Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Buckle 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 335KB) Gweld fel HTML (354KB)

(09.00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1       Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Aelodau i’r cyfarfod.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Jocelyn Davies. Dirprwyodd Alun Ffred Jones ar ei rhan.

 

(09.00-09.05)

2.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Adroddiad i Uwchgynhadledd Fach Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (Mai 2015)

Dogfennau ategol:

(09.05-10.35)

3.

Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru

PAC(4)-31-15 Papur 1

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Simon Dean - Prif Weithredwr Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dr Peter Higson - Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith Simon Dean, Prif Weithredwr Dros Dro a Dr Peter Higson, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fel rhan o'r ymchwiliad i lywodraethu byrddau iechyd.

3.2 Cytunodd Simon Dean i anfon rhagor o wybodaeth am:

·       Cydleoli ar draws ardal y Bwrdd mewn perthynas â gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau.

·       Meysydd penodol a nodwyd ynglŷn â gallu'r tîm anweithredol a sut y mae'r Bwrdd yn bwriadu gwella hyn

·       Ffigurau cyfredol sy'n dangos presenoldeb yng nghyfarfodydd y Bwrdd

·       Yn dilyn y cyfarfod o'r Bwrdd sydd ar ddod, nodyn ar y penderfyniad a wnaed i gydlynu'r strwythur pwyllgorau presennol

·       Cyfanswm costau'r cynghorwyr annibynnol a benodwyd i gynorthwyo'r Bwrdd hyd yma a gwerthusiad o'u defnydd

·       Y cynnydd mewn gwasanaethau mamolaeth a ddarperir yn Ysbyty'r Countess of Chester

·       Y diweddaraf am gynigion y Bwrdd ar gyfer Gofal Sylfaenol

·       Cadarnhad ynghylch a gafodd Adroddiad Holden ei rannu â Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

·       Sut y mae'r Bwrdd wedi gwella ei weithdrefn trin cwynion a sut mae'n tracio cwynion ar ôl iddynt gyrraedd y system gan gynnwys cwynion hir sefydlog ac a fydd y rhain wedi'u cwblhau cyn diwedd mis Mawrth 2016

·       Beth yw'r broses o fewn y Bwrdd Iechyd ynghylch trin adroddiadau CIC

 

(10.35)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitem 5

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.35-11.00)

5.

Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.