Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Kay
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld
trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
(09.00-09:05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1
Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (20 Ebrill 2015) Dogfennau ategol: |
||
(09.05-09.50) |
Amseroedd Aros a Thargedau Perfformiad Allweddol y GIG Sesiwn Briffio Swyddfa
Archwilio Cymru Peter Meredith-Smith – Cyfarwyddwr, y Bwrdd Cynghorau
Iechyd Cymuned yng Nghymru Mary Williams – Cadeirydd, Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Dr Paul Worthington – Prif Swyddog, Cyngor Iechyd Cymuned
Cwm Taf Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Peter Meredith-Smith, Cyfarwyddwr
Bwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru, Mary Williams, Cadeirydd, Cyngor
Iechyd Cymuned Cwm Taf a Dr Paul Worthington, Prif Swyddog, Cyngor Iechyd
Cymuned Cwm Taf ar yr ymchwiliad i Amseroedd Aros a Thargedau Perfformiad
Allweddol y GIG. 2.1 Cytunodd Peter Meredith-Smith i ddarparu manylion am nifer y cwynion yn
ymwneud â chyfathrebu ac achosion ar draws Cymru pan fo cleifion wedi dioddef o
ganlyniad i aildrefnu eu hapwyntiad a chrynodeb, gan CIC, o nifer y materion a
godwyd trwy wybodaeth, pryder a chwyn |
|
(09.50-10.35) |
Amseroedd Aros a Thargedau Perfformiad Allweddol y GIG Sesiwn Briffio Swyddfa
Archwilio Cymru Allison Williams – Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Cwm Taf Ruth Treharne – Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad,
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Allison Williams, Prif Weithredwr,
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Ruth Treharne, Cyfarwyddwr Cynllunio a
Pherfformiad, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ar yr ymchwiliad i Amseroedd Aros
a Thargedau Perfformiad Allweddol y GIG. 4.2 Cytunodd Allison Williams i ddarparu: · Adroddiad
diweddaraf y Bwrdd Iechyd sydd yn dangos y tafl-lwybrau o un mis i'r llall
ynghyd â chanran y cleifion sydd wedi methu targedau · Copi o gynllun
tair blynedd cyfredol y Bwrdd Iechyd · Templedi o bob
llythyr apwyntiad a roddwyd i gleifion · Nodyn ar
wasanaethau Offthalmoleg o fewn y Bwrdd Iechyd · Nodyn ar sut y
mae cleifion, sydd yn aros am driniaeth ar hyn o bryd, sydd yn symud i ardal y
Bwrdd Iechyd o'r tu allan i Gymru, yn cael eu hychwanegu at restrau aros fel
nad ydynt o dan anfantais. · Nodyn ar
amserlenni'r gwaith archwilio sy'n cael ei wneud ar apwyntiadau dilynol i
gleifion hirdymor (cleifion nad oes ganddynt apwyntiadau dilynol wedi'u trefnu) |
|
(10.35) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 6,
a'r cyfarfod a gynhelir ar 5 Mai 2015 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.35-11.00) |
Amseroedd Aros a Thargedau Perfformiad Allweddol y GIG: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |