Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 344KB) Gweld
fel HTML (347KB) |
||
(09.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Aelodau i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Sandy Mewies. Dirprwyodd Keith
Davies ar ei rhan. 1.3
Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar. |
|
(09.00-09.05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1
Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Simon Dean, Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (16 Tachwedd 2015) Dogfennau ategol: |
||
Cyllid Iechyd 2013-14: Llythyr gan Gyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr y GIG, Llywodraeth Cymru (16 Tachwedd 2015) Dogfennau ategol: |
||
(09.05-10.35) |
Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol/Prif Weithredwr, GIG Cymru, Llywodraeth Cymru Joanna Jordan - Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethiant
a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG, Llywodraeth Cymru Martin Sollis – Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru Janet Davies - Cynghorydd Arbenigol – Ansawdd a Diogelwch, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth
Cymru; Joanna Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Gwasanaethau Corfforaethol a
Llywodraethu, Llywodraeth Cymru; Martin Sollis, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth
Cymru; a Janet Davies, Cynghorydd Arbennig - Ansawdd a Diogelwch, Llywodraeth
Cymru, fel rhan o'i ymchwiliad i lywodraethu byrddau iechyd. 3.2 Cytunodd Dr Goodall i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am: · Y broses
benodi ar gyfer aelodau annibynnol o'r byrddau iechyd · Y llwybrau a
pherthnasau sydd gan Fwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr yn eu lle ar gyfer
gwasanaethau arennol o ran y model both ac adenydd. · Rhagamcan o
sefyllfa ariannol pob bwrdd iechyd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2015-16 3.3 Yn ystod Eitem 5, wrth drafod y dystiolaeth a gafwyd, gofynnodd yr
Aelodau am gael gwybod beth yw statws uwchgyfeirio pob bwrdd iechyd. |
|
(10.35) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 5 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.35-11.00) |
Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law. |