Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Kay
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2
Esgusododd Jocelyn Davies ei hun ar gyfer Eitem 3 o dan Reol Sefydlog 18.8.
Dirprwyodd Alun Ffred Jones. |
|
(09:00-09:10) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1
Cafodd y papurau eu nodi. 2.2
Cytunodd y Clerc i ymateb i Dr Andrew Goodall (eitem 2.1) yn gofyn am eglurder
ffeithiol ynglŷn â chwestiwn Aled Roberts ar agweddau gweithredol ar y
gwasanaeth y tu allan i oriau (tudalen 13 o'r adroddiad BIPBC). |
|
Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Andrew Goodall (30 Mehefin 2014) Dogfennau ategol: |
||
Consortia Addysg Rhanbarthol: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol: |
||
Y rhaglen waith: Llythyr gan y Dirprwy Andrew Lewis, Cadeirydd, Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Taleithiau Jersey (2 Gorffennaf 2015) Dogfennau ategol: |
||
(09:10-10:10) |
Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru Cofnodion: 3.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wybodaeth i'r Pwyllgor am ei
adroddiad sydd ar y gweill (i'w gyhoeddi ar 15 Gorffennaf) ar Gronfa Buddsoddi
Cymru mewn Adfywio (RIFW). |
|
(10:10-10:40) |
Diwygio Lles: Trafod yr adroddiad drafft PAC(4)-21-15 Papur 1 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft, a chytunwyd arno, yn amodol
ar rai mân newidiadau. Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi yn ddiweddarach y mis
hwn. |