Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Kay
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(09:00-09:05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. 2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a
Sgiliau i ofyn am amserlen glir o ran y camau gweithredu yn ôl ei argymhellion
ar y Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon. |
|
Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb: Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau (25 Chwefror 2015) Dogfennau ategol: |
||
Strategaeth leoli Llywodraeth Cymruy: Letter from the Permanent Secretary, Welsh Government (4 Mawrth 2015) Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth - Y Pwyllgor: Llythyr gan Paul Martin MSP, Gynullydd, Y Pwyllgor Archwilio Cyhoeddus , Senedd yr Alban (4 Mawrth 2015) Dogfennau ategol: |
||
(09:00-10:00) |
Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau 2014: Sesiwn dystiolaeth 1 Syr Derek Jones – Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu, Llywodraeth Cymru Gawain Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaethau Ariannol, Llywodraeth Cymru Peter Ryland, Dirprwy Gyfarwyddwr, Perfformiad Rhaglenni a Chyllid, Swyddfa
Cyllid Ewropeaidd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Bu’r Pwyllgor yn holi Llywodraeth Cymru’n
fanwl ar ei Adroddiad Blynyddol ar Reoli Grantiau. 3.2 Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu
nodyn ar: ·
y colledion
posibl sy’n ddyledus o ganlyniad i sefydliadau sydd mewn diddymiad; ·
nifer y cwynion
gan y trydydd sector am y ffordd y mae grantiau wedi’u gweinyddu, a’r
achlysuron lle nad yw tri mis o rybudd cyn terfynu contract wedi’i roi; ·
nifer yr
achosion a oedd wedi’u cynnwys yn yr archwiliad sampl, a lefelau’r diffyg
cydymffurfio o fewn y sampl hwnnw; ·
y 35 o
grantiau a ddaeth i ben yn 2013/14; ·
a yw pob un
o’r Awdurdodau Lleol yn mynychu ac yn cyfrannu at Hyfforddiant Awdurdod Lleol a
ddarperir gan CIPFA (drwy CLlLC) a Llywodraeth Cymru / Swyddfa Archwilio Cymru;
a ·
y cyllid
grant gwerth £22 miliwn sydd wedi’i neilltuo i’r GIG. |
|
(10:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 5 a 6 o'r cyfarfod heddiw ac Eitemau 1 a 2 ar gyfer y cyfarfod
ddydd Mawrth 17 Mawrth. Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:00-10:30) |
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Ystyried yr Adroddiad Drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar Ofal
Iechyd Parhaus y GIG, a chytunodd ar nifer fach o newidiadau. |
|
(10:30-11:00) |
Amseroedd Aros y GIG: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Ystyriodd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth
Cymru i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Amseroedd Aros y GIG, a
chytunodd i wahodd Cadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned a Bwrdd Iechyd i ddarparu
tystiolaeth lafar mewn cyfarfod yn y dyfodol. 6.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Dr
Andrew Goodall i holi am yr amserlen ar gyfer gweithredu’r argymhellion y
cytunwyd arnynt, fel y nodir yn ei lythyr. |