Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Tom Jackson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9:00 - 9:05) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau o’r cyhoedd. 1.2 Croesawodd y
Cadeirydd Lindsay Whittle AC, a diolchodd yn ffurfiol i Leanne Wood AC am ei
chyfraniad i waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. 1.3 Cafwyd
ymddiheuriadau oddi wrth Aled Roberts, ac roedd Eluned Parrot yn dirprwyo ar ei
ran. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 3. Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor i gwrdd yn breifat ar gyfer eitem 3. |
||
(9:05 - 9:15) |
Ystyried yr adroddiad drafft, 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus' Cofnodion: 3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad, ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011’, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan. |
|
(9:15 - 10:00) |
Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru - Tystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Sefydliad Tai Siartredig Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion Keith
Edwards, Cyfarwyddwr Cydraddoldeb
a Chyfiawnder Cymdeithasol,
CiH Cymru; Elin Jones, Rheolwr Tai ac Adfywio, CiH Cymru;
Victoria Hiscocks, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, CiH Cymru; Sue Finch, Swyddog Polisi Tai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Tony Jaques, Pennaeth Gwasanaethau Tai Cyhoeddus – Cyngor Bro Morgannwg; a Robin Staines, Pennaeth
Gwasanaethau Tai – Cyngor
Sir Caerfyrddin. 4.2 Bu’r Aelodau yn holi’r tystion. |
|
(10:00 - 11:00) |
Rheoli Grantiau yng Nghymru - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Croesawodd y Cadeirydd Y Fonesig Gillian
Morgan, Ysgrifennydd Parhaol
Llywodraeth Cymru; Michael
Hearty, Cyfarwyddwr Cyffredinol,
Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad; ac Arwel Thomas, Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol 5.2 Bu’r Aelodau
yn craffu ar dystiolaeth gan y Swyddog Cyfrifyddu. 5.3 Cytunodd y Pwyllgor
i ysgrifennu at y Swyddog Cyfrifyddu i ofyn am wybodaeth ychwanegol mewn ateb i gwestiynau
nis cyrhaeddwyd
yn ystod y sesiwn hon. Cam i’w gymryd: • Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu siart yn amlinelllu’r
lleihad dros amser yn nifer
ei chynlluniau grant. |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan
Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru 6.2 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan
Lywodraeth Cymru ynghylch Cyfranogiad y Cyhoedd o ran Ailgylchu Gwastraff 6.3 Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod 20 Mawrth 2012. |
||
Trawsgrifiad |