Agenda item

Diwygio'r Senedd - Diweddariad corfforaethol

Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar

 

Cofnodion:

Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar

 

6.1 Croesawodd y Cadeirydd Siwan Davies, Anna Daniel ac Alun Davidson i’r cyfarfod, gan wahodd Siwan i gyflwyno’r eitem. 

 

6.2 Rhoddodd Siwan sicrwydd i’r Pwyllgor fod Rhaglen Diwygio’r Senedd ar y trywydd iawn, gan ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y ffrydiau gwaith sy’n ymwneud â chyllid, busnes y Senedd a’r Bwrdd Taliadau Annibynnol.

 

6.3 Ers cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ym mis Tachwedd, roedd yr amcangyfrifon cost, a oedd wedi'u seilio ar gyfres o ragdybiaethau cyffredin, wedi cael eu cwblhau. Y bwriad oedd eu cyflwyno i'r Comisiwn yn ei gyfarfod ar 23 Mawrth. Pe byddai’r amcangyfrifon yn cael eu cymeradwyo, byddent wedyn yn cael eu rhannu â Llywodraeth Cymru i'w cynnwys yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol i gyd-fynd â'r Bil. Byddai'r costau hefyd yn cael eu hadlewyrchu yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig. 

  

6.4 Mewn perthynas â pharatoadau ar gyfer busnes yn y Seithfed Senedd, roedd gweithdy wedi'i gynnal i fapio cyd-ddibyniaethau a rolau a chyfrifoldebau rhanddeiliaid. Roedd trefniant gweithio ar y cyd wedi'i gytuno rhwng y Comisiwn a'r Bwrdd Taliadau Annibynnol, ac roedd gwaith ar y gweill ar fanylion y broses o roi’r trefniant hwn ar waith yn ymarferol, o ystyried statws annibynnol y Bwrdd.

 

6.5 O  ran llywodraethu, roedd adolygiadau yn mynd rhagddynt mewn perthynas â risgiau corfforaethol a risgiau rhaglen yn nghyd-destun diwygio’r Senedd, a’r gwaith o fapio cyfrifoldebau rhanddeiliaid. Nodwyd y byddai canlyniad yr adolygiad sylfaenol o risgiau corfforaethol, a fyddai'n cynnwys cysylltiadau â'r Rhaglen Ffyrdd o Weithio, yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol ym mis Ebrill. Nodwyd hefyd y byddai Bwrdd Rhaglen Diwygio’r Senedd yn trafod cofrestr risg y rhaglen yn ei gyfarfod nesaf. Nodwyd y byddai matrics atebolrwydd, sef y matrics Cyfrifoldeb, Atebolrwydd, Ymgynghori, Hysbysu (yn Saesneg, ‘Responsible, Accountable, Consult, Inform’, neu RACI), yn cael ei fabwysiadu i amlinellu’r ffiniau rhwng Comisiwn y Senedd, Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Taliadau Annibynnol.

 

6.6 Roedd gan y Pwyllgor ddiddordeb mewn cael amserlen fanwl i’w helpu i ddeall ar ba adegau y byddai’r Comisiwn yn gwneud ymrwymiadau ariannol, yn ogystal ag elfennau deddfwriaethol y rhaglen. 

 

Eglurodd Siwan fod gwaith ymgysylltu a chraffu ar ddeddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru yn fusnes craidd i’r Senedd, ac y byddai’n digwydd pan fyddai’r Senedd yn cytuno ar y model diwygio. Nid oedd fformat y gweithgarwch ymgysylltu wedi'i gytuno, er bod trafodaethau cynnar wedi'u cynnal gyda'r Comisiwn Etholiadol ynghylch y prif negeseuon. Gallai’r broses ddiwygio ddigwydd ar lefel sylfaenol iawn, a bydd addysgu’r cyhoedd yn hanfodol. Nodwyd y byddai’r gwaith craffu ar y ddeddfwriaeth yn dechrau yn nhymor yr hydref, a bod cyllideb wedi'i dyrannu i'r rhaglen yn y flwyddyn ariannol gyfredol a'r flwyddyn ariannol nesaf. Mae gwaith eisoes ar y gweill i baratoi’r Siambr ar gyfer Aelodau ychwanegol, a nodwyd y byddai hyn yn cael ei nodi’n glir fel gwariant sy’n ymwneud â Diwygio’r Senedd. 

 

6.7 Cydnabu’r Pwyllgor y byddai lefelau diddordeb ymhlith y cyhoedd yn cynyddu wrth i adroddiadau gael eu cyhoeddi ar elfennau ariannol y broses ddiwygio, ac y byddai’r berthynas rhwng Aelodau ac etholwyr yn newid yn sylweddol.   Anogodd Ken y swyddogion i fod mor agored a thryloyw â phosibl o ran eu hamcangyfrifon sy’n ymwneud â’r rhaglen ddiwygio, yn enwedig gan y byddai’r Pwyllgor Cyllid yn cynnal adolygiad o’r gwariant hwn.

 

6.8 Roedd y Bwrdd Taliadau Annibynnol wedi cynnig cynnal cyfweliadau ag Aelodau presennol o'r Senedd er mwyn clywed eu sylwadau ar 'ganolfannau rhanbarthol' a/neu'r posibilrwydd o drefniant rhannu swyddfeydd ymhlith yr Aelodau, pe bai hynny'n cael ei nodi fel y model a ffefrir.

 

6.9 Wrth gael ei herio ynghylch cadernid yr amcangyfrifon, ac ynghylch sut y byddai’r costau’n cael eu hadolygu’n barhaus yn sgil y ffaith ei bod yn anochel y byddai’r ddeddfwriaeth yn newid, mynegodd Siwan hyder yn y ffigurau, gan eu bod yn cyd-fynd â’r prosesau ariannol presennol ac yn rhan o gynllunio ariannol canol tymor y Comisiwn. Nodwyd y byddai proses ar gyfer gwaith dadansoddi cychwynnol yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru o ran diweddaru’r costau wrth i’r Bil fynd drwy’r broses graffu. Yn ogystal, amlinellodd Siwan gynlluniau i leihau costau a gwneud y defnydd gorau o’r wybodaeth a’r arbenigedd seneddol sydd ar gael ar hyn o bryd, drwy adleoli staff i ganolbwyntio ar weithgarwch ar draws y ffrydiau gwaith amrywiol.

 

6.10 Roedd y cynnydd sy’n cael ei wneud ar gynlluniau ar gyfer rhaglen drawsnewid mor fawr wedi creu argraff dda ar y Pwyllgor, yn enwedig o gofio bod gweithgarwch busnes yn parhau fel arfer. Croesawodd y Pwyllgor y diweddariadau rheolaidd hyn.