Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 335KB) Gweld
fel HTML (354KB) |
||
(09.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Aelodau i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Jocelyn Davies. Dirprwyodd Alun
Ffred Jones ar ei rhan. |
|
(09.00-09.05) |
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1
Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Adroddiad i Uwchgynhadledd Fach Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (Mai 2015) Dogfennau ategol: |
||
(09.05-10.35) |
Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru PAC(4)-31-15 Papur 1 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Simon Dean - Prif Weithredwr Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr Dr Peter Higson - Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith Simon Dean, Prif Weithredwr Dros Dro a
Dr Peter Higson, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fel rhan
o'r ymchwiliad i lywodraethu byrddau iechyd. 3.2 Cytunodd Simon Dean i anfon rhagor o wybodaeth am: · Cydleoli ar
draws ardal y Bwrdd mewn perthynas â gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i
oriau. · Meysydd
penodol a nodwyd ynglŷn â gallu'r tîm anweithredol a sut y mae'r Bwrdd yn
bwriadu gwella hyn · Ffigurau
cyfredol sy'n dangos presenoldeb yng nghyfarfodydd y Bwrdd · Yn dilyn y
cyfarfod o'r Bwrdd sydd ar ddod, nodyn ar y penderfyniad a wnaed i gydlynu'r
strwythur pwyllgorau presennol · Cyfanswm
costau'r cynghorwyr annibynnol a benodwyd i gynorthwyo'r Bwrdd hyd yma a
gwerthusiad o'u defnydd · Y cynnydd mewn
gwasanaethau mamolaeth a ddarperir yn Ysbyty'r Countess of Chester · Y diweddaraf
am gynigion y Bwrdd ar gyfer Gofal Sylfaenol · Cadarnhad
ynghylch a gafodd Adroddiad Holden ei rannu â Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth
Gofal Iechyd Cymru · Sut y mae'r
Bwrdd wedi gwella ei weithdrefn trin cwynion a sut mae'n tracio cwynion ar ôl
iddynt gyrraedd y system gan gynnwys cwynion hir sefydlog ac a fydd y rhain
wedi'u cwblhau cyn diwedd mis Mawrth 2016 · Beth yw'r
broses o fewn y Bwrdd Iechyd ynghylch trin adroddiadau CIC |
|
(10.35) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 5 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.35-11.00) |
Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law. |