyfer defnyddio gweithleoedd yn fwy effeithlon. Serch hynny, mae prosiect Tŷ Hywel 2026, o fewn y rhaglen Ffyrdd o Weithio, yn rhan or gwaith cynllunio manwl syn cael ei wneud i fynd ir afael â hyn. Roedd y gwaith o adleoli swyddfa Bae Colwyn yng ngogledd Cymru hefyd yn brosiect ynddo'i hun.

 

7.8 Eglurodd Ed hefyd fod trafodaethau pellach wedi'u cynnal ynghylch creu 'presenoldeb rhanbarthol' ar gyfer staff y Comisiwn, ond nad oedd unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud. Teimlai’r Pwyllgor y gallai’r garfan newydd o Aelodau ar gyfer y Seithfed Senedd wthio am fwy o bresenoldeb rhanbarthol. Cadarnhaodd Ed fod y cam o adleoli swyddfa Gogledd Cymru wedi'i gynllunio’n rhannol er mwyn galluogi'r Comisiwn i ragweld unrhyw alw yn y dyfodol yn hynny o beth, ac ymateb iddo.  

 

7.9 Roedd y Pwyllgor yn ymwybodol o’r angen i sicrhau bod cynhwysiant yn cael ei hyrwyddo bob amser yn y gwaith o ddatblygu strategaethau, a hynny er mwyn ceisio diogelu’r gweithlu at y dyfodol ac er mwyn sicrhau nad yw’r rhaglen Ffyrdd o Weithio yn canolbwyntio gormod ar Fae Caerdydd. Roedd y Pwyllgor yn falch o weld y datblygiadau parthed y rhaglen a gofynion y gweithlu, ac yn cydnabod y pryderon sy’n bodoli ynghylch yr angen am gyfathrebu clir i wahaniaethu rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru mewn unrhyw gynlluniau i gydleoli. 

 

7.10 Yn olaf, yn dilyn dyrchafiad mewnol, cadarnhaodd Ed fod angen rheolwr ar y rhaglen Ffyrdd o Weithio, ond bod cynllun interim yn ei le i lenwi’r rôl hon yn fewnol.