Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Michael Kay
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod. |
||
(09:00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
(09:00-09:05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Cwrdd â’r Heriau Ariannol sy’n Wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Llythyr gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (6 Tachwedd 2014) Dogfennau ategol: |
||
Llywodraethiant Byrddau Iechyd GIG Cymru: Llythyr gan Dr Andrew Goodall (10 Tachwedd 2014) Dogfennau ategol: |
||
Cyfrifon Cyfunol Blynyddol Llywodraeth Cymru 2013-14: Llythyr gan Syr Derek Jones (14 Tachwedd 2014) Dogfennau ategol: |
||
Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Dr Andrew Goodall (18 Tachwedd 2014) Dogfennau ategol: |
||
Swyddfa Archwilio Cymru: Llythyr gan Jocelyn Davies AC (18 Tachwedd 2014) Dogfennau ategol: |
||
(09:05-10:30) |
Cwrdd â’r Heriau Ariannol sy’n Wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru Briff ymchwil Y Cynghorydd Dyfed Wyn Edwards – Arweinydd Cyngor Gwynedd Y Cynghorydd Andrew Morgan – Arweinydd Cyngor Bwrdeistref
Sirol Rhondda Cynon Taf Christopher Lee - Cyfarwyddwr Grŵp, Gwasanaethau
Corfforaethol a Rheng Flaen, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Y Cynghorydd Neil Moore – Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg Sian Davies – Rheolwr Gyfarwyddwr, Cyngor Bro Morgannwg Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1Holodd y Pwyllgor y Cynghorydd Dyfed Wyn
Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor
Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Christopher Lee, Cyfarwyddwr Grŵp, Gwasanaethau Corfforaethol a Rheng
Flaen, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a Sian Davies,
Rheolwr Gyfarwyddwr Cyngor Bro Morgannwg, yn fanwl am gwrdd â’r heriau ariannol
sy’n wynebu llywodraeth leol. |
|
(10:30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 5 Cofnodion: 4.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:30-11:00) |
Cwrdd â’r Heriau Ariannol sy’n Wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Ystyried y dystiolaeth a gafwyd Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a
gafwyd, a chytunwyd y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu, gan dynnu sylw
Llywodraeth Cymru at nifer o faterion a godwyd yn ystod y cyfarfod. 5.2 Bydd Swyddfa
Archwilio Cymru yn darparu nodyn ar adroddiad diweddar y Swyddfa Archwilio
Genedlaethol ar Gynaliadwyedd Ariannol Awdurdodau Lleol [yn Lloegr] 2014. |