Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF280KB) Gweld
fel HTML (234KB). |
||
(09.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r Aelodau i’r cyfarfod. 1.2
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. 1.3
Datganodd Jocelyn Davies fuddiant gan fod aelod o’i
theulu yn cael ei gyflogi gan Thomson Airways ym Maes Awyr Caerdydd, ond nid oedd
yn gweithio yn y lleoliad hwnnw yn ystod y cyfnod caffael. |
|
(09.00-09.05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1
Nodwyd y papur. |
|
(09.05-10.30) |
Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn Dystiolaeth 1 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Roger Lewis – Cadeirydd, Maes Awyr Caerdydd Debra Barber – Rheolwr Gyfarwyddwr a Phrif Swyddog
Gweithredu, Maes Awyr Caerdydd Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Roger Lewis, Cadeirydd, a Debra
Barber, Rheolwr Gyfarwyddwr a Phrif Swyddog Gweithredu, Maes Awyr Caerdydd fel
rhan o’r ymchwiliad i gaffael a pherchnogaeth Llywodraeth Cymru o Faes Awyr
Caerdydd 3.2 Cytunodd Debra Barber i ddarparu ffigurau ar drwybwn teithwyr o’r tu
allan a gallu’r maes awyr yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd ac Uwchgynhadledd NATO. 3.3 Estynnodd Roger Lewis wahoddiad i’r Pwyllgor i ddod ar ymweliad i weld
y gwelliannau a wnaed i’r seilwaith yn y maes awyr. |
|
(10.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 5 & 6 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.30-10.40) |
Maes Awyr Caerdydd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(10.40-11.00) |
Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Trafod yr adroddiad drafft PAC(4)-04-16 Papur 1 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, gan gytuno arno yn amodol ar
rai mân newidiadau. |