Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9:20 - 9:25)

1.

Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i benodi Cadeirydd dros dro yn absenoldeb y Cadeirydd.

 

Cofnodion:

1.1 Gofynnodd y Clerc am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd dros dro i’r Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.22. Cafodd Andrew RT Davies ei enwebu gan Mohammad Asghar. Drwy hynny, penodwyd Andrew RT Davies yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y cyfarfod hwn a chyfarfod nesaf y Pwyllgor, ar 6 Rhagfyr 2011.

(09:25 - 09:30)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Estynnodd y Cadeirydd Dros Dro groeso i aelodau’r Pwyllgor ac i’r cyhoedd.

 

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar; roedd Andrew RT Davies yn dirprwyo ar ei ran.

 

(09.30 - 11.00)

3.

Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011 - Yr Heriau Ariannol Allweddol a Wynebir gan Wasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru: Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

Papur: PAC(4) 07-11 – Papur 1 – Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru: Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011

 

Gillian Morgan, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru

June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Michael Hearty, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad

Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Llywodreath Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Estynnodd y Pwyllgor groeso i’r Fonesig Gillian Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol; June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau; Michael Hearty, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad; a Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

3.2 Estynnodd y Pwyllgor groeso hefyd i Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Mark Jeffs, Swyddfa Archwilio Cymru. 

 

3.3 Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i’r tystion.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         Proffil o’r arbedion y bydd adrannau Llywodraeth Cymru yn eu gwneud dros y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

·         Rhagor o fanylion am gyllid ychwanegol a oedd ar gael i’r gwasanaeth iechyd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

·         Sut y defnyddiwyd methodoleg ddarbodus i ddatblygu Cyswllt Ffermio, gan gynnwys dulliau o leihau’r amser y mae’n rhaid i gwsmeriaid aros.

·         Atebion i’r cwestiynau na chyrhaeddodd y Pwyllgor yn ystod y cyfarfod.

4.

Papurau i'w nodi

Papur: PAC(4) 06-11 – Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cadarnhaodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod ar 8 Tachwedd 2011.

 

Trawsgrifiad